EN
< Adnoddau Cyfathrebu

Tynnu lluniau da

Dywedir yn aml fod llun yn werth mil o eiriau. Mae cael lluniau sy’n adlewyrchu eich gwerthoedd a’ch gwaith yn hanfodol er mwyn dangos yr effaith rydych chi’n ei chael. Mae cymryd amser i wneud hyn yn iawn yn werth bob munud, yn enwedig gan y gellir eu defnyddio mewn sawl ffordd, o ddatganiadau i’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol, i adrodd am eich gwaith neu i gefnogi gweithgareddau codi arian.

Mae The Narrative Project yn cynnig awgrymiadau ar sut i dynnu a defnyddio lluniau ar gyfer eich sianeli cyfathrebu – rydym wedi eu crynhoi yma. Mae taflen ganllawiau Hub Cymru Africa ar dynnu lluniau, y gellir ei lawrlwytho, ar gael ar ffurf PDF.