Grantiau Cymorth Digidol
Mae Hub Cymru Affrica wedi lansio cynllun grantiau bach i gefnogi cymuned Cymru Affrica i ddefnyddio adnoddau digidol gyda phartneriaid yn Affrica.
Gallwch wneud cais am £500-£1000 i gefnogi prosiectau undod rhyngwladol. Gellid defnyddio’r cyllid ar gyfer caledwedd, meddalwedd, trwyddedau, hyfforddiant, datblygu sgiliau, lwfansau data, cyfathrebu ar-lein ac ar gyfer adnoddau eraill a fyddai’n cefnogi gwaith eich partner neu eich partneriaeth.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Waterloo.
Mae Hub Cymru Affrica wedi lansio cynllun grantiau bach i gefnogi cymuned Cymru Affrica i ddefnyddio adnoddau digidol gyda phartneriaid yn Affrica.
Gallwch wneud cais am £500-£1000 i gefnogi prosiectau undod rhyngwladol. Gellid defnyddio’r cyllid ar gyfer caledwedd, meddalwedd, trwyddedau, hyfforddiant, datblygu sgiliau, lwfansau data, cyfathrebu ar-lein ac ar gyfer adnoddau eraill a fyddai’n cefnogi gwaith eich partner neu eich partneriaeth.
Mae’r cynllun yn cael ei gefnogi gan Sefydliad Waterloo.
Cwestiynau Cyffredin
Gallai dogfen gyfansoddiadol fod yn ddogfen lywodraethol (os ydych yn elusen gofrestredig), Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (er enghraifft gyda bwrdd iechyd neu Ymddiriedolaeth GIG), neu Gylch Gorchwyl grŵp llywio.
Gallwch weld canllawiau ar yr hyn y dylai eich cyfansoddiad ei gynnwys yma.
Mae’n rhaid i’ch grŵp cyfansoddiadol gael cyfrif banc gyda dau lofnodwr nsydd ddim yn perthyn.
Mae llawer o grwpiau Cymru Affrica wedi dweud wrthym sut yr oedd y broses o ysgrifennu’r cytundeb partneriaeth yr un mor bwysig â’r ddogfen ei hun o ran darparu eglurder a ffocws, ac mae’n arfer cyffredin mewn gwaith cymunedol, datblygu a chontractio.
Pwrpas y cytundeb yw darparu pwynt cyfeirio cyffredin ar weithgareddau ar y cyd, ac mae’n helpu i osgoi camddealltwriaeth. Mae’n amlinellu rolau a chyfrifoldebau, nodau sefydliadol unigol, yn ogystal â nodau a gweithgareddau’r prosiect ar y cyd. Mae’n werth tynnu sylw at y manteision i bob partner o’r cydweithio, a nodi pa mor hir y bydd y cydweithio’n para a sut y gellir diddymu’r cydweithio.
Mae’n werth cael adran ar gyfathrebu rhwng eich sefydliadau (cysylltiadau allweddol, dull cyfathrebu, amlder ac ymatebolrwydd) ac i’r cyhoedd (sut i gyfeirio’ch cyllidwyr yn briodol). Dylai gwneud penderfyniadau a datrys anghydfodau gael eu cynnwys yn yr adran hon hefyd.
Mae angen mynegi rheolaeth ariannol hefyd, er mwyn sicrhau atebolrwydd clir i’ch ymddiriedolwyr. Er enghraifft, sut y caiff arian ei reoli a phwy sy’n gyfrifol am beth o ran codi arian a goruchwylio gwariant.
Gallwch weld enghraifft sylfaenol o sut y gall Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth neu gytundeb partneriaeth edrych yma.
Mae cyngor pellach wedi cael ei ddarparu gan Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) yma.
- costau neu dreuliau unrhyw sefydliadau dan sylw (e.e. cyrff anllywodraethol rhyngwladol) sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru neu Affrica
- cyrsiau hyfforddi i unigolion (yng Nghymru neu yn Affrica) lle nad yw hyn yn rhan annatod o brosiect/rhaglen ehangach
- ymchwil academaidd
- rhoddion anghyfyngedig i bartneriaid deheuol
- gweithrediadau dyngarol (rhyddhad brys)
- ceisiadau uniongyrchol gan sefydliadau o’r De
- gweithgareddau efengylaidd neu ryddiaith
- gweithgareddau er elw (gellir gwneud eithriadau yn achos mentrau cydweithredol cymunedol neu fentrau microgyllid o fewn rhaglen fywoliaeth)
- pleidiau gwleidyddol
- gweithgareddau sy’n ceisio gwadu hawliau cyfartal.
