Cyllid dros fudiadau datblygiad rhyngwladol
Yma yn Hyb Cymru Affrica, rydym yn gwybod mai’r mater mwyaf dybryd sy’n wynebu llawer o elusennau a chyrff anllywodraethol cymunedol, bach neu ganolig eu maint sy’n gweithio ar ddatblygu rhyngwladol yng Nghymru, yw cyllido.
Gallwn gynnig cymorth i’ch mudiad i wneud cais am gyllid er mwyn cyflawni eich amcanion. Gall ein tîm o Reolwyr Cymorth Datblygu eich helpu i ddynodi a gweithio trwy geisiadau grant, a’ch helpu trwy’r broses o sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau er mwyn cynyddu eich gallu a chyflawni’ch amcanion.
Mae’r Hyb yn darparu cyfres o sesiynau hyfforddi am ddim ar gyllido trwy grantiau a chodi arian yn eich cymuned. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gofrestru.
Cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod sut y gallwn ni gynnig cymorth i’ch mudiad gyda cheisiadau am gyllido a grantiau.
Chwilio am wybodaeth am Gyllido Cymru dros Affrica gan Lywodraeth Cymru? Cliciwch yma am wybodaeth a sut i wneud cais.
Mae cyfleoedd cyllido cyfredol wedi’u rhestru yn y gronfa ddata isod.