Gwahoddiad i dendro ar gyfer adolygiad canolbwynt y prosiect
Gwahoddiad i dendro ar gyfer adolygiad canolbwynt y prosiect
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y tendr hwn, cysylltwch â advice@hubcymruafrica.org.uk. Dylid cyflwyno tendrau yn Saesneg i’r cyfeiriad e-bost hon erbyn 5pm ddydd Iau 16 Rhagfyr 2021.
1. Cefndir
Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cefnogi Cymuned Cymru Affrica, ac sy’n dwyn ynghyd gwaith Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, Panel Cynghori Is-Sahara a Chymru Masnach Deg. Rydym yn cynrychioli’r sector undod byd-eang yng Nghymru.
Mae HCA yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei letya gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Mae HCA yn cefnogi cysylltiadau datblygu a chamau gweithredu yn, a rhwng, Cymru ac Affrica. Rydym yn cyflawni hyn drwy ddigwyddiadau rhwydweithio a hyfforddiant. Yn 2021, fe wnaethom ddechrau gweithio ar brosiect newydd “Springboard” sy’n ymestyn y gwasanaeth hwn i Gymuned Cymru Affrica yn bennaf, gyda gweithgareddau dysgu a digwyddiadau ar-lein.
2. Gofynion yr adolygiad canolbwynt
Mae HCA wedi rhedeg y prosiect dwy flynedd, Springboard, gyda chyllid Grant Datblygu Gallu SCCF ers canol mis Ionawr 2021. Pwrpas yr adolygiad hwn ar y marc 1 mlynedd yw ystyried cynnydd y prosiect hyd yma, a deall unrhyw effaith.
Tasg 1 –Adolygu a chrynhoi adborth cyfranogwyr hyd yma
Tasg 2 –Nodi bylchau mewn adborth a datblygu Cynllun Adolygu
Tasg 3 –Cymryd rhan mewn gweithgareddau monitro a gwerthuso angenrheidiol
- Cyflwyno adroddiad cryno ar ganlyniadau, allbynnau ac effaith, gan gynnwys ffigurau cywir erbyn 28 Ionawr.
Tasg 4 –Adolygu canfyddiadau gyda chyfranogwyr / rhanddeiliaid sampl
Tasg 5 –Cyflwyno canfyddiadau gyda phwyslais ar ddysgu ac argymhellion
3. Gofynion gwerthuso’r cyfryngau
Mae angen cytuno ar y cwestiynau craidd y dylid mynd i’r afael â nhw yn yr adolygiad, ond byddant yn cynnwys:
- Gallu’r Prosiect i ennyn diddordeb cynulleidfa amrywiol
- Llwyddiant y prosiect wrth greu cyfleoedd dysgu
- Effeithiolrwydd y prosiect i gefnogi newid mewn agwedd, ymagwedd neu arfer
- Unrhyw newid a grëwyd o ganlyniad i’r prosiect
- Crynodeb o’r cynnydd yn y cyllid o fewn y sector o ganlyniad i’r prosiect
4. Gofynion y contract
- Gweithio o gartref yn defnyddio offer eich hun ar gost eich hun
- Cyfarfod bob pythefnos gyda Rheolwr y Prosiect
- Un arolwg cyfyngedig (os oes angen)
- Pum cyfweliad strwythuredig gyda chyfranogwyr y prosiect
- 1 x grŵp ffocws/cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid
- Cymorth gyda’r gwaith gweinyddol o drefnu cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid / anfon arolwg a ddarparwyd gan Hub Cymru Affrica.
5. Amserlen
Camau | Dyddiadau |
Cyhoeddi Dogfen ITT | Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021 |
Dyddiad cau ac amser ar gyfer ymholiadau | 5pm, Dydd Gwener 10 Rhagfyr 2021 |
Amser a dyddiad dychwelyd y tendr | 5pm, Dydd Iau 16 Rhagfyr 2021 |
Hysbysiad Disgwyliedig o’r Bwriad i Ddyfarnu | Dydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 |
Dyddiad Dechrau Disgwyliedig | Dydd Llun 20 Rhagfyr 2021 |
Mae amodau talu a chontractau yn cael eu gwneud ar sail y gwaith a gynhyrchir, ni waeth beth fo’r amser a dreuliwyd yn ei wneud.
Rhan 1: Monitro a Gwerthuso |
|
Adolygu’r monitro hyd yn hyn, a chytuno ar gynllun ar gyfer y camau nesaf erbyn | 10 Ionawr 2022 |
Ymgymryd â gweithgareddau monitro a gwerthuso erbyn | 2 Ionawr 2022 |
Crynodeb o’r canlyniadau, yr allbynnau a’r effaith, gan gynnwys ffigurau cywir.
Dim hwyrach na |
28 Ionawr |
Rhan 2: Atebolrwydd a Dysgu |
|
Cynnwys rhanddeiliaid yn yr adolygiad | 14 Chwefror 2022 |
Adroddiad terfynol yn cynnwys argymhellion | 21 Chwefror 2022 |
Bydd y contract wedi’i gwblhau erbyn 21 Chwefror, heb unrhyw bosibilrwydd o estyniad.
Y gyllideb ar gyfer y gweithgaredd hwn yw £1,500.