Cyflwynydd teledu’r BBC i roi Prif Anerchiad y Prynhawn

Categories: NewyddionPublished On: 10th May, 2023160 words0.8 min read

Cyflwynydd teledu’r BBC i roi Prif Anerchiad y Prynhawn

Categories: NewyddionPublished On: 10th May, 20237.3 min read

Mae’n bleser gennym i gyhoeddi siaradwr Prif Anerchiad y Prynhawn yn yr Uwchgynhadledd Undod Byd-eang.

Mae Mo Jannah yn gyflwynydd a chynhyrchydd teledu. Wrth dyfu i fyny yng Nghaerdydd, bu’n gweithio gyda throseddwyr ifanc a gwasanaethau ieuenctid cyn symud i fyd darlledu drwy raglen hyfforddi It’s My Shout, sy’n helpu i ddatblygu talent newydd ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Yn 2018, Mo oedd testun y bennod New Voices from Wales o’r enw “Mo’s World”, rhaglen ddogfen a oedd yn canolbwyntio ar ei waith hyfforddi bywyd ac ymyriadau gyda dynion ifanc ar y cyrion o Gaerdydd a Chasnewydd. Ers hynny daeth yn wyneb cyson i wylwyr BBC One Wales fel gohebydd ar y rhaglen hawliau defnyddwyr X-Ray. Datblygodd Mo hefyd raglen ddogfen chwaraeon ar gyfer BBC Cymru ac awdur ei gyfres ar-lein ei hun am Black History.

Cynhelir Uwchgynhadledd 2023 ar ddydd Mawrth 23ain Mai yng Nghanolfan Gynadledda Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest ac ar-lein.