“Dirymu Prydain Fyd-eang”- Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru

Categories: Datganiadau i’r WasgPublished On: 14th July, 2021616 words3.1 min read

“Dirymu Prydain Fyd-eang”- Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru

Categories: Datganiadau i’r WasgPublished On: 14th July, 202128 min read

Adwaith i bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar dorri’r ymrwymiad o 0.7% i’r gyllideb Cymorth Datblygu Dramor

Mae Cymorth Datblygu Dramor yn achub bywydau.  Mae’n ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb na ddylem fyth gamu i ffwrdd oddi wrtho.  Dyma pam y mae pleidlais heddiw yn ergyd sylweddol i bobl dlotaf y byd ac yn gadarnhad nad yw Llywodraeth y DU yn cadw ei haddewidion.

Mae’r Canghellor wedi dweud y byddai’r gyllideb gymorth yn dychwelyd i 0.7% o’r Incwm Gwladol Gros (GNI), os bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn rhagweld: i) y bydd y diffyg cyfredol (benthyca ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd) yn gostwng islaw sero, a, ii) y bydd dyled fel cyfran o GDP yn gostwng.  Byddai’r amodau ond wedi cael eu bodloni unwaith yn yr 20 mlynedd diwethaf.  Mae’r lefel ormesol o uchel a osodwyd gan Ganghellor y Trysorlys, Rishi Sunak AS, yn golygu bod hwn yn doriad amhenodol i’n cyllideb undod byd-eang.

Ar ôl canrifoedd o elwa ar gael cyfoeth trwy wladychu, o ddatblygu drud ar garbon ac sydd yn dinistrio natur, mae’n ddyletswydd ar wledydd incwm uchel fel ein gwlad ni i ysgwyddo ein cyfrifoldeb, er mwyn ein bod i gyd yn gallu cyflawni dyfodol cynaliadwy a chyfiawn.

Mae gan Gymru draddodiad o undod byd-eang y dylai ymfalchïo ynddo.  Mae’r elusen flaenllaw yng Nghymru, Interburns, yn un enghraifft o’r gwaith sydd yn achub bywydau y mae cyllideb gymorth y DU yn ei chefnogi, sydd, trwy ei gwaith gyda phartneriaid, wedi dangos gwelliannau gwirioneddol a mesuradwy ar draws yr holl wasanaethau llosgiadau a gynhelir mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Mae Cymru a’r DU yn falch o’r gwaith sydd yn achub bywydau y defnyddir yr arian hwn i’w wneud.  Yn 2015, deddfodd Llywodraeth Glymbleidiol y DU bryd hynny ar yr ymrwymiad i ddyrannu 0.7% o GNI i gymorth datblygu dramor.

“Byddwn yn falch o gynnal ein hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygu, a gwneud mwy i helpu gwledydd sydd yn derbyn cymorth i fod yn hunangynhaliol” – dyma’r hyn a addawodd llywodraeth y DU i’r bobl 19 mis yn unig yn ôl.  Heddiw, mae’r addewid balch hwnnw wedi cael ei dorri.

Eleni, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, mae Llywodraeth y DU yn cynnal uwchgynadleddau’r G7 a COP26.  Dylent fod wedi achub ar y cyfle hwn i ddangos arweinyddiaeth fyd-eang trwy gamu ymlaen ac ymrwymo i gymorth datblygu dramor, gan sicrhau bod pobl dlotaf y byd a chenedlaethau’r dyfodol yn gallu cyflawni.

Dywedodd Claire O’Shea, Cadeirydd Grŵp Asiantaethau Dramor Cymru (WOAG):

“Mae’r rheolau amhosibl a osodwyd gan y Canghellor yn golygu bod y toriad hwn i Gymorth Datblygu Dramor hanfodol yn ei hanfod yn amhenodol ac yn barhaol.  Mae’n dirymu ‘Prydain Fyd-eang’ ac mae’n gyfeiliornus yn foesol.

“Bydd yr effaith tymor byr ar fywydau yn ddinistriol.  Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaethom ofyn am fap ffordd clir yn ôl i’n hymrwymiad o 0.7%.  Nid map ffordd yw hwn, ond cam gwag.  Penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud sydd yn troi ‘Prydain Fyd-eang’ yn ‘Brydain Fach’.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi’r toriad hwn ar unwaith.”

Nodiadau i’r golygydd

  • Am gyfweliadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa

petergilbey@hubcymruafrica.org.uk | 07495 008 927

  • Grŵp Asiantaethau Tramor ar Twitter:

https://twitter.com/woagwales

  • Cadeirydd WOAG, Claire O’Shea ar Twitter:

https://twitter.com/closhea

  • Aelodau’r Grŵp Asiantaethau Tramor:

Cafod

Cymorth Cristnogol

DEC Cymru

Anabledd yng Nghymru ac Affrica

Oxfam Cymru

Y Groes Goch

Achub y Plant

Maint Cymru

Tearfund

UP

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Hub Cymru Africa