Daw gwaredigaeth yn sgîl COVID-19 trwy feddwl a gweithio’n fyd-eang – Sector Datblygu Rhyngwladol Cymru
Daw gwaredigaeth yn sgîl COVID-19 trwy feddwl a gweithio’n fyd-eang – Sector Datblygu Rhyngwladol Cymru
Wrth i gymunedau ar draws y wlad gefnogi ei gilydd wrth wynebu COVID-19, mae’r corff sydd yn cynrychioli’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru wedi galw am gefnogi ein cymuned fyd-eang hefyd.
Nid yw Grŵp Asiantaeth Tramor Cymru (WOAG), cynghrair cynrychioliadol o’r sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru, yn ddiogel rhag heriau COVID-19. Mae brys y sefyllfa ddomestig yn amlwg, ond rydym wedi gweld y gorau o ddynoliaeth, wrth i gymunedau lleol gefnogi ei gilydd i gynorthwyo’r bregus trwy’r cyfnod digynsail hwn. Mae’n rhaid i ni gofio hefyd ein bod yn rhan o gymuned fyd-eang, yr ydym yn dibynnu arni am gymorth hanfodol fel bwyd a meddyginiaeth, yn yr un modd ag y mae eraill yn dibynnu ar ein cymorth ni.
Mae’r heriau y mae’r sector yn eu hwynebu yn debyg i’r heriau y mae sectorau eraill yn eu hwynebu. Gweithlu llawer llai, anallu i recriwtio staff newydd a gweithgareddau codi arian sydd wedi dod i ben mwy neu lai.
Mae gwledydd sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel, fel Syria a Yemen, eisoes mewn sefyllfa ansicr heb bwysau ychwanegol pandemig; ni fydd eu systemau gofal iechyd bregus yn gallu ymdopi â COVID-19.
Roedd Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2020, a elwir hefyd yn COP26, i fod cael ei chynnal yn Glasgow, yr Alban, eleni. Mae bellach wedi cael ei gohirio tan 2021, ac mae penderfyniadau pwysig a brys am ymdrin â’r argyfwng hinsawdd wedi cael eu gohirio hefyd.
Er gwaethaf cyfnod heriol, dygynsail, mae gan Gymru lawer i’w ddathlu. Mae’r sector wedi gallu symud llawer o weithgaredd addysgol ar-lein gan sicrhau y gall myfyrwyr Cymru barhau gyda’u haddysg gydag adnoddau rhagorol [1].
Mae gweminarau wedi cael eu trefnu rhwng sefydliadau yn y Gwledydd Deheuol a Chymru i sicrhau rhannu dysgu a chymorth ar y ddwy ochr.
Mae rhwydweithiau rhyngwladol y sector trwy eglwysi, grwpiau masnach deg ac ysbytai, i gyd yn gweithio i ofalu am anghenion uniongyrchol y cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt. Mae’r sector yn gwneud hyn trwy ddatblygu a chefnogi ymgyrchoedd i ddileu dyled gwledydd datblygol sy’n cael eu dinistrio gan y pandemig hwn.
Dywedodd Claire O’Shea, Cyd-gadeirydd WOAG a phennaeth Hub Cymru Africa:
“Mae’r pandemig hwn yn dangos i ni pa mor fregus yr ydym i gyd i feirws nad yw’n gwahaniaethu.
“Tra bod yr effeithiau yma yng Nghymru wedi bod yn ddeifiol, mae llawer o bobl yn y byd datblygol yn fwy bregus hyd yn oed. Nid oes gan y rhan fwyaf gyfleusterau golchi dwylo, mae amodau byw cyfyng yn golygu nad yw cadw pellter cymdeithasol yn opsiwn, ac mae’r bygythiadau a gyflwynir gan newyn yn fwy uniongyrchol na’r perygl o ddal COVID-19, felly eu dewis gorau yw parhau i weithio. Mae’n rhaid i ni weithredu mewn undod gyda’n cymdogion byd-eang. Bydd y feirws hwn yn dal yn risg cyhyd â bod gennym wledydd a systemau gofal iechyd bregus.”
Dywedodd Rachel Cable, Cyd-gadeirydd WOAG a phennaeth Oxfam Cymru:
“Ers degawdau, mae Oxfam wedi gweithio gyda phartneriaid yn ystod rhai o argyfyngau dyngarol gwaetha’r byd.
“Rydym wedi darparu cyfleusterau dŵr a glanweithdra sydd yn achub bywydau er mwyn hybu arferion hylendid da fel golchi dwylo i fynd i’r afael â chlefydau fel colera a teiffoid, yn ogystal ag Ebola.
“Ni ddychmygwyd, yma yng Nghymru, y byddai golchi dwylo mor hanfodol. Ond nid yw golchi dwylo’n unig yn ddigon. Mae Oxfam yn bryderus iawn am y ffordd y bydd y bobl dlotaf a mwyaf bregus yn cael eu taro gan COVID-19 – gartref ac ar draws y byd.
“Gallai effaith economaidd y pandemig wthio hanner biliwn o bobl i mewn i dlodi onid bai bod arweinwyr y byd yn cymryd camau brys. Mae’n rhaid i Gymru bellach gynyddu’r pwysau a dangos ei hymrwymiad i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
[1] Mae’r Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor (CAFOD) wedi cyhoeddi adnoddau ar gyfer disgyblion ysgol gynradd ac ysgol uwchradd. Ar gael yn: https://cafod.org.uk/Education/Education-resources [1] Mae Maint Cymru wedi cyhoeddi gweithgareddau awyr agored, gweithgareddau ystafell ddosbarth, a mwy ar eu gwefan. Ar gael yn: https://sizeofwales.org.uk/education/education-resources/Am gyfweliadau, cysylltwch â:
Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu, Hub Cymru Africa
petergilbey@hybcymruafrica.org.uk