Hyb Cymru Affrica yw’r mudiad Datblygu Rhyngwladol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn 2015, ac mae’n bartneriaeth o bedwar mudiad: Masnach Deg Cymru, Panel Cynghori Is-Sahara, Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Ein prif ariannwr yw Llywodraeth Cymru, trwy Raglen Cymru ac Affrica. Rydym hefyd yn cael ein hariannu trwy’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu trwy Gronfa Her Elusennau Bach a’r Gydweithfa Cymdeithas Sifil, sef mudiad rydym yn perthyn iddo ynghyd â’n cymheiriaid yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Rydym yn gweithio gyda mwy na 200 o sefydliadau ac unigolion ledled Cymru o sector amrywiol, sy’n cynnwys sefydliadau dan arweiniad Affrica-Alltud, masnach deg, grwpiau ffydd, partneriaethau’r GIG a chysylltiadau cymunedol. Trwy ein gwaith, rydym yn rhoi cymorth i grwpiau yng Nghymru i gyflawni gwaith mewn partneriaeth â mudiadau yn Affrica i’r De o’r Sahara, gan ganolbwyntio ar addysg, iechyd, bywoliaeth gynaliadwy a newid yn yr hinsawdd. Rydym yn gweithio i wella arfer, gwreiddio diogelu, cyfathrebu am y materion sy’n effeithio ar ein partneriaid ac adeiladu rhwydweithiau sy’n gweithio tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Adeiladu ar ein Cryfderau

Mae gan Gymru hanes hir a balch o bartneriaeth ryngwladol. Lansiodd Cymru a Lesotho y fenter gefeillio rhwng gwledydd gyntaf ym 1985; lansiwyd rhaglen Cymru dros Affrica yn 2008. Yn 2008 daeth Cymru’n Wlad Masnach Deg gyntaf y byd. Rydym wedi cymryd ein rôl fel gwlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang o ddifrif, gan gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015; sy’n cynnwys datblygiad cynaliadwy mewn deddfwriaeth am y tro cyntaf. Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Nawr yw’r amser i adeiladu ar yr uchelgeisiau hyn. Rydym yn carlamu trwy’r ‘degawd o weithredu’ tuag at 2030, y terfyn amser a bennwyd ar gyfer cyflawni’r nodau datblygiad cynaliadwy.

Cyn i’r pandemig byd-eang daro, nid oeddem ar y trywydd iawn i gyflawni pob un o Nodau Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig; amcangyfrifwyd y byddai 6% o boblogaeth y byd yn dal i fyw mewn tlodi yn 2030. Mae Covid-19 wedi golygu’r cynnydd cyntaf mewn tlodi byd-eang ers degawdau. Nid lleihau tlodi eithafol yw’r unig uchelgais; mae angen rhoi sylw brys i 16 o amcanion arall. Ym mhob rhan o’r byd ac eithrio Gogledd America ac Ewrop mae ansicr- wydd ynghylch bwyd yn gwaethygu ac mae arweinwyr busnes a chymdeithas sifil wedi dweud mai’r pryder llethol ar gyfer y dyfodol yw diffyg gweithredu ar newid hinsawdd. Tarfwyd ar systemau iechyd ledled y byd, a hyd yn oed cyn i Covid-19 daro, rhagwelwyd y byddai 200 miliwn o blant allan o’r ysgol yn 2030. Os nad oeddem yn ei wybod o’r blaen, rydym bellach yn ymwybodol iawn o ba mor gydgysylltiedig yw ein byd. Mae llesiant Cymru’n dibynnu i raddau helaeth ar lesiant pawb. Nawr mae’n rhaid i ni wthio hyd yn oed yn galetach i sicrhau bod anghydraddoldebau byd-eang yn cael eu lleihau a bod y nodau datblygu cynaliadwy yn cael eu cyflawni.

