Diogelu

Yn y DU, mae diogelu yn golygu amddiffyn iechyd, llesiant a hawliau dynol pobl, ynghyd â’u galluogi i fyw yn rhydd o niwed, cam- driniaeth ac esgeulustod.

Yng Nghymru, mae diogelu yn golygu atal ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.

Yn y sector datblygu rhyngwladol, mae’n golygu amddiffyn pobl, yn arbennig menywod, a merched, rhag niwed sy’n codi yn sgil dod i gysylltiad â’n staff neu raglenni.

Yn Hyb Cymru Affrica, credwn fod gan bawb yr ydym yn dod i gysylltiad â hwy, waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, beichiogrwydd, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol, yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o niwed, cam-driniaeth a chamfanteisio.

 

Yn Hyb Cymru Affrica, rydym yn gweithio i wella safonau diogelu ym mhob agwedd ar ein gwaith, trwy dair elfen – atal, adrodd ac ymateb.

Rydym hefyd yma i roi cymorth i sefydliadau gryfhau eu gwaith diogelu, gan helpu i adeiladu amgylchedd mwy diogel i bawb.

Cefndir

Yn 2018, yn dilyn adroddiadau am gam-driniaeth, camfanteisio ac aflonyddu rhywiol ym maes datblygu a chymorth rhyngwladol, aeth llywodraeth y DU ati i ailwampio’r system ddiogelu ac atebolrwydd yn y sector.

Ym mis Mawrth 2018 mynychwyd Uwchgynhadledd Diogelu yn San Steffan gan arweinwyr cyrff anllywodraethol blaenllaw, ynghyd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddatblygu Rhyngwladol ar y pryd, Cadeirydd Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, ac ysgrifennydd parhaol yr Adran er Datblygiad Rhyngwladol. Cynrychiolwyd Cymru gan Hyb Cymru Affrica ac aelod o adran Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.

Arwyddwyd addewid ar y cyd gan 32 o fudiadau i wella safonau yn y sector ac ymrwymo i gryfhau atebolrwydd, diwylliant sefydliadol, arferion recriwtio a strwythurau ar gyfer adrodd ac ymateb i honiadau o gam-driniaeth. Rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2018, bu cyfres o weithgorau’n cydweithio ar brosiectau oedd â’r nod o ddatblygu arweiniad o amgylch themâu diogelu allweddol.

Ym mis Hydref 2018, cynhaliodd llywodraeth y DU gynhadledd ryngwladol ar ddiogelu er mwyn annog gweithredu ar y cyd ar draws adrannau llywodraeth y DU a’r sector datblygu ehangach, gan roi sylw penodol i leisiau goroeswyr a dioddefwyr camdriniaeth.

“Rhoi pobl yn gyntaf: mynd i’r afael â chamfanteisio rhywiol, cam-drin rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn y sector cymorth”, gyda’r nod o roi sylw penodol i leisiau goroeswyr a dioddefwyr camdriniaeth, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o beryglon camfanteisio o fewn datblygu rhyngwladol. Roedd y cyfranogwyr yn cynrychioli cylch eang o lywodraethau, rhoddwyr, mudiadau amlochrog, contractwyr sector preifat, arbenigwyr annibynnol, chyrff anllywodraethol rhyngwladol a chyrff cyffelyb o wledydd de’r byd.

Yn dilyn yr Uwchgynhadledd, ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyfres o ddeilliannau, â’r nod o sicrhau newid parhaol. Dyma nhw’r deilliannau:

  • Sicrhau cefnogaeth i oroeswyr, dioddefwyr a’r rhai sy’n chwythu’r chwiban; gwella atebolrwydd a thryloywder; cryfhau systemau adrodd; a mynd i’r afael â’r rhai sy’n mynd yn ddi-gosb

  • Cymell newid diwylliannol trwy arweinyddiaeth gref, atebolrwydd sefydliadol a gwell prosesau adnoddau dynol

  • Mabwysiadu safonau byd-eang a sicrhau bod mudiadau yn cael eu bodloni neu’n rhagori arnynt

  • Cryfhau capasiti a gallu sefydliadau ar draws y sector cymorth rhyngwladol i gyflawni’r safonau hyn

Yn unol â’r safonau a bennwyd gan Lywodraeth y DU, mae Hub Cymru Africa yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gryfhau safonau yn y sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru.

Adnoddau Diogelu

Polisïau Enghreifftiol

Dyma enghreifftiau o ddogfennau sylfaenol sydd angen eu newid â’u haddasu, yn dibynnu ar anghenion eich mudiad.

