‘Cymorth y DU yn cael ei dorri mewn ergyd ddinistriol i bobl fwyaf tlawd y byd’ – Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru

Categories: Newyddion, Datganiadau i’r WasgPublished On: 27th April, 2021937 words4.7 min read

‘Cymorth y DU yn cael ei dorri mewn ergyd ddinistriol i bobl fwyaf tlawd y byd’ – Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru

Categories: Newyddion, Datganiadau i’r WasgPublished On: 27th April, 202142.6 min read

Ymateb i ddatganiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu, yn torri cyllideb Cymorth Datblygu Tramor.

Mae Cymorth Datblygu Tramor yn achub bywydau. Mae’n ymrwymiad ac yn gyfrifoldeb na ddylem fyth gerdded i ffwrdd ohono. Dyna pam mae’r cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu, yn ergyd drom i bobl fwyaf tlawd y byd.

Ar ôl canrifoedd o elwa oddi wrth echdynnu cyfoeth drwy wladychu, o ddatblygu carbon-ddwys, gan ddinistrio natur, mae’n ddyletswydd ar wledydd incwm uchel fel ein un ni i ysgwyddo’n cyfrifoldeb, fel y gall pob un ohonom sicrhau dyfodol cynaliadwy a chyfiawn.

Mae gan Gymru draddodiad o ddarparu undod byd-eang y dylai ymfalchïo ynddo. Mae Interburns, sy’n elusen flaenllaw yng Nghymru, yn ddim ond un enghraifft o’r gwaith sy’n achub bywydau y mae cyllideb cymorth y DU yn ei gefnogi lle mae, drwy ei waith gyda phartneriaid, wedi dangos gwelliannau pendant a mesuradwy ar draws yr holl wasanaethau llosgiadau sydd yn cael eu cefnogi mewn gwledydd incwm isel a chanolig.

Mae Cymru a’r DU yn falch o’r gwaith achub bywydau y mae’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Yn 2015, pasiodd y Llywodraeth Glymblaid bryd hynny ddeddf i ddyrannu 0.7% o GNI i gymorth datblygu tramor.

“Byddwn yn cynnal ein hymrwymiad i wario 0.7 y cant o GNI ar ddatblygu gyda balchder, ac yn gwneud mwy i helpu gwledydd sy’n cael cymorth i ddod yn hunangynhaliol” – dyna a addawodd llywodraeth y DU i’r bobl dim ond 16 mis yn ôl. Heddiw, mae’r addewid balch hwnnw wedi cael ei dorri.

Eleni, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, bydd Llywodraeth y DU yn cynnal uwchgynadleddau G7 a COP26. Mae’n rhaid iddynt fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos arweiniad byd-eang drwy gamu ymlaen ac ymrwymo i fesurau brys a chymorth datblygu tramor, a sicrhau bod cenedlaethau tlotaf y byd a chenedlaethau’r dyfodol yn gallu sicrhau cydraddoldeb.

Meddai Claire O’Shea, Cyd-gadeirydd Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru:

“Mae Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru wedi gofyn am sicrwydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mai gostyngiad dros dro yw hwn. Bydd yr effaith tymor byr ar fywydau yn ddinistriol, ond mae angen i’r sector a’r bobl sy’n dibynnu ar y cymorth hwn gael map clir yn ôl i’n hymrwymiad o ddyrannu 0.7% o GNI iddynt.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i egluro’r ‘trothwy’ lle bydd y DU yn dychwelyd at ei haddewid maniffesto i ddyrannu 0.7% o GNI i Gymorth Datblygu Tramor.”

Nodiadau i’r golygydd

  • Os hoffech wneud ceisiadau am gyfweliadau yn Gymraeg neu’n Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu
petergilbey@hubcymruafrica.org.uk | 07812 991 566

  • Aelodau o Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru:

Cafod

Cymorth Cristnogol

DEC Cymru

Anabledd yng Nghymru ac Affrica

Oxfam Cymru

Y Groes Goch

Achub y Plant

Maint Cymru

Tearfund

UP

Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Hub Cymru Affrica

petergilbey@hubcymruafrica.org.uk