Gweledigaeth ar gyfer Undod Byd-eang

Bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn mynd â ni hyd at 2026, ac mae’n ddyletswydd arnynt i wneud ymrwymiadau uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Er mwyn sicrhau ein bod yn chwarae ein rôl; rydyn ni eisiau llywodraeth sy’n arddangos Cymru am ei holl gryfderau. Rydyn ni wedi adeiladu sylfaen ragorol fel gwlad fach gyfrifol yn fyd-eang sy’n cyflawni pethau gwych. Ond, mae angen i ni wneud mwy i ganu ar y llwyfan byd-eang; rhaid i ni beidio â bod yn oddefol yn wyneb yr heriau hyn.

Mae’r sector undod byd-eang yn allweddol mewn cynorthwyo Cymru i gyflawni hyn. Fel gwlad sy’n gyfrifol yn fyd- eang, rydyn ni eisiau sector datblygu a’n ymateb i fyd modern; un sydd ddim ynghlwm â gwladychiaeth ond sy’n ymwneud â datblygiad byd-eang mewn partneriaeth ac yn cydnabod bod y materion hyn yn effeithio ar bawb, gan ymateb i heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd. Nid yw’n ddigon ‘gwneud dim niwed’ – rhaid i ni fod yn rhagweithiol, gan adeiladu ar yr hyn rydym yn ei wneud a datblygu polisïau sy’n rhoi cymorth gweithredol i sicrhau gwell dyfodol i’r cenedlaethau sydd i ddod. Mae gan hyd yn oed ein gweithredoedd lleiaf y potensial i greu newid; gadewch i ni wneud y newid hwnnw’n rhywbeth positif.

10 Argymhellion ar gyfer model datblygu byd-eang cynaliadwy at y dyfodol

  • Llunio strategaeth ddatblygu fyd-eang ar y cyd â phartneriaid yng Nghymru ac Affrica i’r De o’r Sahara, sy’n seiliedig ar bartneriaeth a materion sy’n peri pryder i’r naill garfan a’r llall
  • Dangos ymrwymiad i rôl fyd-eang Cymru trwy benodi Gweinidog â chyfrifoldeb dros Ryngwladoldeb a Newid Hinsawdd.
  • Ceisio setliad sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru ddyrannu Cymorth Datblygu Tramor yn dryloyw, yn seiliedig ar egwyddorion datblygu cynaliadwy, yn hytrach na buddiannau diplomyddol yn unig
  • Sbarduno gallu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i leihau anghydraddoldeb iechyd byd-eang a chyflawni eu dyletswyddau byd-eang trwy addysg, strategaethau’r gweithlu ac adnoddau
  • Gwneud masnach deg a phryniant moesegol yn sylfaen i bob polisi caffael ar gyfer cyrff cyhoeddus a’r rheiny a ariennir gan y llywodraeth
  • Cynyddu cydlyniad cymunedol a chyfranogiad mewn partneriaethau rhyngwladol trwy ddathlu a hyrwyddo’r cymunedau alltud sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru
  • Adlewyrchu ar ganfyddiadau Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol 2019 a monitro’r modd y cyflawnir Nodau Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Sicrhau bod hyn yn cael ei wneud trwy bob gwaith domestig a rhyngwladol, a pheidio â’i ystyried yn fframwaith penodol sy’n ymwneud â datblygu rhyngwladol yn unig
  • Cryfhau cynaliadwyedd a chynyddu effaith rhaglen Cymru ac Affrica, trwy ddarparu grantiau aml-flwyddyn i sicrhau bod prosiectau cynaliadwy wedi’u gwreiddio a’u meddiannu gan ein partneriaid yng ngwledydd deheuol Affrica
  • Ceisio partneriaethau cryf o fewn y DU gyda’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu newydd, fel sail i arfer gorau a chreu amgylchedd ffafriol i gymdeithas sifil yng Nghymru a Chyrff Anllywodraethol ddarparu rhaglenni datblygu
  • Bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus fel rhan o’u prosesau gwneud penderfyniadau yn gweithredu asesiadau effaith i sefydlu, cofnodi a lleihau effeithiau byd-eang negyddol gan gynnwys y rhai ar yr amgylchedd a hawliau dynol.

Gallwch lawrlwytho ein maniffesto yma.