Sefydlwyd y rhaglen fentora hon i ddatblygu gallu sefydliadau yng Nghymru sydd yn gweithio ar raglenni undod byd-eang yn Affrica. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan Hub Cymru Africa.
Nod y rhaglen hon yw datblygu llwyddiant sefydliadau sydd wedi eu sefydlu trwy fynediad neilltuol at gymorth, grant meithrin gallu a chyngor proffesiynol.
Gallai’r rhaglen hon eich helpu chi a’ch sefydliad i:
- Gyflawni eich nodau: datblygu a chyflwyno gweithgareddau newydd trwy flwyddyn o gydweithredu yn erbyn eich cynllun gweithgaredd eich hun
- Ariannu gweithgareddau sydd yn gwella gallu: hyd at £750 i chi gyflawni eich nod o fewn y rhaglen
- Cyfarfod â chyfoedion ac arbenigwyr sy’n berthnasol i ddatblygiad eich sefydliad eich hun ac o fewn cohort ac alumni Advance
- Cael cefnogaeth gan fentor un i un.
A allaf wneud cais?
Mae rhaglen Advance Hub Cymru Africa ar agor i unrhyw sefydliadau datblygu rhyngwladol wedi eu lleoli yng Nghymru sydd yn gweithio mewn undod gyda phartneriaid Affricanaidd, a grwpiau Masnach Deg, i gefnogi atebion arloesol ar gyfer cymunedau sydd yn byw mewn tlodi ac ymgyrchoedd sydd yn parhau i gysylltu â phobl yng Nghymru.
Os hoffech fireinio, ailfeddwl, ehangu neu wella’r hyn yr ydych yn ei wneud, gallai rhaglen Advance fod yn addas i chi gyda’i dull gweithredu manwl o gydweithio dros flwyddyn.
Mae’n gwbl hyblyg a gall gynnwys ystod o weithgareddau i’ch cefnogi chi, yn cynnwys datblygu eich sgiliau cyfathrebu; gwella rheolaeth ariannol a rheoli risg; gwella strategaeth a llywodraethu; datblygu sgiliau codi arian newydd; asesu anghenion a phartneriaethau; monitro atebolrwydd gwerthuso a gweithgareddau dysgu; dulliau gweithredu gwrth-hiliaeth neu ddylunio ymgyrchoedd.
Mae’n rhaid i’ch sefydliad neu grŵp fod wedi ei leoli yng Nghymru, ac eisoes yn arwain prosiect neu ymgyrch, neu os ydych yn gweithio yn Affrica, bod gennych gynlluniau peilot realistig ac wedi eu profi ac yn barod i ddechrau.
Amdanoch chi
- Rydych yn byw yng Nghymru
- Rydych yn cynrychioli, naill ai fel gwirfoddolwr neu aelod o staff, sefydliad sydd yn canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy yn Affrica Is-Sahara, neu’n grŵp ymgyrchu yn canolbwyntio ar Fasnach Deg
- Mae gan eich sefydliad neu eich grŵp syniad clir o’r hyn yr ydych eisiau ei gyflawni trwy raglen Advance
- Mae gennych gefnogaeth a chymorth eich sefydliad neu grŵp ar y lefel uchaf
- Gallech chi ac o leiaf un cynrycholydd arall gyd-ddatblygu gyda Hub Cymru Africa, gynllun gweithgaredd ar y cyd i’w roi ar waith dros y flwyddyn nesaf i gyflawni eich nod
- Rydych wedi ymrwymo i gydweithio yn fisol dros flwyddyn i gyflawni eich nod(au), p’un a bod hynny’n mynychu cynadleddau neu’n cydgynhyrchu trwy gyfarfodydd rhithiol gyda’ch mentor
- Rydych eisiau gweithio mewn cydweithrediad â mentor i gyrraedd atebion cynhyrchiol ac yn agored i adborth, syniadau newydd a beirniadaeth adeiladol (Rôl eich mentor yw gwrando, egluro, adlewyrchu, herio a rhoi adborth i’ch cynorthwyo i fod yn effeithiol yn eich sefydliad).
Ynglŷn â’ch sefydliad
- Mae eich sefydliad neu grŵp wedi ei leoli yng Nghymru
- Mae gennych sefydliad partner yr ydych yn gweithio gyda nhw yn Affrica Is-Sahara neu, rydych yn cynnal ymgyrch Masnach Deg yng Nghymru
- Mae gennych brofiad o gyflwyno prosiectau gyda’ch partner Affricanaidd a chytundeb partneriaeth cyfredol, neu rydych wedi cyflwyno ymgyrch Masnach Deg yng Nghymru
- Mae gennych drefniadau llywodraethu priodol wedi eu sefydlu
- NID yw eich sefydliad mewn argyfwng, ond mae ganddo ddiddordeb yn gwneud rhywbeth yn wahanol neu’n cael mewnwelediadau newydd.
Peidiwch â gwneud cais os:
- Ydych eisiau’r cymorth ariannol yn unig ac nid ydych eisiau cymryd rhan yn agweddau cydgynyrchu a mentora’r rhaglen
- Rydych ond yn bwriadu cynnal prosiect, digwyddiad neu ymgyrch untro (gallai’r gweithgareddau hyn fod yn gymwys ar gyfer gwneud cais am gyllid trwy raglen Grantiau Bach Cymru o Blaid Affrica CGGC)
- Bydd eich prosiect yn cynnal unrhyw weithgareddau plaid wleidyddol neu genhadu.
- Rydych yn bwriadu defnyddio’r cyllid grant ar gyfer costau cyflogau presennol neu orbenion sefydliadol
Cipolwg ar y rhaglen
Advance: Cymorth mentora 1 diwrnod y mis a £750 tuag at ddatblygu sefydliadol i’ch helpu chi i gyflawni eich nodau eich hun
Light: Cynnig cywasgedig ar gyfer sefydliadau llai yn cynnig 1/2 diwrnod y mis o fentora a £375 tuag at ddatblygu sefydliadol
Campaigner: Ar gyfer Grwpiau Masnach Deg, yn cynnig ½ diwrnod o fentora y mis a £375 tuag at ddatblygu sefydliadol