Gwirfoddoli: Stori Felaniaina
Gwirfoddoli: Stori Felaniaina
Mae Felana Lantovololona o Madagascar, gwlad y bobl ag enwau hir a’r lemwr. Penderfynodd fynd i Brifysgol Bangor i wneud ei gradd meistr am ei bod o’r farn y byddai dinas hanesyddol, gymharol fach ar arfordir gogleddol Cymru yn caniatáu iddi ganolbwyntio ar ei hastudiaethau, ac roedd chwedloniaeth a hanes Cymru’n ei chyfareddu.
Rwy’n dra ddiolchgar bod Hub Cymru Africa a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru wedi fy nghynorthwyo i fynychu sawl gweminar yn ymwneud ag ysgrifennu ceisiadau, diogelu a chyfathrebu ymysg eraill.
Ar ddechrau’r cyfnod clo ar ddechrau 2020, penderfynodd Felana wirfoddoli er mwyn gwneud defnydd da o’i hamser ac i gael profiad a sgiliau proffesiynol defnyddiol. Cyfyngodd y cyfnod clo’r cyfleoedd gwirfoddoli wyneb yn wyneb i gyd, oedd yn ymddangos yn rhwystr. Dyma’r adeg y cofiodd Felana ei bod wedi mynychu Ffair Fasnach ar ddiwedd mis Tachwedd 2019. Ysbrydolodd y cydweithredu rhwng y Ffair Fasnach a ffermwyr lleol yn Uganda Felana i ganfod mwy am weithgareddau eraill rhwng cymunedau Cymru ac Affrica. Dyma’r hyn â’i hysgogodd i anfon ebost at Hub Cymru Africa, y mae Masnach Deg Cymru yn bartner iddo. Roedd Hub Cymru Africa wedyn yn gallu dod o hyd i leoliad gwirfoddoli i Felana gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru (NWAS), wedi ei leoli yn y ddinas honno.
Yr unig beth yr oeddwn eisiau ei wneud oedd dianc rhag y diflastod ond, yn y pen draw, llwyddais i feithrin cyfeillgarwch oes gyda’r Affricaniaid a phobl Cymru fel ei gilydd, sgiliau perthnasol ac atgofion oes yn y lle mwyaf rhyfeddol yn y byd.
Roedd dyletswyddau Felana yn rhannol yn cynnwys cynorthwyo NWAS i ysgrifennu ceisiadau am gyllid ac adroddiadau ariannol. Ei phrif rôl, fodd bynnag, oedd helpu i reoli cyfryngau cymdeithasol NWAS a phob dydd, byddai’n neilltuo 30–40 munud i edrych am gyfleoedd sydd yn agored i Affricanwyr yng Nghymru. Wrth i’r dyddiau fynd heibio, canfu ei phwrpas: codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i’r gymuned Ddu yng Ngogledd Cymru. Roedd negeseuon Felana ar y cyfryngau cymdeithasol yn amrywio o gyfleoedd am swyddi neu gynigion am fwrseriaeth i newyddion i godi calon. “Mewn dros 210 o negeseuon, hoffwn feddwl fy mod wedi newid bywyd rhywun a/neu amgyffrediad o’r hyn y gellir ei wneud yng Nghymru.
Diolch yn fawr Cymru, Diolch yn fawr Hub Cymru Africa, Diolch yn fawr NWAS.