Datganiad ar Gymorth Offer Amddiffynnol Personol i Namibia

Categories: Datganiadau i’r WasgPublished On: 26th August, 2021237 words1.2 min read

Datganiad ar Gymorth Offer Amddiffynnol Personol i Namibia

Categories: Datganiadau i’r WasgPublished On: 26th August, 202110.8 min read

“Fel aelod o’r Deyrnas Unedig, mae Cymru wedi dewis gweithredu mewn undod â’r rhai sydd angen cymorth.

“Mae’r newyddion heddiw yn rhywbeth y gallwn ni, yng Nghymru, fod yn falch ohono. Bydd chwarae rôl mewn cynorthwyo ag ymdrechion byd-eang yn erbyn COVID-19 yn sicrhau diogelwch i bawb. Dylid dathlu bod mewn sefyllfa lle gellir bod yn hyderus o gyflenwadau offer amddiffynnol personol at y dyfodol. Yn anffodus, mae yna lawer o bobl ledled y byd nad ydynt yn y sefyllfa honno.

“Mae’n siomedig felly clywed a darllen sylwadau sy’n ailadrodd straeon diog a di-sail o lygredd yn erbyn ein partneriaid yn Namibia.

“Mae Namibia yn un o’r gwledydd lleiaf llygredig ar holl gyfandir Affrica, ac mae’n llai llygredig na Groeg a phedair o wledydd eraill sy’n perthyn i’r UE.

“Er bod mewn sefyllfa o fod yn wlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang yn golygu y gall ein hymgais genedlaethol am gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ddechrau gartref, nid yw’n gorffen yno. Am dros flwyddyn, rydym wedi gweld tystiolaeth ddigamsyniol o gydgysylltiad ein byd, wrth i’r pandemig gydio a lledaenu, gan effeithio ar bob un ohonom. Efallai bod yr argyfwng iechyd cyhoeddus yn sgil COVID-19 wedi cilio rhywfaint yma, ond nid yw drosodd nes ei fod wedi’i drechu ym mhobman. Dyna pam mae’n rhaid i ni barhau i weithio mewn undod gyda’n partneriaid ledled y byd.”

Claire O’Shea, Cadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru