Swyddi gwag

Ymddiriedolwyr

Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica yn chwilio am rywun sydd ag angerdd ac ymrwymiad i wella iechyd byd-eang.

Er y byddai profiad o’r system iechyd yng Nghymru—a gwybodaeth am ofal iechyd mewn gwledydd incwm isel a chanolig—yn fantais, nid yw’r naill na’r llall yn hanfodol o ystyried y sgiliau amrywiol ymhlith ein hymddiriedolwyr ehangach. Croesewir awydd i adeiladu rhwydweithiau o fewn cymunedau amrywiol ac i feithrin dealltwriaeth o sut y gall hil a diwylliant effeithio ar y gweithlu iechyd ar wasgar.

Mae WaAHLN yn awyddus i ymgysylltu â phobl sydd â phrofiad a’r sgiliau i arwain y bwrdd wrth gyflawni ei gyfrifoldebau strategol a llywodraethu. Gall yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd ddod i ddeall rôl ymddiriedolwr trwy sesiynau briffio pan fydd yn dechrau a gyda chefnogaeth Ymddiriedolwyr eraill.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am y rôl, cysylltwch â’r cadeirydd dros dro presennol, Dr Julia Terry, drwy waahln@hubcymruafrica.org.uk i drefnu sgwrs anffurfiol. Os ydych yn adnabod rhywun a all ymrwymo i’r rôl hon, anfonwch y wybodaeth ymlaen atynt.

Proses ymgeisio

  • Dylai ymgeiswyr anfon CV a llythyr eglurhaol i waahln@hubcymruafrica.org.uk
  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 16 Hydref 2023 am hanner dydd.
Logo WaAHLN

Cydlynydd Cyfathrebu Digidol

Ar hyn o bryd mae gan Climate Cymru dîm craidd bach, a rhwydwaith enfawr. Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o weithgareddau Climate Cymru.

Bydd y Cydlynydd Cyfathrebu Digidol yn gweithio’n agos gyda Chydlynwyr Ymgyrchoedd yn y tîm craidd i gyflwyno negeseuon allweddol a chynnwys deniadol ar gyfer ystod o ymgyrchoedd effaith uchel y mae Climate Cymru yn eu cynnal, ac i helpu i ysbrydoli a chefnogi cyfranogiad ein rhwydwaith ehangach. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio â chydlynwyr ymgyrchoedd ar negeseuon allweddol, a chreu a darparu cynnwys deniadol, ar gyfer ein platfformau ein hunain, ac ar gyfer templedi y gellir eu defnyddio i ddatgloi ymgysylltiad o’n rhwydwaith helaeth.

Cyflog: £29,830 FTE (£11,932 yn wir)
Oriau: Rhan amser 0.4 FTE (14.8 awr yr wythnos)
Tymor: Cyfnod penodol (wyth mis)
Lleoliad: Gweithio o bell, gyda’r opsiwn i weithio o’r swyddfa/yn hybrid yng Nghaerdydd.

Proses ymgeisio

Logo Climate Cymru