Yn ystod dau ddiwrnod, byddwn archwilio materion sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol ym maes iechyd y cyhoedd ac atebion ymarferol i bartneriaethau iechyd yn ein cynhadledd flynyddol iechyd.
Cadwch lygad am agenda llawn cynhadledd a manylion ar sut i gofrestru.
#DinasyddiaethFydEang2021
Araith Allweddol – Dr Frank Atherton [SAESNEG]
Rydym yn falch iawn o gael Dr Atherton gyda ni unwaith eto i agor Cynhadledd Iechyd Cymru ac Affrica. Mae’n cefnogi rôl y sector iechyd mewn dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru. Bydd yn myfyrio ar y gweithgarwch iechyd byd-eang presennol yng Nghymru, ac i ble yr awn ni o’r fan hon tra’n wynebu heriau COVID19 a Brexit a newid yn yr hinsawdd. Mae ef ei hun yn dod â doethineb o yrfa hir ar draws llawer o wledydd, gan gynnwys Affrica Is-Sahara.
Adolygiad Partneriaethau Iechyd Byd-eang [SAESNEG]
Mae gan Gymru hanes hir o ymgysylltu’n bositif â gwledydd incwm isel a chanolig, ac rydym yn awr ar adeg o gryn gyfle. Wrth i ni ailadeiladu ar ôl pandemig sydd wedi amlygu annhegwch a rhyng-gysylltiadau byd-eang, comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau adroddiad. Edrychodd y cyntaf, sef “Adolygiad o Bartneriaethau Iechyd Cymru” ar weithgarwch rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara. Wrth baratoi’r adroddiad, fe wnaethom chwilio am wybodaeth bresennol a’i hadolygu, arolygu’r rheini sy’n ymwneud â gwaith iechyd rhyngwladol, a chynnal dros 30 o gyfweliadau â rhanddeiliaid. Nodwyd bod 38 o sefydliadau yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol mewn gwaith iechyd rhyngwladol. edrychodd yr ail Adolygiad Cyflym o Weithgarwch Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru ar y cysylltiadau iechyd ehangach ar draws y sector iechyd cyfan gydag Ewrop a gweddill y byd.
Araith Allweddol – Jane Hutt AS, Gweinidog dros Gyfiawnder Cyhoeddus [SAESNEG]
Araith allweddol â rhoddwyd gan Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru.
Dinasyddieath Fyd-eang Cymru – hanes grymus [SAESNEG]
Dyfynnir yn aml fod gan Gymru ‘hanes hir a balch o ryngwladoldeb’ – ond beth yw’r stori honno? Wrth i ni ddathlu pen-blwydd rhaglen Cymru Affrica’r llywodraeth yn 15 oed, a lansiwyd yn 2006, bydd y sesiwn hon yn archwilio beth ddaeth o flaen hyn: oes cyfleoedd i ddysgu o brosiectau yn y gorffennol? Oes gan gysylltiadau iechyd hanesion cysylltiadau iechyd ar gyfer ymchwil; ac ydy gallu deall agweddau o’n gorffennol yn gallu llywio ein harferion yn y dyfodol? O ymgyrch y byd i ddileu Twbercwlosis, i gyd-ddysgu UNESCO, drwy ddyddiadur yn Bihar, India, Prifysgol yn Nigeria, a Labordy Biotechnoleg yn Tsieina… Mae Cynghorydd Treftadaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (a chyn Gydlynydd Cysylltiadau Cymunedol Cymru Affrica), Craig Owen, yn rhannu ei ymchwil archifol ar stori Datblygu Rhyngwladol Cymru.
COVID-19 mewn cymunedau BAME a petrusrwydd brechlyn [SAESNEG]
Ceir tystiolaeth o farwolaethau anghymesur ac afiachusrwydd ymhlith pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), gan gynnwys staff ein GIG, sydd wedi contractio COVID-19. Erbyn hyn, mae tystiolaeth dda iawn bod brechu’n effeithiol iawn o ran diogelu rhag marwolaeth a’r ysbyty rhag coronafeirws (COVID-19). Mae petrusrwydd y brechlyn yn uwch ymhlith rhai grwpiau BAME na phobl o gefndir ethnig gwyn, ac mae’r nifer sy’n manteisio arnynt yn is. Bydd y gweithdy hwn yn adolygu’r broblem hon gyda phanel o arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus diaspora Affricanaidd, yr Athro Edward Kunonga a Dr Kelechi Nnoaham.
