Gwersi o Adolygiad Hanner Ffordd Springboard

Categories: NewyddionPublished On: 22nd March, 2022949 words4.7 min read

Gwersi o Adolygiad Hanner Ffordd Springboard

Categories: NewyddionPublished On: 22nd March, 202243.1 min read

Cyflwyniad a chefndir

Gyda chefnogaeth Grant Meithrin Gallu’r Gronfa Her Elusennau Bach, sefydlodd Hub Cymru Affrica brosiect dwy flynedd – Springboard – yng nghanol mis Ionawr 2021. Pwrpas Springboard yw cryfhau’r sector undod byd-eang yng Nghymru drwy ddarparu hyfforddiant, adnoddau a chyfleoedd i gydweithio a rhannu dysgu drwy wahanol gymunedau ymarfer, a chanolbwyntio ar bynciau fel gwrth-hiliaeth a rhyw.

Ar y pen-blwydd cyntaf, fe wnaethom gomisiynu adolygiad i asesu’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn, i ddeall effeithiau aci ystyried sut i gymhwyso’r gwersi sydd wedi cael eu dysgu.

Mae blwyddyn gyntaf Springboard wedi cael ei rhedeg mewn cyd-destun hynod heriol, yn bennaf oherwydd y pandemig COVID-19, gyda gweithio o bell, dysgu plant o gartref a phrinder staff i gyd yn cael effaith. Fodd bynnag, rydym ar y trywydd iawn yn gyffredinol, ac wedi cyrraedd cyfanswm o 59 o sefydliadau yn y flwyddyn gyntaf a nawr,  rydym yn hyderus bod modd cyflawni’r gwaith arfaethedig. Rydym yn adlewyrchu a dysgu hefyd er mwyn gwella ar gyfer yr ail flwyddyn, a’r olaf.

Dyma rywfaint o’r uchafbwyntiau!

Cwrs Rheoli Prosiectau

Y pethau rydym wedi eu cyflawni

  • 20 o gyfranogwyr
  • Roedd y rheini a gwblhaodd y cwrs yn dweud ei fod yn ddefnyddiol iawn ac yn berthnasol i’w gwaith
  • Dywedodd cyfranogwyr bod y ffordd yr oeddent yn cynllunio neu’n rhannu dysgu gyda’u partneriaid tramor wedi newid
  • Datblygodd cyfranogwyr gynlluniau, polisïau a gweithdrefnau newydd gyda’u partneriaid (e.e. dangosyddion prosiectau, dadansoddi rhanddeiliaid, damcaniaeth newid, cynllun asesu anghenion).

Y pethau rydym wedi eu dysgu

  • Roedd rhai cyfranogwyr yn teimlo bod y cwrs yn eithaf trwm a dwys, felly fe adawodd rhai tua’r diwedd
  • Fe wnaethom sylweddoli y gadawodd rhai yn arbennig pan oeddem yn annog sefydliadau i gymryd rhan ar y cyd â’u partneriaid yn Affrica (a thu hwnt).
  • Mae’n rhaid i ni sicrhau bod yr holl ddeunyddiau’n hygyrch a bod dewisiadau amgen neu ‘ffyrdd o weithio o gwmpas pethau’, rhag ofn y bydd cyfranogwyr yn wynebu heriau gyda’u cysylltiad rhyngrwyd e.e. toriadau pŵer a chost bwndeli data.

Y pethau rydym wedi eu newid

  • O ganlyniad i adborth, yn ogystal â bod ar gael ar-lein, cafodd cynnwys y cwrs ei e-bostio yn wythnosol, a chafodd y sesiynau Zoom eu symleiddio
  • Fel ymateb pellach, rydym yn bwriadu addasu’r ffordd y bydd ein cwrs nesaf yn cael ei gyflwyno, a fydd yn canolbwyntio ar godi arian, ac a fydd yn cyd-fynd á’r wythnos Meet the Funders.
  • Bydd llai o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu’n annibynnol o bell, a mwy ar gymorth unigol un i un, wedi’i deilwra i anghenion a chwestiynau penodol.

