Cyfnerthydd gan Hub Cymru Africa
Cyfnerthydd gan Hub Cymru Africa
Mae Hub Cymru Africa yn llawn cyffro i gyhoeddi, yn nes ymlaen eleni, y byddwn yn lansio prosiect newydd sbon – Cyfnerthydd – wedi ei ariannu gyda chymorth y DU gan lywodraeth y DU.
Mae sefydliadau bach, wedi eu harwain gan wirfoddolwyr yng Nghymru yn cael anhawster yn aml i broffesiynoli i’r safonau sy’n ofynnol i gael grantiau mwy. Rydym hefyd yn gweld tuedd negyddol o ran cyfranogiad y cyhoedd yn cefnogi Datblygu Byd-eang.
Nod Cyfnerthydd yw rhoi cymorth i gynyddu gwybodaeth sefydliadau a gwella arferion o ran datblygu prosiectau a rheolaeth elusennol. Y nod hefyd yw galluogi sefydliadau i gael mynediad at hyfforddiant, adnoddau ac offer.
Bydd y cyfranogwyr yn gallu cymryd rhan mewn pum ffordd wahanol:
- Cwrs (cyrsiau) dysgu ar-lein 8 wythnos
- Grwpiau clwstwr – cymunedau dysgu ar y cyd
- Digwyddiad ar-lein ‘Cwrdd â’r Noddwr’
- Digwyddiadau Dysgu ar y Cyd gydag ymarferwyr ar y cyfandir
- Ymgyrchu dros yr Achos Cefnogi
Fel arfer, mae’r cymorth y mae Hub Cymru Africa yn ei gynnig am ddim i unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd wedi eu lleoli yng Nghymru sydd yn gweithio ym maes cefnogi neu Ddatblygu Rhyngwladol. Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi nad yw cymorth y prosiect hwn wedi ei gyfyngu i’r rheiny sydd yn gweithio yn Affrica Is-Sahara ac rydym yn croesawu’r rheiny y mae eu gwaith yn digwydd unrhyw le yn y byd i gymryd rhan.
Cofiwch ddilyn ein diweddariadau ar ein gwefan ac ar ebost, a’n cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth am y prosiect newydd, cyffrous hwn!
Os hoffech fwy o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch yn advice@hubcymruafrica.org.uk.