Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dwyn ynghyd unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ledled y byd. O grwpiau cymunedol bach i gyrff anllywodraethol rhyngwladol mawr, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru.
Eleni, rydym yn symud ar-lein. Mae pandemig COVID-19 wedi gorfodi ffyrdd newydd o weithio a byw, wedi newid ein blaenoriaethau ac wedi achosi aflonyddwch sylweddol, er gwell neu er gwaeth.
Rydym hefyd wedi ailenwi’r Uwchgynhadledd Datblygiad Rhyngwladol i’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang. Mae hyn yn dilyn rhaglen o ddigwyddiadau a hunan-ddarganfod yn Hub Cymru Africa fel rhan o’r prosiect, #AulFfurfiorNaratif.
Ein nod yw ail-fframio’r naratif sefydledig yn y sector cymorth o un sy’n cael ei lywio gan dybiaethau ôl-wladychol problemus i un o undod, parch a gwella.
Yn sylfaenol i’r broses hon mae’r gydnabyddiaeth na fydd unrhyw newid cadarnhaol oni bai ein bod yn gwneud pethau’n wahanol ar y lefelau unigol a chyfunol. Rhaid inni gydnabod ein bod i gyd yn rhan o’r broblem yn ogystal â’r ateb, waeth pa mor dda yw bwriadau da ein hymdrechion. Mae hynny’n golygu trawsnewid ein hunain a’r sefydliadau rydym wedi’u creu os ydym o ddifrif ynghylch trawsnewid y strwythurau ehangach sy’n cael gwared ar grwpiau penodol o bobl ac yn gwahaniaethu yn eu herbyn, ble bynnag yn y byd y maent yn byw.
Mae rhaid i ni weithio mewn undod.
#GlobalUndod2021
Mae’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang yn dwyn ynghyd unigolion a sefydliadau o Gymru sy’n gweithio ar brosiectau undod ledled y byd. O grwpiau cymunedol bach i gyrff anllywodraethol rhyngwladol mawr, rydym yn codi proffil y sector yng Nghymru.
Eleni, rydym yn symud ar-lein. Mae pandemig COVID-19 wedi gorfodi ffyrdd newydd o weithio a byw, wedi newid ein blaenoriaethau ac wedi achosi aflonyddwch sylweddol, er gwell neu er gwaeth.
Rydym hefyd wedi ailenwi’r Uwchgynhadledd Datblygiad Rhyngwladol i’r Uwchgynhadledd Undod Byd-eang. Mae hyn yn dilyn rhaglen o ddigwyddiadau a hunan-ddarganfod yn Hub Cymru Africa fel rhan o’r prosiect, #AulFfurfiorNaratif.
Ein nod yw ail-fframio’r naratif sefydledig yn y sector cymorth o un sy’n cael ei lywio gan dybiaethau ôl-wladychol problemus i un o undod, parch a gwella.
Yn sylfaenol i’r broses hon mae’r gydnabyddiaeth na fydd unrhyw newid cadarnhaol oni bai ein bod yn gwneud pethau’n wahanol ar y lefelau unigol a chyfunol. Rhaid inni gydnabod ein bod i gyd yn rhan o’r broblem yn ogystal â’r ateb, waeth pa mor dda yw bwriadau da ein hymdrechion. Mae hynny’n golygu trawsnewid ein hunain a’r sefydliadau rydym wedi’u creu os ydym o ddifrif ynghylch trawsnewid y strwythurau ehangach sy’n cael gwared ar grwpiau penodol o bobl ac yn gwahaniaethu yn eu herbyn, ble bynnag yn y byd y maent yn byw.
Mae rhaid i ni weithio mewn undod.
#GlobalUndod2021
Araith Allweddol
[SAESNEG]
Jane Hutt AS, Dirprwy Weinidog dros Gysylltiadau Rhyngwladol
Cyfrifoldeb byd-eang Cymru i’r dyfodol
Mae Brexit a’r pandemic byd-eang wedi cyflwyno goblygiadau sylweddol o ran lle Cymru yn y byd. Ond mae cyfraith Cymru a nodau’r Cenhedloedd Unedig wedi rhoi cyfrifoldeb arnom i ymddwyn mewn ffordd sydd yn gyfrifol yn fyd-eang, sydd yn ystyried ein heffaith ar genedlaethau’r dyfodol a phobl ar draws y byd. Beth yw dyfodol Cymru fel cenedl sydd yn gyfrifol yn fyd-eang? Ymunwch â ni am drafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb wrth i ni archwilio dyfodol ein gwlad.