Digwyddiad Safbwyntiau Rhoddwyr a gweithgareddau Meet the Funder

Y pethau rydym wedi eu cyflawni

  • Derbyniwyd adborth positif iawn am y 4 gweminar a’r 26 o sesiynau cyngor un i un hyn, a chafodd nifer o gyyslltiadau newydd eu gwneud
  • Cafwyd cadarnhad bod 5 o’r sefydliadau a gymerodd ran yn y gweithgareddau Meet the Funder wedi llwyddo wedyn, i gael arian gan gyfranogwyr oedd yn rhoi grantiau.

Y pethau rydym wedi eu dysgu

  • Cymerodd cyfanswm o 46 o unigolion ran, gan adlewyrchu’r pwysau cynyddol ar gyllid i sefydliadau bach. Fel y cadarnhaodd un o’r cyllidwyr:

“Given the competitiveness of the round, and success rate, it’s clear the event was useful.”

  • Fodd bynnag, ni wnaethom neilltuo digon o amser ar gyfer yr holl waith paratoi, gweinyddu a logisteg y mae cyfres o ddigwyddiadau o’r maint a’r hyd hwn yn gofyn amdano.

Y pethau rydym wedi eu newid

  • Yn ein gwaith cynllunio ar gyfer Meet the Funder 2022, rydym yn caniatáu mwy o amser ar gyfer cynllunio, gweinyddu a chydlynu
  • Byddwn yn sicrhau hefyd, ein bod ni’n adeiladu gwaith dilynol i mewn gyda chyllidwyr a rhoddwyr grantiau yn ogystal â chyfranogwyr, i asesu defnyddioldeb ac effaith sesiynau, gan gynnwys canlyniadau ariannu.

Podlediad

Y pethau rydym wedi eu cyflawni

  • Cynhyrchwyd y podlediad cyntaf, ar y thema gweithio mewn partneriaeth, yn llwyddiannus gydag aelodau o’r gymuned undod byd-eang yng Nghymru a Rwanda ym mis Gorffennaf 2021, a chafodd ei gyhoeddi yn y mis Tachwedd canlynol.
  • Mae wedi cael ei lawrlwytho 43 gwaith hyd yn hyn.

Y pethau rydym wedi eu dysgu

  • Rydym wedi dysgu’r sgiliau technegol angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu podlediadau, ac wedi nodi’r hyn sy’n gweithio orau ar gyfer gwneud recordiadau, ynghyd â gwersi fel y pwysigrwydd o gadw recordiad wrth gefn, bod angen paratoi’n dda, a darparu sesiynau briffio i siaradwyr ar ffocws y podlediad.

Y pethau rydym wedi eu newid

  • Rydym wedi ystyried dewisiadau gwrandawr wrth lunio tôn, cynnwys a hyd cyffredinol podlediadau, ac wedi gwella ein sgiliau technegol a briffio siaradwyr yn ystod y broses gynhyrchu.

Edrych tua’r dyfodol

Ar gyfer ail flwyddyn, a blwyddyn olaf Springboard, byddwn yn parhau i addasu ein gwaith yng ngoleuni’r gwersi a ddysgwyd. Er enghraifft, wrth gynllunio digwyddiadau cymhleth, mae addasiadau’n cynnwys neilltuo mwy o amser ar gyfer gwaith gweinyddu a logisteg, a sicrhau mwy o gynhwysiant a hygyrchedd o ran deunyddiau a chyfleusterau.

Rydym yn symud cydbwysedd cyrsiau ar-lein hefyd, o ddysgu’n annibynnol o bell, i ddysgu un i un, gyda chyngor a chymorth dilynol. Bydd ein hymgyrch Case for Solidarity yn rhedeg o fis Gorffennaf tan fis Rhagfyr, gyda diwrnodau trafod ac arddangosfa wedi’i chynllunio tua diwedd y cyfnod ymgyrchu.

Mae amser ac adnoddau prin, yn enwedig yn achos sefydliadau dan arweiniad gwirfoddolwyr, yn parhau i achosi rhwystrau sylweddol i gryfhau gallu yn y sector undod byd-eang yng Nghymru. Mae angen parhaus hefyd, i fynd i’r afael ag agweddau a chanfyddiadau ynghylch gweithio mewn partneriaeth a thegwch e.e. sicrhau bod partneriaid yn gallu cael mynediad i rwydweithio a hyfforddiant.

Er gwaethaf yr heriau, rydym yn falch o’r hyn rydym wedi gallu ei gyflawni ym mlwyddyn gyntaf Springboard.