Beth mae Undod Byd-eang yn ei olygu i ni yng Nghymru, a sut allwn ni ei wneud yn well?
Beth mae Undod Byd-eang yn ei olygu i ni yng Nghymru, a sut allwn ni ei wneud yn well?
Pum peth a ddysgwyd o Uwchgynhadledd Undod Byd-eang 2022
Mae Hub Cymru Affrica wedi mabwysiadu’r term ‘undod byd-eang’ i gyfleu’r gwaith rhwng partneriaethau Cymru ac Affrica. Rydym yn credu ei fod yn adlewyrchu gwaith a gwerthoedd ein gwaith ar y cyd. Ond wrth i ni gyflwyno hyn, fe wnaethom ddechrau sylweddoli pa mor wahanol roeddem yn edrych ar y term hwn. Yn Uwchgynhadledd Undod Byd-eang 2022, buom yn archwilio ein dealltwriaeth ar y cyd, a dyma rai o’r pethau y gwnaethom eu dysgu.
Beth mae undod byd-eang yn ei olygu i ni?
Mae undod yn gyflwr meddwl, ond yn ffordd o weithredu hefyd. Mae gallu ymgorffori parch, cydraddoldeb, cynhwysiant a thosturi, ymhlith eraill, yn ein galluogi i sefyll mewn undod â’n partneriaid a’r cymunedau rydym yn eu cefnogi.
Partneriaeth yw conglfaen undod. Cael nod cyffredin, llywio drwy heriau gyda’n gilydd, nodi amcanion a gweithio’n gyfartal tuag at rywbeth, a’i gyflawni gyda’i gilydd.
Hirdymor. Mae gweithredu undod yn cymryd amser. Mae meithrin perthnasoedd cryf ac adeiladu ymddiriedaeth yng nghymunedau ein partneriaid yn cymryd buddsoddiad ac ymrwymiad, ac ni fydd yn digwydd yn ddilys os cânt eu rhuthro.
Mae deall a defnyddio ein pŵer a’n braint yn allweddol i weithredu mewn undod. Mae angen inni allu edrych ar ddynameg pŵer wrth wneud penderfyniadau, sy’n allweddol i sicrhau cydraddoldeb mewn partneriaethau. Mae angen inni allu ymhelaethu ar leisiau partner a chymunedol. Peidio siarad dros bobl, ond rhoi lle iddynt gael clywed eu lleisiau a gweithredu arnynt.
Mae angen inni greu deialog ddwyffordd; gwrando yn hytrach na siarad a chael trafodaethau agored heb agendâu personol. Mae undod ynghylch galluogi pobl i deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u deall drwy sgwrsio rheolaidd, ac mae’n meithrin ymddiriedaeth a gonestrwydd drwy’r broses hon.
Beth yw rhai o’r rhwystrau i weithredu mewn undod?
Mae anhyblygrwydd yn rhwystr mawr. Mae adeiladu undod yn flêr! Nid yw’n ffitio’n daclus i ffrâm log, ac nid yw bob amser yn ffitio gofynion rhoddwyr. Yn aml, mae rhoddwyr angen canlyniadau mesuradwy, ac mae hyn yn gallu bod yn anodd weithiau mewn gwaith undod.
Mae peidio â bod yn ymwybodol o’n rhagfarnau anymwybodol ac ymhlyg, neu beidio â gweithredu i fynd i’r afael â nhw yn gallu bod yn rhwystr enfawr i weithredu mewn undod. Mae canfyddiadau pobl yn aml yn cael eu llywio gan y gorffennol ac weithiau, mae hyn yn gallu bod yn anodd symud tu hwnt iddo.
Mae rhwystrau’n bodoli pan bod diffyg dealltwriaeth o’r cyd-destun. Os nad yw partneriaethau’n deall cyd-destun ariannol, gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol y cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt, gall y prosiect fethu yn y pen draw oherwydd ymyriadau amhriodol.
Mae anghydbwysedd o ran pŵer yn aml yn bodoli pan fydd cyllid ynghlwm, a gall hyn arwain at anhawster i newid arferion hirsefydlog. Mae ymdrechu am bartneriaethau gwirioneddol deg yn ein helpu i symud tuag at undod
Mae’r anallu i gyfleu beth ydy hyn yn gallu bod yn rhwystr. Sut mae undod awthentig yn edrych? Beth yw’r camau ystyrlon y gall pobl eu cymryd? Weithiau, mae siarad am undod yn gallu bod yn eithaf dieithr, yn enwedig os yw’n herio arferion lleol. Hefyd, mae heriau ymarferol yn aml yn bodoli o ran gallu cyfathrebu’n effeithiol am undod â phartneriaid a’r gymuned, boed yn dechnolegol, yn logistaidd neu’n ddiwylliannol.
Yn ôl ein dealltwriaeth ni, beth ydy prif werthoedd undod Byd-eang?
Sut allwn ni ymgorffori’r egwyddor o undod byd-eang yn well yn ein gwaith?
Drwy fod yn ddewr. Peidiwch â bod ofn bod yn flêr. Byddwch yn hyblyg, a pheidiwch â bod ofn tarfu ar y ‘normau’. Byddwch yn barod i gamu’n ôl, fel bod pobl eraill yn gallu camu ymlaen.
Drwy alluogi myfyrio a dysgu parhaus. Crëwch le ar gyfer ymarfer myfyriol a rhowch amser i wersi gael eu dysgu. Byddwch yn ymwybodol o gymhlethdodau’r math hwn o waith.
Drwy gryfhau ein partneriaethau. Cefnogwch awtonomi dros wneud penderfyniadau gan ein partneriaid, a gweithiwch gyda’ch gilydd i gyflawni nod cyffredin heb hierarchaeth. Drwy barch ar y cyd, mae partneriaethau’n dod yn gryfach.
Drwy fabwysiadu dull gweithredu o’r gwaelod i fyny. Ceisiwch arddangos arweinyddiaeth leol a rhoi canmoliaeth i’w gwaith. Drwy gynnwys cymunedau wrth gynllunio a gweithredu prosiectau, rydym yn meithrin perchnogaeth.
Drwy fod yn atebol. Gwnewch yn siŵr bod gennych fframwaith neu ddangosyddion allweddol sy’n cynnwys ffyrdd o feddwl a gweithio. Ymhelaethwch ar enghreifftiau o arfer da, a cheisiwch annog eraill i ddal eu hunain yn atebol.

Beth Kidd
Uwch Rheolwr Cymorth Datblygu
Mae’r gyd o sesiynau’r prif lwyfan ar gael i wylio ar Sianel Youtube Hub Cymru Africa ar restr chwarae #GlobalUndod2022.