Hub Cymru Africa yn lansio grantiau grymuso menywod ar gyfer partneriaethau sy’n gweithio yn Uganda a Chymru.

Fel rhan o waith cydraddoldeb rhywedd Hb Cymru Africa a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rydym yn sicrhau bod dau grant ar gael ar gyfer partneriaethau sy’n gweithio rhwng Cymru ac Uganda.

Rydym yn derbyn ceisiadau rhwng £25,000 a £50,000 gan bartneriaethau sy’n gweithio gyda menywod ar faterion sy’n effeithio arnynt yn Affrica Is-Sahara, gan gynnwys bywoliaethau, newid yn yr hinsawdd, hawliau cyfreithiol, cynrychiolaeth wleidyddol, trais ar sail rhywedd, gofal iechyd mamau ac addysg.

Rydym yn gobeithio gweld ceisiadau sy’n cyfateb â’r egwyddorion hyn neu a fydd yn ceisio eu gwreiddio yn ystod cyfnod y grant.

  • Annog ymgysylltiad a grymuso menywod a merched trwy ddefnyddio cryfderau cysylltedd cymdeithasol, rhwydweithiau cryf a chyfathrebu
  • Dylai’r gwaith fod mewn partneriaeth â phartneriaid credadwy yn Affrica, yn ddelfrydol rhai sydd â menywod mewn rolau arweinyddiaeth
  • Adeiladu ar bartneriaethau sy’n bodoli eisoes a gweithio yn unol ag egwyddorion sy’n seiliedig ar asedau
  • Cydnabod cymhlethdod materion, yn enwedig y gydberthynas rhwng rhywedd, anabledd, rhywioldeb ac ethnigrwydd.

Cwestiynau Cyffredin

Yn gyffredinol rydym yn eich annog i ystyried maint cyfredol incwm eich mudiad a / neu incwm eich partner yn Affrica, a’r grantiau mwyaf rydych chi / maen nhw wedi’u trin yn llwyddiannus (gan raglen Cymru dros Affrica neu arianwyr eraill) yn y gorffennol. Os oes gan eich partner yn Affrica incwm uwch na chi, mae hynny’n iawn, cyn belled â bod gan un ohonoch brofiad o drin grantiau o’r maint rydych chi’n gwneud cais amdano.  Yn gyffredinol, mae cyllidwyr grantiau eisiau gweld bod gennych chi hanes cryf, a’ch bod yn gallu delio â maint y cyllid rydych chi’n gofyn amdano.

Hefyd edrychwch ar y ffurflenni cais am grant a’r meini prawf ar gyfer asesu ar bob lefel. Disgwylir i chi ddangos yn llawn yr angen am y gweithgaredd, a’ch bod yn gweithio gyda phartneriaid lleol i gyflawni amcanion y grant.

Mae’n syniad da ystyried a fyddech chi’n dal i allu ymgymryd â rhai o’ch gweithgareddau arfaethedig gyda grant llai na’r hyn rydych chi wedi gofyn amdano, a bod yn barod i drafod hyn os oes angen. Yn yr achos hwn, yn dilyn trafodaeth â chi, byddai angen i chi ailgyflwyno’ch cyllideb a’ch cynllun ar gyfer gweithgareddau’r prosiect

Mae gan grŵp cyfansoddol gytundeb ysgrifenedig o’r hyn y mae’r grŵp hwnnw’n mynd i’w wneud a sut y byddant yn mynd ati i gyflawni hynny. Bydd y ddogfen hon wedi’i chytuno gan bwyllgor, sy’n cynnwys o leiaf cadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd.

Gallai dogfen gyfansoddiadol fod yn ddogfen lywodraethol (os ydych chi’n elusen gofrestredig), yn Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (er enghraifft gyda bwrdd iechyd neu Ymddiriedolaeth y GIG), neu’n Gylch Gorchwyl grŵp llywio.

