EN
< Adnoddau Diogelu

Gweithdy Hanfodion Diogelu

Gweminar o fis Gorffennaf 2020 ar Ddiogelu Hanfodion mewn datblygu rhyngwladol, gan Richard Powell o SafeForChildren a dan arweiniad Hub Cymru Africa.

Mae gan sefydliadau gyfrifoldeb i sicrhau nad yw eu staff, eu gweithrediadau a’u rhaglenni yn achosi  unrhyw niwed i blant nac oedolion agored i niwed, nac yn eu gwneud yn agored i gael eu camdrin neu eu hecsbloetio.  Mae digwyddiadau diweddar wedi tynnu sylw at yr angen brys am bolisïau ac arferion diogelu gwell o fewn sefydliadau dyngarol a datblygu.