Tyfu lan gyda Ddinasyddiaeth fyd-eang
Sut gallwn ddatblygu dinasyddion moesegol?
Y mae’r gweithdy hwn o ddiddordeb arbennig i grwpiau sydd yn ymgysylltu ag ysgolion i siarad am eu gwaith. Bydd mynychwyr yn ennill gwell ddealltwriaeth o le mae Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ffitio yn y cyd-destun cyfoes o fewn ysgolion a’r tu hwnt ac yn rhannu syniadau ymarferol am sut i ymgysylltu ag ysgolion. Cawn gyfle i edrych ar amrediad o adnoddau sydd yn delio â materion byd-eang mewn ffyrdd sydd yn hwyl ac yn procio’r meddwl, yna rannu profiadau a syniadau, gan gynnwys effaith COVID-19 a’r heriau a’r cyfleoedd sydd yn deillio ohoni. Yn sgil y gweithdy hwn dylai cyfranogwyr deimlo’n fwy hyderus am redeg nifer o weithgareddau i gefnogi dinasyddiaeth fyd-eang mewn ysgolion.
Trosglwyddo Arian: Moddion a heriau
[SAESNEG]
Cyfle i grwpiau Cymru Affrica rannu profiadau a heriau o drosglwyddo arian i bartneriaid yn Affrica.
Clwb Llyfrau
#FutureGen: Lessons from a small country
gan Jane Davidson
[SAESNEG]
Byddwch yn rhan o’n sesiwn Clwb Llyfrau i drafod eich barn a’ch teimladau am “#futuregen: Lessons from a Small Country” gan Jane Davidson.
Bydd yr awdur yn ymuno â ni i ddweud ei barn am yr hyn y gall llywodraethau, gwneuthurwyr polisïau a gweithredwyr ar draws y byd ddysgu o greu a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.
Climate Cymru: Mynd â Chymru i COP26
[SAESNEG]
Mae’r ddau argyfwng yn ein hinsawdd a natur, yn bygwth ein cymunedau, ein ffyrdd o fyw, a’n llefydd hardd yng Nghymru.
Fis Tachwedd, bydd arweinwyr o bob cwr o’r byd yn dod i Glasgow i bennu’r camau nesaf yng nghynnig dynoliaeth i osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Mae’n gyfle go iawn i greu dyfodol gwell ar gyfer ein cymunedau, yma yng Nghymru ac ar draws y byd.
Mae yna obaith. Ond mae angen i ni sicrhau bod ein harweinwyr yn gwybod pa mor gryf rydym yn teimlo.
Ymunwch â ni wrth i ni gyflwyno Climate Cymru – yr ymgyrch i fynd â 50,000 o leisiau o Gymru i COP26. Ychwanegwch eich llais gyda ni.
Gweithredu Ieuenctid a’r Hinsawdd
[SAESNEG]
Gan SSAP Youth
Ieuenctid yn mudo o ganlyniad i newid hinsawdd / Mudo a Achosir gan Hinsawdd: Bydd y gweithdy hwn yn gweithredu’n bennaf trwy ymagwedd ymgysylltu rhanddeiliaid.
Yn ystod y sesiwn awr, bydd materion allweddol yn cynnwys y rhyng-berthynas rhwng newid hinsawdd, mudo o ganlyniad i newid hinsawdd, ieuenctid a rhyng-genedlaetholdeb yn cael eu hamlygu a’u cyflwyno gan siaradwyr ar ffurf darlithoedd rhyngweithiol a chyfranogiad gweithredol gan y gynulleidfa.
Cyfiawnder Hinsawdd a Dyfodol Ffermio
[SAESNEG]
Gan Cymru Masnach Deg
Nid siocledi yn unig yw siocledi Pacari. Maent yn fiodynamig, adfywio, organig, sy’n eiddo lleol, wedi’u pecynnu mewn siocled ffynhonnell. Gan fod cocoa yn un o’r prif gynhyrchion sy’n gysylltiedig â dadorewigo, mae hyn yn gamp drawiadol.