Gellir gweld canllawiau ar gyfer yr hyn y dylai eich cyfansoddiad ei gynnwys yma.

Rhaid bod gan eich grŵp cyfansoddol gyfrif banc gyda dau lofnodwr nad ydynt yn perthyn i’w gilydd.

Wrth weithio ar y cyd ag eraill, mae’n hanfodol eich bod yn mynd ati gyda’ch gilydd i ysgrifennu cytundeb partneriaeth neu Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sydd wedyn yn cael ei lofnodi a’i ddyddio gan gynrychiolwyr o bob un o’r mudiadau dan sylw.

Mae llawer o grwpiau Cymru Affrica wedi dweud wrthym fod y broses o ysgrifennu’r cytundeb partneriaeth wedi bod yr un mor bwysig â’r ddogfen ei hun o ran darparu eglurder a ffocws, ac mae’n arfer cyffredin mewn gwaith cymunedol, datblygu a chontractio.

Pwrpas y cytundeb yw darparu cyfeirbwynt cyffredin ar gyfer gweithgareddau ar y cyd ac mae’n helpu i osgoi camddealltwriaeth. Mae’n amlinellu rolau a chyfrifoldebau, nodau’r mudiadau unigol, yn ogystal â nodau a gweithgareddau’r prosiect ar y cyd. Mae’n werth tynnu sylw at y buddion i bob partner o fewn y trefniant cydweithredol, a gall nodi pa mor hir y bydd y cydweithredu’n para, a sut y gellir diddymu’r trefniant cydweithredol hwnnw.

Mae’n werth bod ag adran ar gyfathrebu rhwng eich mudiadau (cysylltiadau allweddol, dulliau cyfathrebu, amlder ac ymatebolrwydd) ac â’r cyhoedd (sut i gyfeirnodi eich cyllidwyr yn briodol). Dylai gwneud penderfyniadau a datrys unrhyw anghydfod hefyd ymddangos yn yr adran hon.

Mae angen mynegi rheolaeth ariannol hefyd, er mwyn sicrhau atebolrwydd clir i’ch ymddiriedolwyr. Er enghraifft, sut y bydd arian yn cael ei reoli a phwy sy’n gyfrifol am beth o ran codi arian a goruchwylio gwariant.

Dyma enghraifft syml o Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth neu gytundeb partneriaeth.

Mae cyngor pellach wedi’i ddarparu gan Gyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO) yma.

Bydd pob un ohonom yng Nghymru yn elwa ac yn cael ein herio yn sgil ein profiadau o weithio o fewn y rhaglen fyd-eang a lleol hon. Er bod pawb yn teimlo’r buddion hyn mewn ffordd wahanol, ac angen eu mynegi yn eu geiriau eu hunain, dyma rai enghreifftiau o’r mathau o fuddion i Gymru:

  • Hwyluso gwirfoddoli a rhannu sgiliau, yn ogystal â meithrin perthnasoedd sy’n ysgogol ac yn ymestyn unigolion, gan gyfrannu at lesiant cyffredinol
  • Magu hyder i ddeall sut mae dewisiadau a wneir yng Nghymru’n cael effaith yn rhyngwladol a’r gallu i weithredu’n wahanol (e.e. prynu nwyddau masnach deg, ailgylchu, prynu nwyddau a gynhyrchir yn gynaliadwy, eiriolaeth leol ac allgymorth, a.y.b.)
  • Creu ymwybyddiaeth fyd-eang trwy sgyrsiau mewn ysgolion, arddangosfeydd lluniau, ymweliadau â phartneriaid; a gwybodaeth am amodau iechyd byd-eang sy’n cael effaith ar gymunedau alltud yn y wlad hon
  • Cefnogi ystafelloedd dosbarth, meysydd chwarae, cymunedau, pentrefi, trefi, prifysgolion a gweithleoedd mwy cynhwysol ac adeiladu ar dreftadaeth Cymru fel cymuned gydlynol a chroesawgar
  • Datblygiad personol a datblygu sgiliau, gan gyfrannu at economi Cymru. Er enghraifft, creadigrwydd yn y gweithle trwy addasu i leoliadau sy’n defnyddio llai o adnoddau, neu ddarparu profiadau heriol y tu allan i’r gweithle / secondiad sy’n arwain at foddhad yn y gwaith pan fyddwch yn dychwelyd
  • Ymgysylltu ag ieuenctid fel catalydd i bobl ifanc yng Nghymru wella eu cyflogadwyedd a’u dyheadau, gan gryfhau gweithlu Cymru mewn marchnad fyd-eang
  • Cyfnewid diwylliannol, cefnogi cynhwysiant a dealltwriaeth yn sgil dod i gysylltiad â chymunedau yng Nghymru ac Affrica
  • Cyfnewid arferion, e.e. rhannu datrysiadau a gweithio’n arloesol mewn sefyllfaoedd sy’n brin o adnoddau.

