Adolygiad o Bartneriaethau Iechyd Cymru ac Affrica

Categories: NewyddionPublished On: 16th November, 2021582 words2.9 min read

Adolygiad o Bartneriaethau Iechyd Cymru ac Affrica

Categories: NewyddionPublished On: 16th November, 202126.5 min read

Yn ystod cynhadledd flynyddol Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica eleni, lansiwyd yr Adolygiad o Bartneriaethau Iechyd Cymru a’rGweithgaredd Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru | Adolygiad Cyflym:

Partneriaethau Iechyd Cymru Gydag Affrica: Gwneud y gorau o’r potensial er lles y ddwy ochr

Mae gan Gymru hanes hir o ymwneud mewn modd cadarnhaol gyda gwledydd incwm isel a chanolig ac rydym mewn cyfnod nawr sy’n cynnig cyfle sylweddol. Wrth i ni ailadeiladu yn dilyn pandemig sydd wedi amlygu anghyfiawnder a rhyng-gysylltiadau ar lefel fyd-eang, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r adroddiad hwn, sy’n ystyried gweithgaredd rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara. Mae’n canolbwyntio ar gyfleoedd cyllido Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) gyda golwg ar gael y manteision gorau posib o ymgysylltu byd-eang i GIG Cymru.

Partneriaethau Iechyd Cymru Gydag Affrica: Gwneud y gorau o’r potensial er lles y ddwy ochr [PDF]

Gweithgaredd Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru | Adolygiad Cyflym

Mae’r adolygiad hwn yn cofnodi’r asedau sylweddol sydd ar gael i Gymru ym maes iechyd rhyngwladol, gan edrych ar draws pob sector. Mae Cymru yn gartref i brifysgolion sy’n arwain yn fyd-eang, system iechyd a gofal unedig, sector masnachol gwyddorau bywyd ffyniannus, gweithgaredd byd-eang nad yw er elw, a’r cyfan yn cael eu cefnogi gan bolisïau cenedlaethol eangfrydig sy’n edrych tua’r dyfodol. Mae’r adolygiad yn ystyried y ffyrdd y gall Cymru gynyddu gwerth ei ymwneud â iechyd rhyngwladol, er budd y wlad yn fasnachol ac o ran enw da.

Gweithgaredd Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru | Adolygiad Cyflym [PDF]