Ymunwch â ni i glywed gan Santiago Peralta, un o sylfaenwyr Pacari, ac Erinch Sahan, Prif Weithredwr Sefydliad Masnach Deg y Byd a fydd yn siarad am gyfiawnder hinsawdd, y ffermio y mae angen i bob un ohonom ei groesawu er mwyn sicrhau dyfodol, a’r busnesau arloesol sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.
Gweithio’n ddigidol i fod yn ddiogel rhag COVID ac yn gyfeillgar i’r hinsawdd
[SAESNEG]
Mae offer digidol wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y pandemig i gadw mewn cysylltiad â’n partneriaid byd-eang. Mae rheidrwydd hefyd wedi dangos yr hyn sydd yn bosibl heb deithio ac wedi cyfeirio’r ffordd i ffyrdd carbon is o weithio yn y dyfodol.
Bydd y gweithdy hwn yn rhoi trosolwg o rai o’r offer sydd ar gael a chyfleoedd i glywed gan ymarferwyr am eu gwaith.
Siaradwyr:
- Julian Rosser
- John Ssebaale, CEMPOP
- Howard, Giakonda
- Lucy Kynge, Interburns
Perfformiad: Circus Zambia
[SAESNEG]
Ymunwch â ni am berfformiadau gwefreiddiol ac ymgysylltiol gan Circus Zambia.
Mae Circus Zambia yn gwmni syrcas cymdeithasol ifanc a bywiog sydd yn rhoi sgiliau syrcas a bywyd i bobl ifanc o gefndiroedd bregus yn Zambia tra’n darparu cyfleoedd addysgol a chyflogaeth. Maent yn gwneud hyn er mwyn i bobl ifanc allu blodeuo ac ysgogi newid yn eu cymunedau.
Safbwyntiau rhoddwyr ar hanfodion prosiect
[SAESNEG]
Bydd y sesiwn hon o gymorth i gyfranogwyr:
- Ddeall iaith a therminoleg mewn perthynas â chynaliadwyedd
- Deall mathau gwahanol o gynaliadwyedd
- Deall sut i ddangos cynaliadwyedd prosiect
- Deall sut mae rhoddwyr yn gweithredu’n gynaliadwy a deall sut i gefnogi partneriaid yn effeithiol i ddefnyddio’r offer datblygu ar ôl i’r prosiect ddod i ben.
Siaradwyr:
- Stephanie Schlipper, MannionDaniels
- Cat Miller, WCVA
- Mitali Sen, The National Lottery Community Fund
Bod yn gyfrifol yn fyd-eang: cydweithio er lles
Mae’r byd yn fwyfwy rhanedig a senoffobig; mae drwgdybio ‘pobl sydd yn wahanol i ni’ yn rhemp. Beth allwn ei wneud?
Yn y sesiwn hon byddwn yn trafod ffyrdd o wahodd pobl i ymuno â ni ar daith i adfywio a gwneud y byd yn lle gwell ar gyfer pob un ohonom (yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn ddiwylliannol).
Bydd yn trafod y pwysigrwydd o adnabod ein hunain, deall eraill a sut i greu sefyllfaoedd anfeirniadol ar gyfer trafod pynciau sy’n polareiddio ac sy’n gallu achosi tramgwydd mewn cymdeithas sy’n cael ei gyrru gan gyfryngau cymdeithasol. Y ‘norm’ yw fod popeth ‘yn gymysg oll i gyd’.
Mae bod yn gyfrifol yn fyd-eang yn golygu cydnabod y gorffennol, dod i delerau â’r presennol a chydweithio i gyd-greu dyfodol gyda gostyngeiddrwydd.
Hwyluswyd gan Dr Einir Young, Cyn Gyfarwyddwr Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor
Sut i dyfu? Codi arian a thu hwnt – gyda Gwenyn i’w Datblygu
Ymunwch â Janet Lowore o Bees for Development am olwg y tu ôl i’r llen ar y ffordd y maent wedi tyfu yn y blynyddoedd diweddar ac wedi datblygu profiadau codi arian.
Mae Bees for Development yn rhannu eu mewnwelediad i geisiadau am grantiau, llwyfannau codi arian ar-lein, digwyddiadau cymunedol, noddwyr, cefnogwyr a rheoli data – gan fod rhai ymagweddau’n gweithio’n well nac eraill!
Bydd y sesiwn hon yn gyfle i weld y tu mewn i sefydliad aml-wedd a gofyn cwestiynau trwy gydol y digwyddiad er mwyn i chi ganfod mwy am yr hyn sydd yn berthnasol i’ch gwaith chi.
