Cystadleuaeth Ffotograffiaeth | Ailffurfio’r Naratif

Categories: Newyddion, Erthygl NodweddPublished On: 18th March, 2021265 words1.3 min read

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth | Ailffurfio’r Naratif

Categories: Newyddion, Erthygl NodweddPublished On: 18th March, 202112 min read

Mae’n bleser gan Hub Cymru Africa a Phanel Cynghori Is-Sahara gyhoeddi cystadleuaeth ffotograffiaeth i gau ein prosiect #AilffurfiorNaratif blwyddyn o hydMae’r gystadleuaeth ar agor i ffotograffwyr o Affrica ac o Gymru, sydd â chysylltiadau o weithio gyda phartneriaid.

Y thema eleni yw Undod, a bydd ffotograffau buddugol yn cael eu cynnwys mewn arddangosfa ar-lein.

Dyddiad Lansio: 19 Mawrth 2021

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 31 Rhagfyr 2021

Arddangosfa: 1 Mawrth 2022 

Cynulleidfa: Cymuned Cymru Affrica

  • Ffotograffwyr yn Affrica Is-Sahara sydd â chysylltiadau i Gymru
  • Ffotograffwyr o Gymru sydd â chysylltiadau i Affrica Is-Sahara.

Categorïau:

  • Ffotograffydd Proffesiynol
  • Ffotograffydd Armatwr

Ceisiadau:

  • Uchafswm o 3 llun fesul ffotograffydd
  • Dylech gynnwys teitl a chapsiwn 50 gair ar gyfer bob ffotograff, sy’n disgrifio pwy, beth, ble, pryd a pham.

Nod y prosiect ydy hyrwyddo delweddau a chanfyddiadau cadarnhaol o Affrica a phobl Affricanaidd. Mae ffotograffiaeth yn cofnodi digwyddiadau ac yn adrodd stori, ond mae’n rhaid i luniau fodloni’r canlynol hefyd:

  • Cynnwys cyd-destun 
  • Dangos undod 
  • Ceisio osgoi bod yn ecsbloetiol (yn enwedig at ddiben codi arian).

Meini prawf:

  • Dylai’r llun(iau) ddangos dealltwriaeth glir o’r term “Undod
  • Mae’n rhaid darparu tystiolaeth o gydsyniad gwybodus  
  • Ni ellir golygu ffotograffiaeth gyda meddalwedd golygu lluniau
  • Mae’n rhaid i’r ffotograffydd roi caniatâd i’r llun(iau) gael eu defnyddio gan HCA a SSAP ar gyfer y gystadleuaeth hon/arddangosfa ar-lein, ac at ddibenion hyrwyddo. Bydd unrhyw ddefnydd o’r llun(iau) y tu allan i’r gystadleuaeth hon ac mewn gweithgareddau cysylltiedig yn cael ei drafod yn uniongyrchol gyda’r ffotograffydd.

Bydd y gwerthoedd canlynol yn cael eu hystyried wrth farnu ceisiadau:

  • Parch
  • Urddas
  • Ymwybyddiaeth
  • Caniatâd.