Mae polisïau Diogelu Enghreifftiol yn nodi’r ymrwymiadau a wnaed gan fudiadau ac yn hysbysu staff a gwirfoddolwyr o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu.

Datblygu eich polisi eich hun

Mae hon yn ddogfen agored a ddatblygwyd gan Gynghrair Datblygu Rhyngwladol yr Alban (SIDA), fel canllaw cam wrth gam i ddatblygu polisi diogelu ar gyfer eich mudiad.

Safonau ar gyfer y DU gyfan

Y Comisiwn Elusennau

Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO)

Safonau, arweiniad i bartneriaid a gwybodaeth gan FCDO ar sut i adrodd yn ôl am fater o bryder.

Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO)

Mae’r canllaw hwn yn darparu manylion y safonau newydd i bartneriaid a sut y cânt eu defnyddio ar gyfer cynnal gwell asesiadau diwydrwydd priodol, er mwyn asesu gallu mudiad i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed y maent yn gweithio gyda nhw rhag camfanteisio, cam-driniaeth ac aflonyddu rhywiol, yn ogystal ag amddiffyn eu staff a’u gwirfoddolwyr eu hunain.

Gweld sut mae mudiadau eraill yn mynd ati i ymdrin â diogelu

Cadw Plant yn Ddiogel

I ddarganfod a yw’ch mudiad yn gwneud popeth o fewn ei allu i gadw plant yn ddiogel, dechreuwch trwy ddefnyddio teclyn hunanasesu am ddim sefydliad Cadw Plant yn Ddiogel, a fydd yn eich helpu i ddarganfod eich cryfderau a’ch gwendidau.

Canllawiau ar lawer o feysydd Diogelu gan gynnwys; Deall Diogelu, Datblygu Diogelu Plant a Rheoli Honiadau ynghylch Diogelu Plant

Bellach mae pedair safon Cadw Plant yn Ddiogel a gydnabyddir yn fyd-eang yn cael eu defnyddio’n helaeth ym mhob sector i sicrhau arfer gorau wrth ddiogelu plant, yn ogystal â gwell atebolrwydd i’r rhai sy’n defnyddio neu’n elwa o wasanaethau’r mudiadau hynny. Mae pob safon yn amlinellu’r elfennau allweddol y dylid eu rhoi ar waith i gadw plant yn ddiogel ac yn rhestru’r gofynion sydd eu hangen i gyflawni’r safonau hyn.

NSPCC

Mae sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau diogelu da yn golygu bod plant yn ddiogel rhag oedolion a phlant eraill a allai beri risg. Mae hyn yn cynnwys mudiadau gwirfoddol a chymunedol, grwpiau ffydd, darparwyr sector preifat, yn ogystal ag ysgolion, ysbytai a chlybiau chwaraeon.

BOND

Yma gallwch ddod o hyd i ymrwymiad BOND i atal camfanteisio rhywiol yn y sector, y cynnydd a’r camau gweithredu a wnaed, newidiadau a ddaeth yn sgil COVID-19, ynghyd â chanllawiau a hyfforddiant pellach.

Pecyn Cymorth Diogelu Gweledol

Crëwyd y pecyn cymorth hwn fel adnodd i asiantaethau ei ddefnyddio fel ffordd weledol o gyfathrebu â chymunedau yr effaith ar negeseuon diogelu allweddol. Y nod yn y pen draw ar gyfer y pecyn cymorth hwn yw cefnogi cymunedau i wireddu eu hawliau o ran Atal Cam-drin Camfanteisio Rhywiol a Harrassment a hyrwyddo diwylliant ‘siarad’.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys gwahanol gynrychiolaethau gweledol o negeseuon diogelu allweddol, sy’n deillio o Chwe Egwyddor Graidd (IASC) sy’n ymwneud â Chamfanteisio Rhywiol a Cham-drin, yn ogystal â chanllawiau ar sut i gymhwyso’r delweddau hyn. Mae wedi’i anelu at gynulleidfa ryngwladol ac yn gyffredinol mae’n berthnasol ar draws diwylliannau a lefelau llythrennedd amrywiol gyda’r amrywiadau a ddarperir. Fe’i cynlluniwyd yn benodol i’w ddefnyddio gan yr asiantaethau a’r sefydliadau hynny sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau rhyngwladol mewn cyd-destunau dyngarol a datblygu.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn adnodd agored, golyguadwy, am ddim.

Rhoddwyr yng Nghymru

Mae’r rhain yn adnoddau gan sefydliadau allweddol sydd hefyd yn darparu cyllid i’r sector yng Nghymru.

Canllawiau ac adnoddau WCVA ar ddiogelu.