Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Mae’r cynllun Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol, sy’n anfon pobl o Gymru ar leoliadau 8 wythnos yn Uganda, Namibia, Lesotho ac yn awr Somaliland, wedi ailagor ar gyfer ceisiadau.
Dim ond arwydd o’r mathau o leoliadau y gellir eu disgwyl yw’r prosiectau isod. Bydd disgrifiadau swydd manylach yn ymddangos yma maes o law.
Lesotho
Trosglwyddo sgiliau sydd eu hangen ar Heal our Land (HOLO) – hoffai HOLO gael cymorth yn y meysydd isod er mwyn gallu helpu’r bobl ifanc leol yn effeithiol ac yn gynhyrchiol:
Sgiliau bywyd – 1) Adnabod eich hun 2) Sgiliau perthynas 3) Cyfathrebu 4) Sgiliau meddwl
- Llythrennedd y cyfryngau
- Llythrennedd emosiynol
- Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- Cyfathrebu a Chydweithio
- Arweinyddiaeth gan gymheiriaid
- Dinasyddiaeth Fyd-eang a gweithredu
- Deall sut mae pobl ifanc yn eu harddegau yn prosesu pethau a sut maen nhw’n gweld y byd
- Sut i ddelio ag achosion o gam-drin a chwythu’r chwiban
- Sut i ddelio â phlant sy’n cael eu cam-drin, plant amddifad a phlant a wrthodwyd
- Sut i helpu plant sy’n ymgysylltu â gangiau
- Sut i helpu plant sy’n dod o gartrefi cythryblus a phlant y mae gwrthdaro gartref yn effeithio arnynt
- Y technegau i barhau i fod yn aeddfed wrth ddelio â phlant sy’n camymddwyn
Sut i gadw’r clwb i dyfu a chryfhau drwy’r blynyddoedd a bod o fudd i’r gymdeithas o’i gwmpas
Namibia
Mae cyfleoedd sylweddol ar gyfer dysgu a rennir, mewn ystod eang o feysydd proffesiynol, academaidd a busnes sy’n canolbwyntio ar fusnes a hoffai Prifysgol Namibia UNAM recriwtio pobl sydd â’r arbenigeddau canlynol:
- Rheoli Prosiectau: yn gyffredinol, ac ar gyfer prosiectau penodol fel y nodir gyda’r partne
- Sicrhau Ansawdd
- Moeseg Ymchwil
- Archwilio
- Gwybodaeth Busnes
- Athrawon Seiciatreg
- Dylunio adnoddau a dysgu ar-lein
- Dulliau Ymchwil. Ymchwilwyr yn gyffredinol
- Datblygu chwaraeon a Pherfformiad Uchel
- Athrawon Gwyddorau ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol
- Addysgwyr nyrsio ac arweinwyr nyrsio
- Pobl sy’n gallu addysgu sgiliau arwain a dysgu myfyriol
- Treftadaeth, amgueddfeydd, datblygu gwybodaeth leol: curadur preswyl
- Ysgrifennu celf, crefftau, creadigol a newyddiadurwyr: mae’r potensial yn bodoli ar gyfer artistiaid preswyl.
Somaliland
Mae hon yn raglen newydd gyda Somaliland a bwriadwn gynnig nifer cyfyngedig o leoliadau pwrpasol yn y lle cyntaf.