- Allwch chi ddangos arian sylweddol mewn da neu arian cyfatebol?
- A yw prynu cyfarpar yn briodol? A ellid ei brynu yn y wlad, er mwyn osgoi oedi costus, materion yn ymwneud â’r tollau yn ogystal â chefnogi marchnadoedd lleol?
- A oes gan y staff a’r gwirfoddolwyr y sgiliau a’r rhinweddau priodol i gefnogi llwyddiant y prosiect a meithrin perthynas â’ch partner?
- Ydych chi’n gofyn am ffioedd ymgynghori afresymol neu gostau staff?
- A fydd eich prosiect yn cael effaith gadarnhaol?
Os yw’ch costau’n ymddangos yn uchel i chi, a allwch egluro pam? Ai oherwydd eich bod yn gweithio gyda grŵp arbennig o anghysbell neu anodd ei gyrraedd? Ystyriwch sut y gellir dangos hyn ar y ffurflen fel bod y costau’n ddealladwy pan ystyrir y gyllideb.
- sefydlu a dylunio gwefan na allwch ei diweddaru heb fwy o gyllid
- prynu offer cyfrifiadurol na ellir ei ddefnyddio i fynd ar-lein oherwydd na allwch fforddio’r costau data
- hyfforddiant sgiliau ar gyfer un aelod allweddol o staff sy’n gadael eich sefydliad dri mis yn ddiweddarach
- symud eich holl wybodaeth i System Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid na allwch fforddio’r drwydded ar gyfer y flwyddyn nesaf
- Os ydych am ddefnyddio’r cyllid ar gyfer rhywbeth y bydd angen arbenigedd neu gyllid arno am beth amser i ddod, rhowch wybod inni sut y caiff hynny ei roi ar waith.
Risgiau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r prosiect
Gall y bobl sy’n cydlynu eich gweithgareddau (yng Nghymru a/neu Affrica) fynd yn sâl neu’n methu â chyflawni eu rôl. Beth fyddech chi’n ei wneud pe bai hyn yn digwydd? A oes eraill yn y grŵp/sefydliad a allai gymryd drosodd y prosiect? A allai tywydd garw, cythrwfl gwleidyddol, gwrthdaro neu achosion o glefyd yn Affrica dorri ar draws eich gweithgareddau, ac os felly sut y gallech ymdrin â’ch prosiect o dan yr amgylchiadau hyn? Os ydych yn bwriadu cynnal digwyddiad yng Nghymru, a oes perygl mai ychydig iawn o bobl sy’n dod? A oes angen i chi ystyried amseriad y digwyddiad ac ym mha adeg o’r flwyddyn y mae’n digwydd? Sut y byddwch yn hyrwyddo/rhoi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad neu’n gweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau eich bod yn sicrhau presenoldeb a chyfranogiad da?
Risgiau i gynaliadwyedd y prosiect
Os ydych yn hyfforddi pobl i feithrin sgiliau a ffyrdd newydd o weithio, a oes ganddynt yr adnoddau i allu defnyddio eu sgiliau newydd yn y dyfodol? A fydd unrhyw gymorth pellach i fonitro neu gynorthwyo’r bobl hyn ar ôl i gyllid y prosiect ddod i ben? Os ydych yn ariannu taliadau math cyflog ar gyfer darparu gwasanaeth newydd neu ychwanegol, beth fydd yn digwydd i’r gweithwyr hyn pan ddaw’r grant i ben? Os ydych yn darparu offer pwysig, a oes trefniadau ar waith i sicrhau y gellir ei gynnal a’i gadw a gosod rhannau sbâr newydd yn eu lle?
Risgiau ariannol i’r prosiect
A yw eich arian cyfatebol yn ddiogel? Os nad ydych, a allwch barhau i gyflawni gweithgareddau’r prosiect neu a ellir eu lleihau’n briodol? Pe bai eich partner NGO yn Affrica yn colli ei gyllid craidd ac yn gorfod lleihau neu gau’n sylweddol yng nghanol eich prosiect, a fyddai unrhyw ffordd arall o gyflawni’r prosiect? Beth fyddai’n digwydd pe bai amrywiadau arian cyfred neu gynnydd mewn costau yn golygu cynnydd sylweddol mewn gweithgareddau prosiect allweddol? Sut fyddech chi’n delio â hyn?