EN

Partneriaethau byd-eang sy'n gweithio mewn Undod

Hub Cymru Africa yw prif sefydliad datblygu rhyngwladol ac undod byd-eang Cymru. Rydym yn cefnogi sefydliadau ar draws Cymru i adeiladu cysylltiadau a phrosiectau cynaliadwy mewn partneriaeth â sefydliadau yn Affrica a thu hwnt.

Darganfod mwy

Mae Cynllun Grant Cymru ac Affrica ar agor!

Mae cylch 2 Cynllun Grant Cymru ac Affrica ar agor nawr i ymgeiswyr. Gan weithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara, gall mudiadau wneud cais am grantiau rhwng £5,000 – £25,000 i wneud cyfraniad diriaethol i iechyd, dysgu gydol oes, newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd a/neu bywoliaethau cynaliadwy. Dyddiad cau: 21 Rhagfyr 2026.

Ceisio

Eich cefnogi ar bob cam o'r ffordd

Mae Hub Cymru Africa yn darparu ystod amrywiol o gymorth ar gyfer eich lefel o angen. O ddiogelu i lywodraethu, cymorth un-i-un a chyfleoedd ariannu, rydym yma i’ch cefnogi.

Cael Cefnogaeth

Partneriaethau dan arweiniad pobl leol

Ein gweledigaeth yw creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n gweithredu mewn undod â phobl Affrica.

Ein cenhadaeth yw bod yn gatalydd dros newid, a chyfrannu at ganlyniadau datblygu byd–eang trwy gefnogi cymuned Cymru ac Affrica.

Ein gwaith Ein Hamcanion
Hiking towards Jonathan's Gate and Bushman's Nek Pass in the Southern Drakensberg.

Ein gweledigaeth yw creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, sy’n gweithredu mewn undod â phobl Affrica.

Y newyddion diweddaraf

Gweld pob un