Elwa o Gymorth gan Wirfoddolwyr
Ydych chi’n chwilio am wirfoddolwr i helpu’ch mudiad gyda thasg neu rôl benodol?
Mae Rhaglen Gwirfoddolwyr Hyb Cymru Affrica yn cynnig cyfle i grwpiau sy’n cysylltu Cymru ag Affrica a Masnach Deg gael eu paru â gwirfoddolwyr newydd a all eich helpu gyda’ch gwaith. Bydd Hyb Cymru Affrica yn cynnig cymorth i chi â helpu’r gwirfoddolwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am sector Cymru Affrica.
Gallwch gymryd cipolwg ar y dudalen gwirfoddolwyr i weld yr amrywiaeth o rolau gwirfoddoli yr ydym yn eu cynnig.
Bydd Hyb Cymru Affrica yn:
- Eich helpu chi i ddiffinio’r rôl wirfoddoli
- Ceisio dod o hyd i wirfoddolwr sydd wedi ymrwymo i gyflawni’r rôl, ac sy’n meddu ar sgiliau a diddordebau addas
- Cynnig cymorth wrth sicrhau bod gennych chi bolisi a gweithdrefnau priodol ar gyfer diogelu a datblygu eich gwirfoddolwr
- Cadw mewn cysylltiad â’r gwirfoddolwr yn rheolaidd yn ystod eu lleoliad gwaith, i gofnodi eu profiadau a’r cynnydd maen nhw’n ei wneuds
Ynglŷn â chi
I fod yn gymwys i wneud cais am wirfoddolwr trwy raglen wirfoddolwyr Hyb Cymru Affrica, rhaid i chi:
- Fod wedi’ch lleoli yng Nghymru
- Yn cynrychioli mudiad neu grŵp o Gymru sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad cynaliadwy yn Affrica Is-Sahara neu ar hyrwyddo Masnach Deg
- Fod â syniad clir am y rôl neu’r dasg yr hoffech i wirfoddolwr ei chyflawni. Rhaid i’r rôl fod wedi’i lleoli yng Nghymru.
- Fod â chefnogaeth gan eich mudiad ar y lefel uchaf ar gyfer y cais hwn am gymorth gan wirfoddolwr.
- Fod wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cyfle i ddatblygu profiad o safon i’r gwirfoddolwr a dilyn arfer da wrth ddiogelu a datblygu’r gwirfoddolwr.
I gymryd rhan yn rhaglen wirfoddolwyr Hyb Cymru Affrica, cwblhewch a dychwelwch y Ffurflen Gais am Wirfoddolwr.