Araith Allweddol – Sue Tranka [SAESNEG]
Rydym wrth ein bodd y bydd Sue Tranka yn agor ail ddiwrnod ein cynhadledd, sydd â phwyslais ar rôl hanfodol nyrsys a bydwragedd yn Affrica ac yng Nghymru. Dechreuodd yn ei swydd fel Prif Swyddog Nyrsio Cymru ym mis Awst, ac mae ganddi gyfoeth o brofiad. Bydd yn myfyrio ar rôl nyrsys a bydwragedd, fel y gwelwyd drwy’r ymgyrch byd-eang Nursing Now!, ac yn arbennig, eu potensial ar gyfer mwy o ddinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru.
Lansio modiwl eddysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang y GIG [SAESNEG]
Pwrpas y rhaglen hyfforddi hon yw gwella eich dealltwriaeth o’r cysyniad o ddinasyddiaeth fyd-eang, a’ch cefnogi ar eich taith i fod yn ddinesydd byd-eang gweithgar. Mae’r pecyn hyfforddi yn cynnwys modiwl craidd sy’n rhoi trosolwg o ddinasyddiaeth fyd-eang a phum modiwl dewisol. Mae’r Modiwl Craidd yn dangos camau addysg dinasyddiaeth fyd-eang:
- Bod yn wybodus ac yn awyddus
- Datblygu’r sgiliau i feddwl yn feirniadol, meithrin empathi ag eraill, a gwerthuso sefyllfaoedd
- Gweithredu ar faterion dinasyddiaeth fyd-eang sy’n effeithio arnoch chi eich hun ac eraill.
Mae pum modiwl dewisol arall yn cwmpasu ystod o themâu a materion fel iechyd sy’n seiliedig ar hawliau, newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, heddwch a gwrthdaro, globaleiddio a rhyngddibyniaeth, a chymorth a datblygiad.
Hyrwyddo Arweinyddiaeth Nyrsio yn Affrica [SAESNEG]
Bydd y sesiwn yn rhoi trosolwg o’r ymgyrch byd-eang Nursing Now a grŵp Llywio Nursing Now Cymru/Wales, ac yna, cyflwyniad ar nyrsio a chydweithio QI rhwng Prifysgol Caerdydd a Namibia a Malawi.
Iechyd mamau yn Zambia – cynnydd a heriau [SAESNEG]
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar y cynnydd o flwyddyn i flwyddyn neu yn erbyn Nod Datblygu Cynaliadwy 3 i leihau nifer y marwolaethau ymhlith mamau ar drws y byd i lai na 70 fesul 100,000 o enedigaethau byw, ac ar rai o’r heriau sydd wedi llesteirio cynnydd, ac sy’n parhau i wneud hynny – sy’n cynnwys effaith COVID19 a’r toriadau diweddar i’r gyllideb cymorth.
Gwrth-hiliaeth: sut wnaeth ysgol feddygol ymateb i Black Lives Matter, a Siarter Gwrth-Hiliol Hub Cymru Africa [SAESNEG]
Dewch i glywed sut mae Prifysgol Abertawe yn hyfforddi pobl i fod yn ‘wylwyr gweithredol’ ac i fynd i’r afael â hiliaeth gydag ysgolion meddygol. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno Siarter Gwrth-Hiliol Hub Cymru Affrica.
Arddangos Cysylltiadau Iechyd [SAESNEG]
Mae Teams4U, Betsi Kenya Links, Life for African Mothers a Dolen Cymru yn rhannu eu profiadau o sut y gwnaethant addasu i’r pandemig COVID19. Datblygodd un Ap asesu anghenion gyda phartneriaid yn Kenya, addasodd un arall eu rhaglenni presennol i helpu plant a gweithwyr gofal iechyd sy’n wynebu COVID19 yn Lesotho, ehangodd un arall eu partneriaeth o ysgolion i leoliadau gofal iechyd am y tro cyntaf yn Uganda, a gweithiodd un arall ar godi ymwybyddiaeth o COVID mewn cymunedau difreintiedig yn Liberia.