Gallwn ariannu amrywiaeth o wahanol weithgaredd a chostau gweithredol, gan gynnwys, er enghraifft:

  • hyfforddiant a chostau cysylltiedig (e.e. teithio gan bartneriaid yn Affrica, llogi lleoliadau, lluniaeth)
  • deunyddiau cyfathrebu
  • offer / cyflenwadau ac isadeiledd (lle mae hyn yn rhan hanfodol o’ch gweithgareddau)
  • cyflogau staff neu gostau cysylltiedig (ar gyfer costau cynnal y mudiadau dan sylw)
  • costau swyddfa a chyfleustodau (ar gyfer costau cynnal y mudiadau dan sylw).

Fodd bynnag, byddwn yn chwilio am gostiadau cyllidebol sy’n dangos gwerth da am arian, ymwybyddiaeth o faterion cynaladwyedd, a chyfraniadau cyfatebol / ar ffurf nwyddau lle bynnag y bo modd.

Ni fyddwn yn cyllido:

  • costau neu dreuliau unrhyw fudiadau dan sylw (e.e. cyrff anllywodraethol rhyngwladol) sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru neu Affrica
  • cyrsiau hyfforddi ar gyfer unigolion (yng Nghymru neu Affrica) lle nad yw hyn yn rhan annatod o brosiect / rhaglen ehangach
  • ymchwil academaidd
  • rhoddion anghyfyngedig i bartneriaid yn y gwledydd deheuol
  • gweithgareddau dyngarol (cymorth brys)
  • ceisiadau uniongyrchol gan sefydliadau yn y gwledydd deheuol
  • gweithgareddau efengylaidd neu genhadu
  • gweithgareddau er elw (gellir gwneud eithriadau yn achos cydweithfeydd cymunedol neu fentrau micro-gyllidol o fewn rhaglen bywoliaethau)
  • pleidiau gwleidyddol
  • gweithgareddau sydd â’r nod o wrthod hawliau cyfartal.

Wrth ystyried a yw’ch prosiect yn cynnig gwerth da am arian, mae angen ystyried llawer o ffactorau a’u cydbwyso yn erbyn ei gilydd. Nid oes un rheol fel y cyfryw, ond yn hytrach mae’n ymwneud â chydbwysedd yr hyn sydd fwyaf perthnasol i’ch prosiect. Er enghraifft, dyma rai pethau y byddwch efallai am eu hystyried wrth lunio’ch cyllideb:

  • Allwch chi ddangos cyllido sylweddol ar ffurf nwyddau neu arian cyfatebol?
  • A yw prynu offer yn briodol? A ellid ei brynu yn y wlad dan sylw, er mwyn osgoi oedi costus, problemau gyda thollau, yn ogystal â chefnogi marchnadoedd lleol?
  • A oes gan y staff a’r gwirfoddolwyr y sgiliau a’r nodweddion priodol i gefnogi llwyddiant y prosiect a meithrin perthnasoedd â’ch partner?
  • Ydych chi’n gofyn am ffioedd ymgynghori neu gostau staff afresymol?
  • A fydd eich prosiect yn cael effaith gadarnhaol?
  • Os yw’ch costau’n ymddangos yn uchel i chi, a allwch chi egluro pam? A yw hyn oherwydd eich bod yn gweithio gyda grŵp mewn lleoliad arbennig o anghysbell neu anodd ei gyrraedd? Ystyriwch sut y gellir dangos hyn ar y ffurflen, fel bod y costau’n ddealladwy pan fyddwn yn mynd ati i ystyried y gyllideb.

