Datganiad ar gydsoddiad DFID a’r FCO
Datganiad ar gydsoddiad DFID a’r FCO
Daw’r newyddion bod yr Adran Datblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn bwriadu uno ar adeg ddinistriol i bobl dlotaf y byd.
Nawr yw’r amser i’r DU gynyddu ei hymdrechion i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf y mae’r byd yn eu hwynebu heddiw; yn cynnwys newid hinsawdd, tlodi ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae COVID-19 wedi bod yn ddinistriol i bobl ar draws y byd. I lawer o bobl dlotaf y byd, roedd y problemau oedd yn bodoli cyn y pandemig byd-eang yn ymddangos yn anorchfygol, a nawr, wrth i lawer o wledydd wynebu’r clefyd, bydd anghydraddoldebau enfawr yn dod yn fwy di-syfl byth.
Mae’n anodd credu, ar adeg pan mae degawdau o gynnydd o dan fygythiad yn sgîl COVID-19, bod y Prif Weinidog wedi penderfynu diddymu DFID – arweinydd byd yn y frwydr yn erbyn tlodi.
Nawr yw’r amser i gynyddu ein huchelgais i weithio’n fyd-eang a DFID yw’r offeryn gorau ar gyfer gwneud hyn.
Nododd 2020 ddechrau degawd o gyflawni, lle’r oedd camau byd-eang yn cael eu cymryd i sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Mae DFID yn esiampl o dryloywder ac effeithiolrwydd, gydag enw da yn rhyngwladol fyddai’n gallu arwain y gwaith hwn.
Gallai’r uniad hwn erydu ‘Prydain Fyd-eang’. Ni all diplomyddiaeth gymryd lle cymorth. Ni ellir rhoi blaenoriaeth i wledydd incwm canolig fel Tsieina neu India dros wledydd incwm is fel Ethiopia neu Somalia. Ni eir i’r afael â materion byd-eang os byddwn yn canolbwyntio ar fuddiannau cenedlaethol y DU yn unig.
Nid ydym yn ddiogel rhag y materion sy’n effeithio ar gymunedau gweddill y byd, ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn barod ac yn meddu ar yr adnoddau ar gyfer gweithredu’n fyd-eang.
Rachel Cable a Claire O’Shea
(Cyd-gadeiryddion Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru)