Briffio | Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ddatblygiad Rhyngwladol

Categories: NewyddionPublished On: 18th January, 20241542 words7.7 min read

Briffio | Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar Ddatblygiad Rhyngwladol

Categories: NewyddionPublished On: 18th January, 202470.1 min read

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Phapur Gwyn ar Ddatblygiad Rhyngwladol, sy’n gosod dull y llywodraeth bresennol o ymdrin ag un o heriau allweddol ein hoes. Mae’r papur briffio hwn yn tynnu sylw at y prif bwyntiau ar gyfer rhanddeiliaid Cymru ac Affrica.

Beth yw papur gwyn?

Mae papurau gwyn yn ddogfennau polisi sydd yn cael eu cynhyrchu gan y llywodraeth, sy’n gosod cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol. Maen nhw’n darparu’r sail ar gyfer ymgynghori â rhanddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb ymhellach. Yn gyffredinol, maen nhw’n rhagflaenu Bil, sef y broses sydd yn arwain at droi uchelgeisiau a syniadau yn gyfraith. Gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, efallai na fydd y papur hwn yn ei wneud mor bell â hynny. Mewn cyfarfod gydag Andrew Mitchell, y Gweinidog Datblygu, sicrhaodd ni ei fod ef a’i gydweithwyr wedi ymgynghori â’r prif bleidiau gwleidyddol yn y DU. Mae’n gobeithio y bydd gan y papur hirhoedledd, gan fod yr egwyddorion yn gysylltiedig â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy y cytunwyd arnynt yn fyd-eang.

Beth ofynnodd grwpiau yng Nghymru amdano?

Rhai wythnosau yn ôl, rhannodd Hub Cymru Affrica holiadur ymgynghori i bobl roi eu barn ar yr hyn y dylid ei gynnwys yn y papur.  Gan ei fod yn gais agored, cawsom atebion gan lawer o wahanol fathau o sefydliadau. Roedd rhai o’r prif themâu yn cynnwys hyrwyddo heriau ac atebion sy’n benodol i wlad, defnyddio ein harbenigedd i helpu gwledydd i ddatrys materion, i lywodraethau datganoledig gael cynrychiolaeth mewn fforymau amlochrog, gwneud gwell defnydd o’n sectorau prifysgol a busnes, dathlu ein llwyddiannau mewn partneriaethau dan arweiniad y gymuned, ac ymgysylltu â chyrff anllywodraethol ar lawr gwlad sydd â chysylltiadau uniongyrchol â chymunedau wedi’u hymyleiddio. Fe wnaeth Hub Cymru Affrica gynnwys yr holl safbwyntiau a gafwyd yn yr ymateb i’r ymgynghoriad a ysgrifennwyd gennym i gynrychioli’r sector bywiog yng Nghymru.

Pam fod y papur hwn mor bwysig?

Nid ydym ar y trywydd iawn i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Dim ond 15% o ddangosyddion y Nodau Datblygu Cynaliadwy fydd yn cael eu bodloni erbyn 2030. Mewn byd cynyddol gyfnewidiol a chystadleuol, mae datblygu byd-eang a chydweithredu yn bwysicach nag erioed, ond mae’n ymddangos yn fwy heriol. Mae 701 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi eithafol, yn bennaf yng ngwledydd Affrica Is-Sahara. Mae effaith newid hinsawdd yn cael ei deimlo gan bawb ym mhobman, ond yn fwyaf difrifol mewn gwledydd sy’n datblygu. Mae anghenion dyngarol ar eu huchaf ers 1945. Mae newidiadau demograffig yn achosi heriau ym mhob gwlad. Mae’n bryd ailystyried yn radical sut y gallem ddod o hyd i atebion cadarnhaol. Mae’r papur hwn yn nodi’r hyn y mae gan Lywodraeth y DU y pŵer a’r awydd i’w gyflawni.

Beth sydd yn y papur gwyn i fynd i’r afael â’r heriau?

