Rhagair: Adroddiad Defnydd Cymuned Cymru Affrica o Offer Digidol

Categories: Newyddion, BarnPublished On: 10th February, 2021367 words1.8 min read

Rhagair: Adroddiad Defnydd Cymuned Cymru Affrica o Offer Digidol

Categories: Newyddion, BarnPublished On: 10th February, 202116.7 min read

Cafodd gwerth offer digidol i greu cymunedau ar draws gwledydd a gweithio tuag at nod cyffredin ei ddangos yn eithriadol o glir yn ystod 2020. Mae pandemig byd-eang Covid-19 a mudiad Bywydau Du o Bwys wedi creu cyfleoedd i ni adlewyrchu ar yr hyn rydym yn ei wneud a pham, a chyflymu newid. Drwy addasu gallwn weithio tuag at gyfiawnder yn yr hinsawdd a gellir rhoi mwy o bŵer i bartneriaid.

Nid yw sefydliadau bach, gwasgariad a Chysylltiadau Iechyd y GIG bellach yn teithio i ymweld â’u partneriaid a theuluoedd ar draws Affrica, ond yn hytrach wedi troi i barhau i wneud llawer o’u gwaith trwy lygad y ffôn clyfar, amryw blatfformau addysgu ar-lein a phecynnau anfon negeseuon. Mae eu gallu i newid, addasu a’r gallu i gydweithio a sefyll mewn partneriaeth ac undod wedi bod yn falm i’r galon ac yn ganlyniad cadarnhaol o’r pandemig hwn.

Comisiynodd Hub Cymru Africa yr adroddiad asesiad o ahengion hwn i gynorthwyo’r pontio digidol yng nghymuned datblygiad rhyngwladol Cymru ac i asesu pa offer oedd yn cael eu defnyddio yma a gan ein partneriaid yn Affrica ac ar draws y DU. Y nod yw deall cyfleoedd a heriau’r ffordd newydd, ddigidol hon o weithio ond hefyd i ddynodi cyfleoedd i’r dyfodol am weithgareddau ar y cyd a ffyrdd newydd o gydweithio.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn arolygon, gweithdai a chyfweliadau ac rwy’n gobeithio y gallwch weld gwerth eich parodrwydd i rannu a chyfrannu at ddysgu yn y sector a adlewyrchir yn y tudalennau hyn. Diolch yn arbennig i Julia Rosser a ymgymerodd â’r gwaith hwn ar ein rhan, a Hannah Sheppard yn nhîm Hub Cymru Africa, sydd wedi cydlynu’r gwaith hwn o’r dechrau i’r diwedd.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys rhai argymhellion amlwg  i gyllidwyr a sefydliadau o ran y ffordd rydym yn gweithio gyda’n partneriaid. Mae gallu enfawr i sefydliadau bach wneud gwell defnydd o dechnoleg am ddim yn eu gwaith gyda phartneriaid ac mae Hub Cymru Africa’n edrych ymlaen at weithio gyda chi ar yr ymdrech honno.

Claire O’Shea
Pennaeth y Bartneriaeth

Cliciwch yma i weld adnoddau offer digidol newydd