Mae cost mewn nwyddau yn gyfraniad ar ffurf nwyddau neu wasanaethau yn hytrach nag arian. Gellir meintioli’r rhain a rhoi gwerth ariannol arnynt y gellir ei ychwanegu at eich cyllideb.

Gall costau ar ffurf nwyddau neu wasanaethau gynnwys yr amser gwirfoddol di-dâl y mae pobl yn ei gyfrannu wrth gyflawni’r prosiect, neu wasanaeth a gynigir am ddim, fel argraffu ar gyfer digwyddiad lleol neu hysbysebu ar y radio am ddim.

Dyma rai o’r costau y gellid eu cynnwys:

  • Argraffu (os gellir ei ddarparu am ddim)
  • Amser cydlynu gwirfoddolwyr (e.e. gweler y cyfraddau ar y tab cyllideb)
  • Amser proffesiynol yn cael ei roi’n wirfoddol (e.e. gweler y cyfraddau ar y tab cyllideb).

Rydym yn diffinio cyllido cyfatebol fel unrhyw gyfraniad ariannol i’r prosiect sy’n dod o ffynhonnell arall. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau codi arian eich mudiad eich hun, grant gan ariannwr arall neu arian a roddwyd gan fusnes lleol, er enghraifft.

Gall fod yn hawdd i brosiectau (yn ddamweiniol neu fel arall) allgau rhai pobl neu grwpiau o’u gweithgareddau. Er enghraifft, weithiau gall cynnal trafodaethau â chymunedau cyfan allgau menywod os yw’r arweinwyr cymunedol i gyd yn ddynion, neu os nad yw menywod yn gallu mynychu oherwydd amseriad y cyfarfod, neu os nad yw’n dderbyniol yn ddiwylliannol i ddynion a menywod drafod rhai pynciau gyda’n gilydd. Os yw hyn yn berthnasol i’ch gweithgareddau a’ch cymuned, sut fyddwch chi’n mynd ati i sicrhau bod unrhyw drafodaethau cymunedol yn cynnwys cyfranogiad gan ddynion a menywod?

Os yw’ch gweithgaredd yn cael ei arwain gan fudiad lleol sydd ag ethos crefyddol clir (e.e. Cristnogol), neu os cynhelir digwyddiadau’r prosiect mewn adeiladau eglwysi penodol, pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd i sicrhau bod pobl o enwadau / crefyddau / credoau eraill yn cael eu cynnwys, ac nad ydyn nhw’n teimlo fel pe bai nhw’n cael eu heithrio rhag cymryd rhan yn y gweithgaredd?

Os yw’ch gweithgaredd yn rhywbeth a ddylai fod yn hygyrch i bawb yn y gymuned, gan gynnwys pobl anabl, beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu heithrio, e.e. oherwydd anawsterau ymarferol fel diffyg trafnidiaeth?

Disgwyliwn i chi ystyried y materion hyn a chynllunio gweithgareddau mewn ffordd sy’n sicrhau nad yw pobl (o’ch grwpiau targed perthnasol) yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan. Yn yr adran hon o’r ffurflen gais, eglurwch y meddylfryd hwn a beth fyddwch chi’n ei wneud i sicrhau bod eich prosiect yn gynhwysol.

Daw’r diffiniad a ddyfynnir amlaf ar gyfer Datblygu Cynaliadwy o Adroddiad Brundtland:

“Datblygu cynaliadwy yw datblygiad sy’n bodloni anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i fodloni eu hanghenion eu hunain.”