Mae’r papur yn cynnwys polisïau a syniadau ar gyfer y rhan fwyaf o sectorau yn y DU. Ar gyfer Sefydliadau Anllywodraethol Rhyngwladol bach yng Nghymru a chymdeithas sifil, Pennod 9 yw’r un pwysicaf; mae’n gosod y cyfeiriad y dylem fod yn anelu ato. Mae cwmpas y ddogfen yn enfawr, fel y dylai fod, o ystyried maint yr heriau sydd o’n blaenau a’r rhagolwg llwm os nad ydym yn llwyddo i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Mae’r papur yn nodi ei gynllun ym mhenawdau’r 9 pennod:

  1. The challenge we face
  2. UK International Development and our approach
  3. Mobilising the money
  4. International System Reform
  5. Tackling climate change and biodiversity loss and delivering economic transformation
  6. Ensuring opportunities for all
  7. Tackling conflict and state fragility, disasters and food insecurity 
  8. Harnessing Innovation and digital transformation 
  9. Civil Society and Expertise. 

Mae yna lawer o agweddau ar y papur y mae’r sector wedi’u croesawu. Mae’r Papur Gwyn yn symud yn glir i ffwrdd o Global Britain (y brand blaenorol), yn nôl i rywbeth sydd llawer mwy mewn partneriaeth â’r gwledydd sy’n profi tlodi eithafol. Prif amcan Cymorth Datblygu Tramor (ODA) yw lliniaru tlodi. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth y DU wedi trafod cymorth fel proses i gyflawni buddiannau Prydain.

Mae yna ddychwelyd hefyd, at egwyddor graidd y Nodau Datblygu Cynaliadwy: ‘Leave No One Behind.’ Er nad yw’r papur yn defnyddio’r iaith o ‘ddatdrefedigaethu datblygiad’ fel y mae Hub Cymru Affrica ac eraill wedi ei wneud am y 4 blynedd diwethaf, mae’r papur yn cadw at yr egwyddorion. Mae’n cydnabod nad yw ariannu byd-eang yn addas i’r diben, ac mae angen ei ddiwygio, fel y gall gwledydd sy’n datblygu gael mynediad at adnoddau ac arian, fel gwledydd mwy datblygedig. Mae’n angenrheidiol ac yn galonogol bod y materion systemig byd-eang yn cael sylw yn y papur, yn ogystal â darparu prosiectau a rhaglenni. 

Mae parodrwydd i dderbyn risg tymor byr uwch i gryfhau ‘arweinyddiaeth leol’. Bydd y DU yn adeiladu ar ein cryfderau a gydnabyddir yn fyd-eang, ac yn gweithio i newid i bartneriaeth, gan flaenoriaethu parch at y ddwy ochr. Bydd ODA yn cael ei dargedu at y gwledydd incwm isaf. I grwpiau Cymru ac Affrica, mae ymrwymiadau addawol i gymdeithas sifil.

Mae technoleg a materion digidol yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth yn nyfodol datblygu, ac mae ystyriaeth lawn wedi’i rhoi i’r heriau mae’n eu cynnig, ond yn bennaf, y cyfleoedd mae’n eu cyflwyno. Fel maes datblygu newydd, mae cyfle i bobl a grwpiau sydd ag arbenigedd symud i’r maes hwn, ac ennill cefnogaeth gan y llywodraeth.

Beth mae hyn yn ei olygu i grwpiau yng Nghymru?

Mae’r papur yn cydnabod gwaith rhagorol cymdeithas sifil fel partneriaid cyflenwi, arweinwyr meddwl, ac actorion annibynnol yn eu rhinwedd eu hunain. O ganlyniad, mae ymrwymiad i gynnig arian cyfatebol newydd, ac adeiladu ar raglenni gwerthfawr fel UK Aid Direct ac UK Aid Match. Bydd nifer o grwpiau yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gael cyllid DFID neu FCDO yn y gorffennol, yn croesawu’r cyfle i wneud cais eto, ac arallgyfeirio eu ffrydiau incwm.

Mae gan Gymru ddiwydiannau diwylliannol a chreadigol ffyniannus. Mae’r papur yn tynnu sylw at y sectorau hyn fel rhai pwerus a hanfodol ar gyfer ymgysylltu byd-eang. Bydd sefydliadau’n harneisio arbenigedd y DU, ac yn ei ddefnyddio i gefnogi datblygu sgiliau mewn cymunedau lleol, a diogelu treftadaeth cenhedloedd bregus.

