Ymgyrch dros Undod

Dechreuodd yr ymgyrch ym mis Gorffennaf 2022, a chafodd ei greu er mwyn hyrwyddo gweithredu a gweithredoedd o undod ymhlith y cyhoedd yng Nghymru, ac i gynyddu ymwybyddiaeth o rôl cymuned Cymru Affrica o hyrwyddo Undod Byd-eang. Mae’r ymgyrch yn cael ei ariannu gan FCDO.

Beth mae Undod Byd-eang yn ei olygu i ni yng Nghymru, a sut allwn ni ei wneud yn well?

Darllenwch bum peth a ddysgwyd o Uwchgynhadledd Undod Byd-eang 2022.

Ymchwil

Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Hub Cymru Africa yn olrhain ymgysylltiad cyhoeddus pobl mewn tlodi byd-eang a datblygu cynaliadwy wedi canfod bod Cymru’n fwy ymgysylltiedig na gweddill Prydain Fawr. Ystyrir bod 22% o gyhoedd Cymru ‘Wedi Ymgysylltu’n Bwrpasol’, o gymharu â 19% yng ngweddill Prydain Fawr.

Mae ystadegau nodweddiadol eraill yn cynnwys bod cyhoedd Cymru 11% yn fwy tebygol o ymgysylltu â thlodi byd-eang drwy ei drafod gyda ffrindiau, teulu neu bobl eraill. Maent hefyd yn fwy ystyriol yn foesegol ac yn gynaliadwy gyda 3% yn fwy tebygol o brynu neu wrthod prynu nwyddau’n seiliedig ar ymgysylltiad y cynnyrch neu’r cwmni â thlodi byd-eang.

Mae 63% o bobl Cymru’n pryderu neu’n pryderu’n ddybryd am lefelau tlodi mewn gwledydd tlawd ac mae 58% yn meddwl y dylem gadw neu gynyddu ein cyllideb cymorth gyfredol. Mae cymorth wedi codi’n sylweddol ers y toriadau i’r gyllideb cymorth ym mis Ebrill 2021, o 44% ym mis Ionawr 2021 i 57% ym mis Mehefin 2022.

Darllenwch yr adroddiad llawn a’n crynodeb ohono isod

Podlediad Solidari-Tea

Podlediad 1: Mae Emina Redzepovic, Cyd-drefnydd Ymgyrch y Ddadl Dros Undod Rhyngwladol, yn cael ei hymuno gan ei chydweithwraig Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaeth yn Hub Cymru Africa, a chomisiynodd YouGov a’r Development Engagement Lab i wneud yr ymchwil.

Podlediad 2: Yn ymuno â Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa, mae Aileen Burmeister, Pennaeth Cymru Masnach Deg, i drafod pwysigrwydd Masnach Deg ynghanol hinsawdd sy’n newid, ac argyfwng costau byw.

Podlediad 3: Yn ymuno â Emina Redzepovic, Cydlynydd Ymgyrch yr Achos dros Undod Byd-eang, mae Swyddog Rhwydwaith Arweinyddiaeth Ieuenctid SSAP a’r actifydd cyfiawnder cymdeithasol Billy Mazoya, a Chydlynydd Prosiect SSAP, y dylunydd tecstilau a’r actifydd cyfiawnder hinsawdd, Ophelia Dos Santos.

Maen nhw’n trafod ymchwil Hub Cymru Affrica i lefelau ymgysylltu yng Nghymru gydag
undod byd-eang, sut mae’n cymharu â’u profiadau byw eu hunain, a’r rôl y gall
rhwydweithiau cymdeithasol ei chwarae.

 

Gwrandewch rŵan ar eich hoff chwaraewr podlediad

Gweminar

Claire O’Shea, Pennaeth Partneriaeth yn Hub Cymru Africa, cyflwyno gweminar byw ar uchafbwyntiau ei ddarganfyddiadau ac i gymryd cwestiynnau gan aelodau’r sector undod rhyngwladol.

Gwyliwch rŵan ar ein sianel YouTube

Arddangosfa

Undod Byd-eang Cymru – Y Gwrthychau Sy’n Ein Cysylltu 

Arddangosfa: 1-15 Tachwedd, yn amodol ar oriau agor y lleoliad
Lleoliad: Pafiliwn y Grange, Gerddi’r Grange, Caerdydd CF11 7LJ

Mae’r arddangosfa dros dro hon yn rhoi cipolwg ar rôl Cymru mewn undod byd-eang a materion diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol dros y blynyddoedd.

Mae’r arddangosfa yn arddangos treftadaeth undod byd-eang Cymru gyda gwrthrychau sy’n datgelu’r straeon, y cyfraniadau a’r ymgyrchoedd niferus, sydd yn cael eu mynegi drwy arteffactau a chelfyddydau gweledol sy’n dod â’r hanesion hyn i fywyd.

Mae’r eitemau’n cynnwys Idris y pyped ddraig o ymgyrch Rhoi Terfyn ar Dlodi 2005, dogfen goffa Apêl Heddwch Menywod 1923 o ddeiseb a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod o

Gymru, a thecstilau wedi’u gwehyddu â llaw o ‘Deithiau Ffoaduriaid’ a gafodd eu gwneud ym Mhorthaethwy.

Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Ymgyrch Achos Dros Undod Hub Cymru Affrica, sy’n ceisio ennyn diddordeb, addysgu a hyrwyddo gweithredoedd o undod byd-eang yng Nghymru. Hefyd, rôl Cymuned Cymru Affrica wrth hyrwyddo Undod Byd-eang. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan y Swyddfa Dramor, Datblygu a’r Gymanwlad.

Yma

I gyd-fynd â’r arddangosfa hon am ein cysylltiadau byd-eang, bu Hub Cymru Affrica yn cyfweld ag Eid Ali Ahmed, a gyrhaeddodd Gaerdydd fel ffoadur o Somaliland ym 1987. Dair blynedd yn ddiweddarach, fe helpodd i sefydlu Cyngor Ffoaduriaid Cymru ar yr un diwrnod ag yr oedd Nelson Mandela rhyddhau o’r carchar. Yn fwy diweddar, mae wedi gweithio gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd i fynd i’r afael â rôl cymunedau alltud a masnach anffurfiol wrth ysgogi economi ôl-wrthdaro Somaliland.


Digwyddiad: Ydyn ni wir yn gallu gwneud gwahaniaeth? Boicotio, Prynu, Cefnogi

Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gynnal trafodaeth banel ar y thema Cydsefyll, a gofyn ‘Ydyn ni wir yn gallu gwneud gwahaniaeth?’ fel rhan o Farchnad Foesegol yr Ŵyl.

Siaradodd pedwar panelydd am eu prif argymhellion i ddefnyddwyr ynghylch pwy i Gefnogi, ble i Brynu, a beth i Foicotio, ac ateb cwestiynau’r gynulleidfa. Fe wnaethant awgrymu camau syml y gallwn eu cymryd hefyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb,
anghyfiawnderau a newid hinsawdd.

“We don’t need a handful of people doing zero waste perfectly. We need millions of people doing it imperfectly.” Anne Marie Bonneau.

Darllen mwy