Adroddiad y Cenhedloedd Unedig o Gomisiwn y Byd ar Amgylchedd a Datblygiad) Ein Dyfodol Cyffredin, 1987).

Felly, rydyn ni’n gofyn i chi ystyried y gwahanol fathau o gynaladwyedd a sut y byddwch chi’n mynd i’r afael â nhw.

Cynaladwyedd Dynol

Nod cynaladwyedd dynol yw cynnal a gwella adnoddau dynol mewn cymdeithas.  Felly yma, rydyn ni’n gofyn i chi feddwl sut y bydd eich prosiect yn datblygu sgiliau a gallu dynol i gynorthwyo gwaith y prosiect ar ôl i’r cyllido ddod i ben, a sut y bydd yn hyrwyddo llesiant y cymunedau hynny a’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Cynaladwyedd Cymdeithasol

Mae cynaliadwyedd cymdeithasol yn canolbwyntio ar gynnal a gwella ansawdd cymdeithasol gyda chysyniadau fel cydlyniant, dwyochredd a gonestrwydd, yn ogystal â phwysigrwydd perthnasoedd ymhlith pobl. Rydym yn gofyn i chi ddangos sut y bydd eich prosiect yn defnyddio cryfderau cysylltedd cymdeithasol, rhwydweithiau cryf a chyfathrebu ymhlith menywod i wella rhai o’r ffactorau hyn.

Cynaladwyedd Economaidd

Mae cynaladwyedd economaidd yn canolbwyntio ar ddefnyddio asedau ac adnoddau yn effeithlon a sicrhau bod cynllun ar gyfer parhad y prosiect (os oes angen) ar ddiwedd y cyfnod cyllido.  Sut fyddwch chi’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon?  A oes cynllun i sicrhau bod cyllido pellach ar gael i gynnal y prosiect ar ddiwedd y grant?

Cynaladwyedd Amgylcheddol

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn ymwneud â gwella lles dynol trwy ddiogelu’r amgylchedd ac adnoddau naturiol (e.e. tir, aer, dŵr, mwynau, a.y.b.). Disgrifir prosiectau fel rhai sy’n amgylcheddol gynaliadwy pan fyddant yn sicrhau bod anghenion y boblogaeth yn cael eu diwallu heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Sut fydd eich prosiect yn gwneud hyn?

Oes! Does dim angen i’ch prosiect fod yn amlwg yn ‘beryglus’ i fod â rhai risgiau’n perthyn iddo. Mae rhywfaint o risg ynghlwm â phob prosiect. Er enghraifft:

Y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r prosiect

Mae’n bosib y bydd y bobl sy’n cydlynu eich gweithgareddau (yng Nghymru a / neu Affrica) yn mynd yn sâl neu’n methu â chyflawni eu rôl. Beth fyddech chi’n ei wneud pe bai hyn yn digwydd? A oes eraill yn y grŵp / mudiad a allai gymryd drosodd y prosiect? A allai tywydd garw, cynnwrf gwleidyddol, gwrthdaro neu achosion o glefyd yn Affrica amharu ar eich gweithgareddau o bosib, ac os felly sut fyddech chi’n mynd ati i gynnal eich prosiect o dan yr amgylchiadau hyn? Os ydych chi’n bwriadu cynnal digwyddiad yng Nghymru, a oes risg mai ychydig iawn o bobl fydd yn ei fynychu? A oes angen i chi ystyried amseriad y digwyddiad, ac ar ba adeg o’r flwyddyn y mae’n cael ei gynnal? Sut fyddwch chi’n hyrwyddo / rhoi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad neu’n gweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau bod nifer dda o bobl yn mynychu ac yn cyfranogi?