Pam fod angen Cymru iach ar blaned iach
Ymunwch â Jane Davidson, cyn Weinidog Llywodraeth Cymru, actifydd ac awdur “#futuregen: Lessons from a Small Country” a David Pencheon, OBE, sylfaenydd Uned Datblygu Cynaliadwy’r GIG (Lloegr) ac Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerwysg.
Eiriolwyr angerddol dros ddatblygu cynaliadwy ac adeiladu symudiadau ar gyfer newid, byddant yn mynd â chi drwy drafodaeth ysbrydoledig ynghylch pam mae angen Cymru iach ar blaned iach.
Tuag at gyfiawnder rhywiol: menywod a merched yn arwain
Nod y sesiwn yw proffilio a dathlu rhywfaint o’r gwaith arloesol sydd yn digwydd yn ymwneud â chydraddoldeb rhwng y rhywiau a dysgu am faterion cyfredol a blaenoriaethau ar gyfer sefydliadau sydd yn gweithio tuag at gyfiawnder rhwng y rhywiau.
Byddwn yn clywed gan Akili Dada, a FORWARD UK ac EMPower i siarad am ymagwedd eu sefydliad, a pham y mae hyn yn gweithio; yr heriau, a sut gallwn gydweithio i ddwyn yr agenda hon yn ei blaen.
Siaradwyr:
- Sankara Caroline, Executive Director, Akili Dada
- Adwoa Kwateng Kluvitse, Head of Global Advocacy and Partnerships, FORWARD UK
- Aissatou Bah, Director of Adolescent Girls and Gender Initiatives, EMpower
Pwyso am Gynnydd:
Mabwysiadu Dull Cydraddoldeb Rhywiol a Chynhwysiant Cymdeithasol mewn Partneriaethau
Mae Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau a Chynhwysiant Cymdeithasol (GESI) yn cael eu cydnabod yn gynyddol fel elfennau hanfodol i fodloni’r uchelgeisiau a nodir yn yr SDG a chyrraedd y poblogaethau â’r angen mwyaf.
Yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio’r hyn y mae GESI yn ei olygu, pam y mae’n bwysig, a’r offer y gellir eu defnyddio i ddylunio a chyflwyno prosiectau mwy cynhwysol a theg. Trwy gyfuniad o gyflwyniadau ac ymarferion ymarferol byddwch yn cael cyfle i herio eich hun ac eraill, cyn adlewyrchu ar y ffyrdd y gellir integreiddio’r cysyniadau a’r offer a rennir yn y sesiwn i’ch gwaith.
Defnyddiwch pecyn gwaith THET GESI.
Siaradwyr:
- Summer Simpson, THET
- Sara Mahjoub, THET
- Raquel Perez, THET
Symud y Pyst Gôl: Harneisio Pŵer Chwaraeon
Gyda Chyfarwydddwr Weithredol Dorcas Amakobe
Mae Dorcas Amakobe yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr gweithredol Moving the Goalposts (MTG). Mae ganddi radd baglor mewn Astudiaethau Amgylcheddol, Datblygiad Cymunedol o Brifysgol Pwani. Mae’n gyn-fyfyriwr o’r Sefydliad Arweinyddiaeth, Adeiladu Symud a Hawliau Benywod Dwyrain Affrica.
Mae Moving the Goalposts wedi cefnogi dros 9,000 o ferched yn Kenya, gan ddefnyddio pêl-droed i harneisio eu potensial. Mae gan Dorcas gysylltiadau cryf â sefydliad Cymreig United Purpose, lle teithiodd prentisiaid yr Urdd i Kenya i ddatblygu eu sgiliau chwaraeon ac arweinyddiaeth.
Gwahanol safbwyntiau: Ymgysylltu pobl ag anableddau trwy’r celfyddydau a chwaraeon
Archwiliwch y ffordd y gellir defnyddio’r celfyddydau a chwaraeon i helaethu safbwyntiau gwahanol, cefnogi newid a herio stigma a stereoteipio sydd yn gysylltiedig â phobl ag anableddau yng Nghymru a thu hwnt.
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch yn clywed gan weithredwyr lleol yng Nghymru ac yn Affrica ar y ffordd y maent wedi defnyddio’r celfyddydau a chwaraeon yn eu rhaglenni; yr effaith ar unigolion a chymunedau sydd yn gysylltiedig â photensial y gweithgareddau hyn i ysgogi newid.