Mae’r Papur Gwyn yn nodi uchelgeisiau i ategu ymdrechion cymunedau diaspora sy’n weithgar ym maes datblygiad rhyngwladol. Mae’r papur yn cydnabod cymunedau diaspora fel ased sylweddol i’r DU, ar lefel domestig a byd-eang. Mae Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) yn bartner hanfodol yn Hub Cymru Affrica, ac mae wedi cefnogi cymunedau diaspora i gael mynediad at gyllid ac arbenigedd. Mae llywodraeth y DU yn amlinellu dull o gymorth sy’n ymestyn i entrepreneuriaeth a buddsodd mewn busnesau. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at rôl gryfach i SSAP, a’r grwpiau a’r elusennau maen nhw’n gweithio gyda nhw. 

Mae cymunedau Cymru ac Affrica wedi ymfalchïo ar ‘fodel Cymru’ bob amser, sy’n cael ei arwain gan y gymuned a’i wneud yn bennaf mewn partneriaeth â grwpiau yn Affrica. Gallai’r papur hwn gael ei ystyried yn fap trywydd i fwy o’r sector gyflawni’r hyn y mae llawer o grwpiau yng Nghymru wedi bod yn modelu ers blynyddoedd. 

Mae ffocws y papur ar weithio gyda’r cenhedloedd tlotaf a mwyaf bregus, llawer ohonynt yn Affrica Is-Sahara, yn gadarnhaol o safbwynt lleddfu tlodi eithafol, ond mae hefyd yn cyd-fynd â blaenoriaethau rhaglen Cymru ac Affrica sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, a’n perthynas hirsefydlog ag Uganda a Lesotho.

Oes unrhyw beth i boeni amdano?

Mae’r DU yn wynebu heriau cyllidol, nad oedd erioed yn gliriach i’r sector datblygu na phan wnaeth llywodraeth y DU dorri cyllideb ODA 0.7%. Mae ymrwymiad i ddychwelyd i’r gyllideb uwch, dim ond pan fydd y sefyllfa ariannol yn caniatáu. Ein barn ni yw y bydd hyn yn debygol o fod ar ôl 2030. Os yw’r uchelgeisiau yn y papur yn mynd i gael eu bodloni, rydym angen ymrwymiad, a dychwelyd yn gyflym i 0.7%. Mae uchelgais y papur yn wych, ond mae angen ei ddiwallu ag uchelgais ariannol. 

Bydd yr ymrwymiadau i ariannu cymdeithas sifil gydag arian cyfatebol yn peri problemau i lawer o grwpiau yng Nghymru. Nid oes gan lawer o grwpiau strategaeth codi arian gryf, na rhoddwyr a chymunedau a fydd yn defnyddio adnoddau ar y lefelau sydd eu hangen. Bydd Hub Cymru Affrica yn lobïo am gyllid priodol ar gyfer grwpiau yng Nghymru sydd ddim yn cosbi grwpiau sydd heb y gallu i godi arian. 

Eglurodd y Gweinidog fod cefnogaeth drawsbleidiol i’r papur ar lefel y DU. Ond pan ofynnwyd iddo am gefnogaeth gan y llywodraethau datganoledig, roedd hi’n amlwg nad oedd yr un ymrwymiad wedi cael ei gyrraedd. Am y tro, mae’r papur yn cyd-fynd â llawer o’r gweithgarwch presennol yng Nghymru. Ond gan nad yw datblygu yn gymhwysedd datganoledig, mae’n rhaid i benderfyniadau Llywodraeth y DU adlewyrchu’r anghenion yng Nghymru. Rydym yn gobeithio na fydd gormod o wahaniaeth yn y dyfodol, ac y bydd Cymru’n cael ei chynrychioli pan fydd y papur yn cael ei droi’n gyfraith. 

Yn olaf, o Hub Cymru Affrica…

Byddwn yn parhau i adolygu safbwynt Llywodraeth y DU, a sicrhau bod ein hyfforddiant, cynadleddau a chymorth datblygu yn berthnasol i amcanion y papur. Gallwn gefnogi grwpiau i gael mynediad at gyllid FCDO, a sicrhau bod datblygiad, gweithio mewn partneriaeth a lliniaru tlodi dan arweiniad cymunedau lleol wrth wraidd y gwaith.