Cael Cymunedau Ar-lein
Cael Cymunedau Ar-lein
Rydym yn falch o gynnig y gweithdy am ddim hwn i unigolion, grwpiau ac elusennau sy’n gweithio mewn undod byd-eang yng Nghymuned Cymru ac Affrica.
Bydd y gweithdy’n helpu cyfranogwyr i weithio’n fwy effeithiol mewn undod, gan ddefnyddio offer digidol ac ar-lein. Bydd y gweithdy’n cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau, fideos, trafodaethau ac astudiaethau achos.
Erbyn diwedd y gweithdy hwn, bydd y cyfranogwyr yn:
- deall sut y gall gwahanol gymunedau yn Affrica gael mynediad ymarferol i’r rhyngrwyd
- gwybod pa dechnolegau y gellir eu defnyddio’n hawdd, gan gynnwys ynni adnewyddadwy graddfa fach, a faint maen nhw’n ei gostio
- deall y rhwystrau i fynediad i’r rhyngrwyd sydd yn cael ei brofi gan rai grwpiau, a’r risgiau o weithio ar-lein, sy’n gwneud anghydraddoldebau’n waeth.
Astudiaethau Achos:
- Bwrdd Addysg Rhanbarth Siavonga, Zambia yn gweithio gydag Ysgolion Solar Giakonda yng Nghymru
- Cecilia Nyaga, ymgynghorydd sy’n gweithio gyda Sefydliad Pobl Anabl Kibwesi yn Kenya a Responsible Assistance yng Nghymru
- Naill ai Joylene a defnyddwyr canolfannau cymunedol eraill yn Chinamhora, Zimbabwe yn gweithio gyda Love Zimbabwe
- Athrawon yn Ysgol Chomuzangari yn gweithio gyda Chydweithfa Menywod Chomuzangari.
Dyma’r cyntaf o dri gweithdy i helpu cymuned Cymru ac Affrica i wneud gwell defnydd o offer digidol.
Mae’r gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o brosiect Hub Cymru Affrica ar wneud y defnydd gorau posibl o offer digidol yng Nghymuned Cymru ac Affrica.
Mae’r digwyddiad hwn yn brosiect sydd yn cael ei ariannu’n rhannol gan y Sefydliad Waterloo.