Cynllun Grant Cymru ac Affrica: Rownd Pedwar Ar Agor
Cynllun Grant Cymru ac Affrica: Rownd Pedwar Ar Agor
Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn gronfa grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol a mudiadau ledled Cymru sy’n gweithio mewn partneriaethau yn Affrica Is-Sahara. Mae’n fenter flaenllaw gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru ac mae’n galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Ewch I wefan CGGC am gyfarwyddyd, diweddariadau, adroddiadau ac I wneud cais
Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn fenter flaenllaw gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Gall Hub Cymru Africa eich cynorthwyo gyda’r gwaith o gefnogi a datblygu prosiectau a sicrhau bod gennych yr holl ddogfennau ategol cywir yn eu lle ar gyfer eich sefydliad. Rydym hefyd yn gallu eich helpu i chwilio am arian o ffrydiau ariannu eraill ar gyfer prosiectau sy’n cysylltu Cymru ac Affrica.
Gallwch gysylltu â thîm Datblygu a Chefnogi Hub Cymru Africa yn: advice@hubcymruafrica.co.uk
Grantiau sydd ar gael
Gall ymgeiswyr wneud cais am gyllid rhwng £1,000-£25,000 a rhaid iddynt wneud cyfraniad diriaethol at o leiaf 1 o’r 4 thema a ddisgrifir isod:
1. Iechyd
Rydym yn ceisio cyfrannu at y gwaith o ddiogelu iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol cymunedau yn Affrica drwy ein grantiau. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Cefnogi’r gwaith o rannu gwybodaeth a sgiliau rhwng sefydliadau iechyd yng Nghymru ac Affrica fel bod y ddwy ochr yn dysgu ac yn cael budd;
- Cynorthwyo gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn Affrica i gael ychydig o hyfforddiant a chymorth gan Gymru; a
- Chynorthwyo cymunedau yng Nghymru ac Affrica i gael gafael ar ofal iechyd mwy cyfartal o ansawdd
2. Dysgu Gydol Oes
O dan Dysgu Gydol Oes, byddwn ni’n cynorthwyo unigolion neu grwpiau o bobl ifanc neu oedolion yng Nghymru a/neu Affrica i ennill sgiliau a gwybodaeth. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Cysylltu cymunedau yng Nghymru gyda phartneriaid yn Affrica er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o ddatblygiadau byd-eang a materion rhyngwladol;
- Cefnogi anghenion addysgol plant dan anfantais yn Affrica a rhannu’r profiad hwnnw gyda disgyblion ysgol yng Nghymru, gan gyfrannu at eu haddysg ddinasyddiaeth fyd-eang; a
- Chynorthwyo pobl yn Affrica i ddysgu sgiliau ymarferol / galwedigaethol / artistig er mwyn gwella eu bywoliaeth.
3. Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
O dan ein ffrwd grant newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd, byddwn yn cefnogi mentrau sy’n lleihau dirywiad amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth yn Affrica yn ogystal â gwaith strategol ac ymarferol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i amddiffyn pobl rhag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar gyflenwadau bwyd, y dŵr sydd ar gael neu ddiogelwch. Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys:
- Gweithgareddau sy’n cynorthwyo ffermwyr yn Affrica i addasu i hinsawdd sy’n newid;
- Prosiectau sy’n galluogi’r defnydd o ynni adnewyddadwy yn Affrica;
- Prosiectau sy’n ymhél pobl yng Nghymru â materion newid hinsawdd fel y maen nhw’n effeithio ar Affrica; neu
- Waith sy’n ceisio cynorthwyo partneriaid yn Affrica i roi arferion datblygu cynaliadwy ar waith
4. Bywoliaeth gynaliadwy
Rydyn ni’n ceisio hybu cyfleoedd bywoliaeth realistig a chynaliadwy yng Nghymru ac Affrica, gan sicrhau bod unigolion wedi’u hymyleiddio yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau economaidd a chymdeithasol llawr gwlad. Mae’r mentrau rydyn ni’n eu cefnogi yn cynnwys:
- Mentrau cydweithredol sy’n cynhyrchu incwm ac sy’n cael eu harwain gan y gymuned sy’n cyflwyno budd i Gymru ac Affrica;
- Ymgysylltu â’r cyhoedd drwy ymgyrchoedd Masnach Deg, eiriolaeth neu bolisi;
- Gweithgareddau sy’n dod â’r defnyddiwr yn agosach at y cynhyrchydd mewn modd cynaliadwy;
- Cymorth i brosiectau a gweithgareddau amaethyddol bach; a
- Chymorth i weithgareddau cynhyrchu incwm llawr gwlad.
Y dyddiad can ar gyfer cyflwuno yw dydd Gwener 21ain Gorffennaf. Ni fydd modd cyflwyno ceisiadau ar ôl y dyddiad cau hwn.