Gwirfoddoli2022-04-12T15:24:56+01:00

Gwirfoddoli

Ydych chi am gymryd rhan mewn gwaith datblygu rhyngwladol yma yng Nghymru, ac ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr? Neu a ydych chi’n arbenigwr sefydledig fyddai’n hoffi defnyddio’r sgiliau sydd gennych chi eisoes i helpu ein sefydliadau partner i gyflawni eu potensial llawn?

Mae rhaglen wirfoddoli Hyb Cymru Affrica’n cynnig profiad gwirfoddoli gyda’n tîm, yn ogystal â gyda mudiadau Cymru Affrica a Masnach Deg ledled Cymru.

Nid oes rhaid i chi wirfoddoli ar gyfer gwaith yn y swyddfa – yn wir, rydym wedi helpu pobl i weithio ar brosiectau gwirfoddoli o bell yn y gorffennol, ac yn y cyfnod ansicr hwn, gall gwirfoddoli’ch amser a’ch sgiliau eich helpu i ennill profiad gwerthfawr a allai fod o fudd unwaith y bydd y sefyllfa o ran COVID-19 dan reolaeth. Ac wrth gwrs, bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y mudiadau rydyn ni’n rhoi cymorth iddynt, sy’n cael effaith ar fywydau’r rhai sy’n byw yn Affrica.

Mae’n bosib bod gennych chi eisoes brofiad mewn maes penodol, fel codi arian neu gyfathrebu, a’ch bod am wirfoddoli rhywfaint o’ch amser yn helpu ein mudiadau partner i gyflawni eu potensial. Neu fe allech chi fod yn fyfyriwr neu’n geisiwr gwaith sy’n cychwyn o’r dechrau, ac yn awyddus i gael rhywfaint o waith datblygu rhyngwladol perthnasol i’w gynnwys ar eich CV. Beth bynnag yw lefel eich profiad, byddem yn hoffi clywed gennych.

Pa fath o brofiad allech chi ei ennill?

Gwirfoddoli ym maes cyfathrebu

Gallech fynd ati i ysgrifennu blog, drafftio deunydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, creu ffeithluniau a phosteri ac ysgrifennu straeon nodwedd ar gyfer y newyddion.

Beth yw rhai o’r manteision? Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, defnydd proffesiynol o gyfryngau cymdeithasol, TG a dylunio.

Gwirfoddoli ym maes ymchwil a data

Gallech ymateb i ymholiadau penodol, cyfrannu at bolisi neu eiriolaeth, chwilio am wybodaeth gan ddefnyddio gwahanol ffynonellau, casglu gwybodaeth ynghyd mewn taenlen neu gronfa ddata, neu ddrafftio papur briffio

Beth yw rhai o’r manteision? Llythrennedd gwybodaeth, addasu’ch sgiliau ymchwilio i sefyllfaoedd bywyd go iawn, defnyddio gwahanol ffynonellau gwybodaeth, dysgu am faterion sy’n ymwneud â datblygu rhyngwladol, defnyddio taenlenni a chronfeydd ddata, neu ysgrifennu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd

Gwirfoddoli ym maes gweinyddiaeth

Gallech fod yn trefnu digwyddiadau, cyfathrebu â phartneriaid, ymateb i e-byst, diweddaru taenlenni neu drefnu adnoddau

Beth yw rhai o’r manteision? Sgiliau trefnu, cyfathrebu a gweinyddu, sylw i fanylion, sgiliau TG, profiad swyddfa neu weithio fel rhan o dîm.

Gwirfoddoli ym maes digwyddiadau

Cwrdd a chyfarch, staffio desg y dderbynfa, rhwydweithio, cymryd nodiadau, gofalu am westeion, ffotograffiaeth neu ysgrifennu adroddiadau am y digwyddiadau.

Beth yw rhai o’r manteision? Byddwch yn rhwydweithio gyda’r rheiny yn y sector datblygu rhyngwladol, clywed siaradwyr mewn digwyddiadau, meithrin hunanhyder a sgiliau cyfathrebu, yn ogystal â chasglu enghreifftiau ar gyfer portffolio.

Cyfleoedd eraill

Mae rolau tebyg ar gael yn ein sefydliadau partner, gan gynnwys o fewn meysydd diddordeb thematig megis iechyd, newid yn yr hinsawdd, addysg, Masnach Deg a bywoliaethau cynaliadwy.

Mae gan lawer o’r grwpiau sy’n cysylltu Cymru ag Affrica anghenion penodol hefyd o ran codi arian, cynllunio strategol, llywodraethiant a rheolaeth ariannol, ac rydym yn croesawu gwirfoddolwyr sydd eisoes â phrofiad yn y meysydd gwaith hyn. Mae hefyd croeso bob amser i wirfoddolwyr sydd am gyfrannu eu harbenigedd mewn meysydd eraill.

Os ydych chi am gymryd rhan, anfonwch e-bost atom yn enquiries@hubcymruafrica.org.uk heddiw gyda ‘Gwirfoddoli’ yn y llinell bwnc.

Ydych chi am wybod beth yw barn gwirfoddolwyr eraill am eu profiad gyda Hyb Cymru Affrica? Darllenwch ein hastudiaethau achos ynghylch gwirfoddolwyr isod.

Go to Top