Mae hiliaeth yn bodoli yn y sector datblygu, fel mewn cymdeithas ehangach. Felly, mae’n rhaid inni gydnabod sut mae’n dod i’r amlwg, a chymryd camau i fynd i’r afael â’r effeithiau negyddol y gall eu cael arnom ni ein hunain, ein cydweithwyr, a’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae’r sector cymorth yn bodoli i liniaru tlodi, ond gall dynameg pŵer cymorth atgyfnerthu strwythurau pŵer a systemau a dyfodd drwy drefedigaethu. Mae’n rhaid inni gydnabod hyn, a gweithio gyda’n partneriaid yn agored ac yn onest i fynd i’r afael â hiliaeth.
Mae rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu undod a phartneriaeth yn fyd-eang. Nid yw’n ddigon i beidio â bod yn hiliol; dylem symud ymlaen i fod yn sector gwrth-hiliol gweithredol, a sicrhau nad ydym yn parhau ag ymddygiad a systemau hiliol wrth weithio gyda chymunedau wedi’u hilioli, yng Nghymru ac yn Affrica Is-Sahara.
Mae’r siarter hon ar gyfer elusennau bach a grwpiau cymunedol yng Nghymru, sy’n gweithio’n rhyngwladol, yn enwedig gyda phartneriaid anllywodraethol a grwpiau cymunedol yn Affrica Is-Sahara, ar brosiectau a gweithgareddau datblygu neu undod.
Rydym yn annog pob grŵp ac unigolyn sy’n gweithio yn y sector hwn i gyflawni’r ymrwymiadau yn y siarter gwrth-hiliol hwn, ac ymrwymo i’r siarter. Gall Hub Cymru Affrica a Phanel Cynghori Is-Sahara gefnogi grwpiau ac unigolion i wireddu nodau’r siarter, drwy’r pecyn cymorth isod a sesiynau hyfforddi blynyddol am ddim.
Mae’r pecyn cymorth yn y broses o gael ei gyfieithu. Byddwn yn ei ychwanegu yma cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, ewch i’r dudalen Saesneg i weld y pecyn cymorth.
1. Rydym yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth. Mae’n broblem i bawb, nid baich un grŵp o bobl yn unig, ac mae dod â’r mater i ben yn fuddiol i bawb
2. Byddwn yn defnyddio ein sefyllfaoedd i herio hiliaeth lle’r ydym yn ei weld, ac i feddwl yn feirniadol am y strwythurau hiliol rydym yn eu cynnal yn ddiarwybod, a’u datgymalu nhw
3. Byddwn yn gweithio mewn ffordd sy’n cydnabod ac yn blaenoriaethu arbenigedd a gwybodaeth yn y wlad i arwain ein gwaith, ac yn cefnogi hyn gyda strwythur cyflog teg
4. Byddwn yn ymrwymo i ddatblygu ein dealltwriaeth ddyfnach ein hunain o faterion hiliaeth, a sut maen nhw’n effeithio ar ein ffordd o feddwl
5. Rydym yn sefydliad sy’n croesawu adborth beirniadol, gyda’r bwriad o ddysgu a gwella ein gwaith. Byddwn yn gweithredu heb fod yn amddiffynnol nac yn negyddol i’r rheini sy’n tynnu sylw at arferion hiliol neu drefedigaethol, ac yn creu prosesau atebolrwydd o fewn ein gwaith
6. Byddwn yn adolygu ein holl bolisïau’n rheolaidd, gyda lens gwrth-hiliol a chroestoriadol, ac yn ceisio cymorth arbenigol pan fo angen
7. Rydym yn ymrwymo i wella amrywiaeth ein byrddau, ein timau a’n gwirfoddolwyr er mwyn gwneud penderfyniadau mwy gwybodus a theg
8. Byddwn yn defnyddio iaith, technegau adrodd straeon, a lluniau priodol a meddylgar. Rydym yn cydnabod bod ganddynt ystyr, y gallant achosi niwed, a’u bod yn gallu atgyfnerthu hiliaeth
9. Byddwn yn sicrhau bod ein holl waith yn mabwysiadu ymagwedd cyfiawnder cymdeithasol, i hyrwyddo hunangynhaliaeth yr holl bartneriaid, gan gynnwys tegwch mewn cyfleoedd
10. Byddwn yn hyrwyddo cynaliadwyedd bob amser (Cymdeithasol, Dynol, Economaidd ac Amgylcheddol) yn ein gwaith a’n partneriaethau
11. Byddwn yn ystyried yr anghyfiawnderau byd-eang ehangach yn ein gwaith, ac yn ystyried effaith negyddol ein gweithredoedd ar yr hinsawdd a’r amgylchedd ac yn eu lliniaru, a chydnabod mai’r bobl sydd â’r ôl troed carbon isaf yw’r rheini sy’n teimlo’r effaith fwyaf
12. Byddwn yn ymrwymo i gynnwys ein partneriaid, ein bwrdd, ein gwirfoddolwyr a’n cynulleidfa ehangach yn ein gwaith mewn perthynas â’r siarter hon.