Siaradwyr:
- Ruth Fabby MBE, Disability Arts Cymru
- Kevin Waldie, overseas director purple field productions
- Sally Feyi-Waboso – Sight 2020
Casglu Caniatâd Gwybodus
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cydsynio: yr hyn ydyw (ac nac ydyw), pam mai dyma gonglfaen arferion moesegol, pryd mae ei angen arnoch ac ar ba fformat, a beth yw ffurflen gydsynio (templed i fynd gyda chi).
Mae Bywydau Du o Bwys:
Hiliaeth mewn datblygiad rhyngwladol
Yn dilyn blwyddyn yn llawn digwyddiadau yn archwilio hiliaeth yn y sector ac ymdrechion i ailffurfio’r naratif, ymunwch â Phanel Cynghori Is-Sahara (SSAP) wrth iddynt gynnal sesiwn gydweithredol yn archwilio hiliaeth yn y sector datblygu rhyngwladol a thrafod ffyrdd y gallwn symud i ffordd newydd o weithio sydd yn rhoi blaenoriaeth i gadernid gyda phartneriaid.
Siaradwr:
- Abraham Makanjuola
Gwersi Partneriaeth o COVID-19
Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r hyn a ddysgwyd o ddau brosiect Partneriaeth Iechyd yn gweithredu ymatebion i bandemig Covid 19 mewn cyd-destunau gwahanol.
Bydd diweddariad ar y sefyllfa bresennol yn Affrica, wedi ei ddilyn gan gyflwyniadau gan Famau Affrica yn Zambia, a Dolen Cymru yn Lesotho. Bydd cyfle am drafodaeth a sesiwn holi ac ateb.
Siaradwyr:
- Dr Job Mwanza, Noriah Buleya, Yr Athro Dr Judith Hall, o Mothers of Africa, Zambia
- Dr Moseme Makhele, Dr Mosa Talhale, Dr Kate Shakespeare, o’r brosiect Dolen Cymru, Lesotho
- Dr Mac Walapu, Meddyg Ymgynghorol, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Braint a Gwneud Penderfyniadau
Dewch i ddysgu sut gall hiliaeth ymddangos yn eich gwaith, sut mae ein gwynder/braint yn effeithio ar wneud penderfyniadau, sut rydym yn symud y broses o wneud penderfyniadau i’r lle iawn a sut i feddwl am hiliaeth yn ein gwaith prosiect.
Siaradwr:
- Mary Ann Clements
Braint a Gwneud Penderfyniadau
Dewch i ddysgu sut gall hiliaeth ymddangos yn eich gwaith, sut mae ein gwynder/braint yn effeithio ar wneud penderfyniadau, sut rydym yn symud y broses o wneud penderfyniadau i’r lle iawn a sut i feddwl am hiliaeth yn ein gwaith prosiect.
Siaradwr:
- Mary Ann Clements
Ailffurfio’r Naratif
Ymunwch â ni wrth i ni ddod ag Uwchgynhadledd Cadernid Byd-eang 2021 i ben trwy ddathlu Cymuned Cymru-Affrica.
Dewch i gyfarfod â’r ffotograffwyr o’n prosiect ‘Y Dyddiau a Fu’ wrth iddynt rannu’r hyn mae datblygiad yn ei olygu iddyn nhw wrth i ni edrych ar eu lluniau o’r gorffennol.
Byddwn yn adlewyrchu ar y newidiadau yn y naratif yn ymwneud ag Affrica a thrwy edrych yn ôl, byddwn yn creu’r sefyllfa ar gyfer edrych ymlaen.
Ailffurfio’r Naratif
Ymunwch â ni wrth i ni ddod ag Uwchgynhadledd Cadernid Byd-eang 2021 i ben trwy ddathlu Cymuned Cymru-Affrica.
Dewch i gyfarfod â’r ffotograffwyr o’n prosiect ‘Y Dyddiau a Fu’ wrth iddynt rannu’r hyn mae datblygiad yn ei olygu iddyn nhw wrth i ni edrych ar eu lluniau o’r gorffennol.
Byddwn yn adlewyrchu ar y newidiadau yn y naratif yn ymwneud ag Affrica a thrwy edrych yn ôl, byddwn yn creu’r sefyllfa ar gyfer edrych ymlaen.