Prosiect Grymuso Menywod: Datblygu gydag Urddas
Prosiect Grymuso Menywod: Datblygu gydag Urddas
Galluogi pobl ifanc i dyfu heb gywilydd nac ofn
Mae’r blogbost hwn yn rhan o gyfres ar brosiectau a ariennir gan Grant Grymuso Merched. Yma, mae Teams4U, a dderbyniodd grant o £25,000, yn adlewyrchu ar lwyddiant ei brosiect.
Mae Teams4U a Teams4U Wganda wedi bod yn gweithredu mewn partneriaeth ers 16 mlynedd, gan gyflawni prosiectau yn WASH (dŵr, glanweithdra a hylendid), iechyd mislif, hawliau iechyd atgenhedlu rhywiol, actifiaeth AIDS, ac addysg. Mae Teams4U Wganda yn gweithredu yn ardal Kumi, lle mae 20% o ferched mewn perygl o gael trafferth i aros mewn addysg; yn 2020, roedd beichiogrwydd yn yr arddegau yn cyfrif am 22.3% o’r rhai a oedd yn gadael yr ysgol ymhlith merched 14-18 oed. Yn ogystal, roedd absenoldebau o’r ysgol yn gyffredin, gyda merched yn colli 3-5 diwrnod y mis ar gyfartaledd oherwydd tlodi mislif a diffyg mannau diogel ar gyfer defnydd preifat o gynhyrchion misglwyf.
Prif nod y prosiect hwn oedd i’r merched mewn perygl aros yn yr ysgol i barhau â’u haddysg. Ariannodd y Grant Grymuso Menywod y prosiect am flwyddyn rhwng Mawrth 2022 a Mawrth 2023.
Hyfforddodd Teams4U Wganda 21 o athrawon benywaidd a 21 o athrawon gwrywaidd ar draws 21 o ysgolion yn ardaloedd Bukedea, Kumi a Katakwi i roi cymorth rhwng cymheiriaid a chynlluniau gwersi dan arweiniad ar waith. Byddai’r rhain yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â: tabŵau ynghylch mislif, hawliau iechyd rhywiol ac atgenhedlu; meithrin hunan-barch; trais ar sail rhywedd; cynllunio bywyd; a hylendid ac iechyd mislif. Cyflwynwyd hyn i 1,680 o bobl ifanc 11–18 oed (70% yn merched a 30% yn bechgyn) mewn 21 o glybiau allgyrsiol yn yr ysgol.
Cyfarfu pob clwb bob pythefnos am gyfanswm o 16 sesiwn. Etholodd y myfyrwyr chwe hyrwyddwr i fod yn gyfrifol am y clwb a darparu crynodebau o’u dysgu ar gyfer cymuned ehangach yr ysgol trwy wasanaethau a dosbarthiadau.
Hwyluswyd hyfforddiant undydd ar gyfer swyddogion addysg ardal, arolygwyr ysgolion, pwyllgorau rheoli ysgolion, cynrychiolwyr cymdeithasau rhieni ac athrawon a phenaethiaid. Roedd yn cynnwys trosolwg o gynnwys y prosiect i alluogi monitro a gwerthuso, ac i annog mabwysiadu agweddau ac ymddygiadau mwy cefnogol tuag at ferched yn eu harddegau. Darparwyd padiau mislif y gellir eu hailddefnyddio a gynhyrchwyd yn lleol i ddisgyblion o oedran mislif.
Canlyniadau’r prosiect:
- Mae 97% o ferched wedi cynyddu eu gwybodaeth a’u hyder am eu cyrff, gan arwain at well lles a gwydnwch a thebygolrwydd uwch o aros yn yr ysgol. Mae gan y merched ddealltwriaeth well o’u cylchoedd mislif ac maent yn cydnabod bod glasoed yn gam twf arferol.
- Mae 83% o ddisgyblion ysgol wedi cynyddu eu gwybodaeth am sut mae diwylliant yn effeithio ar gredoau am eu hiechyd atgenhedlu rhywiol. Maent bellach yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus wrth ymwneud â pherthnasoedd rhywiol.
- Mae gan 79% o rieni ac 83% o fechgyn a’r gymuned ehangach agweddau ac ymddygiadau mwy cefnogol tuag at ferched glasoed yn dychwelyd i’r ysgol.
- Cwblhaodd 100% o’r merched a’r bechgyn yr ysgol. Tra bod tri myfyriwr yn feichiog, cawsant eu hannog gan yr ysgol a’u rhieni i barhau â’u haddysg. Dewisasant sefyll eu harholiadau terfynol, gyda dau ohonynt yn pasio ac yn symud ymlaen i addysg bellach.
Heriau
- Roedd myfyrwyr na chafodd eu dewis ar gyfer y prosiect yn teimlo’n chwithig ac yn anfodlon.
- Roedd adnoddau’n gyfyngedig, gan ei gwneud yn anodd cynnal hyfforddiant ac addysgu cynhwysfawr ym mhob un o’r 21 ysgol.
- Bydd angen lobïo swyddogion addysg ardal ac arolygwyr ysgolion i sicrhau bod penaethiaid ac uwch reolwyr yr ysgolion yn parhau i addysgu disgyblion ar y materion hyn.