Gwahoddiad i dendro ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyfieithu i’r Gymraeg

Categories: Erthygl Nodwedd, Datganiadau i’r Wasg, NewyddionPublished On: 24th November, 2021400 words2 min read

Gwahoddiad i dendro ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyfieithu i’r Gymraeg

Categories: Erthygl Nodwedd, Datganiadau i’r Wasg, NewyddionPublished On: 24th November, 202118.2 min read

Mae partneriaeth Hub Cymru Africa yn chwilio am gyflenwr gwasanaethau cyfieithu i’r Gymraeg ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cyfnod hwn. Rydym yn amcangyfrif y bydd angen cyfieithu tua 70,000 o eiriau’r flwyddyn.

Bydd y gwasanaeth cyfieithu ar gyfer amrywiaeth o ddogfennau fel disgrifiad o weithdai a chynadleddau a bywgraffiadau, canllawiau a pholisïau, adroddiadau, cynnwys ar gyfer y we a datganiadau i’r wasg.

Rydym eisiau sicrhau bod yr iaith yr ydym yn ei defnyddio yn gynhwysol ac yn wrth-hiliol ac rydym wedi datblygu geirfa o dermau yn https://bit.ly/3DdXmhI.  Rydym yn disgwyl i’n cyflenwr newydd weithio gyda ni i sicrhau cysondeb tebyg o ran terminoleg yn y cyfieithiadau Cymraeg, trwy ehangu’r eirfa i’r Gymraeg.

Ynglŷn â Hub Cymru Africa

Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sydd yn cefnogi Cymuned Cymru Affrica, gan ddod â gwaith Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori Is-Sahara a Masnach Deg Cymru ynghyd.  Rydym yn cynrychioli’r sector cydsafiad rhyngwladol yng Nghymru.

Y Cais

Yn eich cais, nodwch

  •       Ddyfynbris am y gwaith, yn cynnwys yr holl gostau, yn cynnwys TAW, ac ar ba sail y byddech yn dymuno anfonebu (anfoneb fisol, sefydlog neu yn ôl y gwaith a wnaed)
  •       Amser ar gyfer cyflawni gwaith cyffredinol, ac ar gyfer eitemau brys
  •       Eich dull o ddychwelyd cyfieithiadau (ein dewis ni fyddai i chi gwblhau’r gwaith trwy rannu dogfennau ar Google Drive)
  •       Sut byddwch yn rheoli cyfnodau pan fyddwch yn absennol ac yn methu gwneud y gwaith eich hun
  •       Eich ymrwymiad i ddeall mynegiant iaith o ran y gwaith yr ydym yn ei wneud, yn arbennig yn ymwneud â hil
  •       Sut byddwch yn sicrhau cywirdeb cyfieithiadau e.e. cymwysterau a DPP, aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac ati
  •       Eich profiad yn ymwneud â gweithio gyda sefydliadau eraill i gyflawni contractau tebyg
  •       Manylion o leiaf dau fusnes yr ydych wedi gweithio gyda nhw fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw am eirda
  •       Eich ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac i gynaliadwyedd amgylcheddol (yn berthnasol i sefydliadau yn unig)
  •       Tystiolaeth o yswiriant indemniad proffesiynol (atodwch gopi)
  •       Tystiolaeth o hyfywedd ariannol, e.e. y copi mwyaf diweddar o gyfrifon y cwmni (yn berthnasol i sefydliadau yn unig)

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y tendr hwn, cysylltwch â CathieJackson@hubcymruafrica.org.uk.

Dylid cyflwyno tendrau yn Saesneg i’r cyfeiriad ebost uchod erbyn 5pm ar ddydd Mawrth 14eg Rhagfyr 2021.