Risgiau i gynaladwyedd y prosiect

Os ydych chi’n hyfforddi pobl i ddysgu sgiliau a ffyrdd o weithio newydd, a oes ganddyn nhw’r adnoddau i allu defnyddio eu sgiliau newydd yn y dyfodol? A fydd unrhyw gefnogaeth bellach i fonitro neu gynorthwyo’r bobl hyn pan ddaw’r cyllido ar gyfer y prosiect i ben? Os ydych chi’n ariannu taliadau ar ffurf cyflog er mwyn darparu gwasanaeth newydd neu ychwanegol, beth fydd yn digwydd i’r gweithwyr hyn pan ddaw’r grant i ben? Os ydych chi’n darparu offer pwysig, a oes trefniadau ar waith i sicrhau y gellir cynnal a chadw’r offer hwnnw, a bod modd dod o hyd i ddarnau sbâr ar gyfer ei drwsio?

Risgiau ariannol i’r prosiect

A yw’ch cyllid cyfatebol yn ddiogel? Os nad yw, a allwch chi gyflawni gweithgareddau’r prosiect o hyd, neu a oes modd i chi eu lleihau’n briodol? Pe bai’r mudiad anllywodraethol yn Affrica sy’n bartner i chi’n colli eu cyllid craidd ac yn gorfod torri’n ôl neu gau’n gyfangwbl yng nghanol eich prosiect, a fyddai unrhyw ffordd arall o gyflawni’r prosiect? Beth fyddai’n digwydd pe bai amrywiadau mewn gwerth arian neu gynnydd mewn costau yn golygu cynnydd sylweddol yng ngweithgareddau allweddol y prosiect? Sut fyddech chi’n ymdrin â hyn?

Nodau Datblygu Cynaliadwy

Mae’r Nodau yn rhan o “gynllun gweithredu’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl, y blaned a ffyniant”. Fe’u mabwysiadwyd gan yr holl wledydd sy’n aelodau o’r Cenhedloedd Unedig ym mis Medi 2015 yn y ddogfen Trawsnewid ein Byd: Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy.

Mae’r cynllun yn olynydd i Nodau Datblygu’r Mileniwm a barhaodd tan 2015. Mae’r Nodau i’w cyflawni erbyn 2030. Mae yna 17 o nodau a 169 o dargedau oddi tanynt.

Mae’r rhagarweiniad i’r ddogfen yn datgan: “Rydym yn addo, rhwng nawr a 2030, dod â thlodi a newyn i ben ym mhobman; brwydro yn erbyn anghydraddoldeb o fewn ac ymhlith gwledydd; adeiladu cymdeithasau heddychlon, cyfiawn a chynhwysol; amddiffyn hawliau dynol a hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd a grymuso menywod a merched; ac i sicrhau amddiffyniad parhaol y blaned a’i hadnoddau naturiol. Rydym hefyd yn addo creu amodau ar gyfer twf economaidd cyson, cynaliadwy a chynhwysol, ffyniant wedi’i rannu a gwaith teilwng i bawb, gan ystyried gwahanol lefelau o ddatblygiad a gallu gwledydd.”

Y nodau yn gryno:

  1. Rhoi terfyn ar dlodi yn ei holl ffurfiau ym mhobman
  2. Rhoi terfyn ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwell maeth, ynghyd â hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy
  3. Sicrhau bywydau iach a hyrwyddo llesiant i bawb o bob oed
  4. Sicrhau addysg gynhwysol, gyfartal ac o ansawdd uchel, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes i bawb
  5. Cyflawni cydraddoldeb rhywedd a grymuso pob dynes a merch
  6. Sicrhau argaeledd a rheolaeth gynaliadwy o ddŵr a glanweithdra i bawb
  7. Sicrhau mynediad i ynni fforddiadwy, dibynadwy, cynaliadwy a modern i bawb
  8. Hyrwyddo twf economaidd cyson, cynhwysol a chynaliadwy, cyflogaeth lawn a chynhyrchiol a gwaith teilwng i bawb
  9. Adeiladu seilwaith cydnerth, hyrwyddo diwydiannu cynhwysol a chynaliadwy a meithrin arloesedd
  10. Lleihau anghydraddoldeb o fewn ac ymhlith gwledydd
  11. Gwneud dinasoedd a chymunedau’n gynhwysol, yn ddiogel, yn wydn ac yn gynaliadwy
  12. Sicrhau patrymau defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy
  13. Gweithredu ar frys yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau
  14. Gwarchod a defnyddio’r cefnforoedd, y moroedd a’r adnoddau morol mewn modd cyfrifol ar gyfer datblygiad cynaliadwy
  15. Amddiffyn, adfer a hyrwyddo’r defnydd cynaliadwy o ecosystemau daearol, rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, brwydro yn erbyn creu anialwch, yn ogystal ag atal a gwrthdroi dirywiad tir ac atal colli bioamrywiaeth
  16. Hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, sicrhau mynediad at gyfiawnder i bawb ac adeiladu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel
  17. Cryfhau’r dulliau o weithredu ac adfywio’r bartneriaeth fyd-eang ar gyfer datblygu cynaliadwy.

Gofynnwn i chi ddangos (ar gyfer unrhyw gyllido dros £1,000) sut y bydd eich prosiect yn cynorthwyo â chyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. I wneud hynny, rydym yn argymell eich bod yn tynnu sylw at y nodau hynny sy’n fwyaf perthnasol i weithgareddau eich prosiect, ac yn ysgrifennu paragraff byr yn egluro sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu. Mae mwy o wybodaeth am y Nodau Datblygu Cynaliadwy i’w gweld yma: http://www.un.org/sustainabledevelopment/sustainable-development-goals/

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2015. Nod y Ddeddf yw gwireddu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig o fewn cyd-destun Cymreig.

Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar lawer o gyrff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys gwasanaethau iechyd a thân ac awdurdodau lleol (ac ar Lywodraeth Cymru ei hun), i “gyflawni datblygiad cynaliadwy” ac i weithredu er mwyn cyflawni’r saith nod llesiant canlynol:

  1. Cymru lewyrchus: Cymdeithas flaengar, gynhyrchiol a charbon isel, sy’n cydnabod cyfyngiadau’r amgylchedd byd-eang, ac sydd o’r herwydd yn defnyddio adnoddau’n effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid hinsawdd). Cymdeithas sy’n datblygu poblogaeth wedi’i haddysgu’n dda mewn economi sy’n creu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, ac yn caniatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gaiff ei greu drwy ganfod gwaith addas
  2. Cymru wydn: Gwlad sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bio-amrywiol ac eco-systemau gweithredol iach, sy’n rhoi sail i wydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol, ynghyd â’r gallu i newid (er enghraifft newid hinsawdd)
  3. Cymru iachach: Cymdeithas lle gwneir ymdrech i wella llesiant corfforol a meddyliol pobl, lle mae pobl yn deall pa ddewisiadau ac ymddygiad sy’n mynd i fod o fudd i’w hiechyd yn y dyfodol
  4. Cymru fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial, waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol)
  5. Cymru o gymunedau cydlynol: Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel a chyd-gysylltiedig
  6. Cymru sydd â diwylliant ffyniannus a Chymraeg byw: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn amddiffyn diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden
  7. Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang: Gwlad sydd, pan fydd yn gwneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn rhoi ystyriaeth i oblygiadau’r weithred honno mewn cyd-destun llesiant byd-eang.

Gofynnwn i chi ddangos (ar gyfer unrhyw gyllido dros £1,000) sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. I wneud hynny, rydym yn argymell eich bod yn tynnu sylw at y nodau hynny sy’n fwyaf perthnasol i weithgareddau eich prosiect, ac yn ysgrifennu paragraff byr yn egluro sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu. Mae mwy o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i’w gweld yma – ewch i’r dudalen ffeithiau i ddod o hyd i’r nod sydd fwyaf perthnasol i chi.