Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu undod a chydweithio rhwng Affrica a Chymru. Mae dros 300 o bartneriaethau rhwng Cymru ac Affrica Is-Sahara, sy’n gweithio mewn undod ac yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Rydym yn trefnu ail Gwobrau Partneriaeth Hub Cymru Affrica. Mae’r gwobrau hyn, sy’n agored i bartneriaethau sy’n bodoli rhwng Cymru ac Affrica, yn canolbwyntio ar undod, ecwiti a dysgu ar y cyd.
Mae tri chategori y gallwch wneud cais amdanynt:
- Gwobr Partneriaeth
- Gwobr Cenedlaethau’r Dyfodol
- Gwobr Gwirfoddolwr Unigol
Mae’n rhaid i bob partneriaeth allu dangos eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau ecwitïol rhwng y ddau bartner yn y bartneriaeth:
- Sut mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud?
- Sut ydych chi’n sicrhau bod y gymuned rydych chi’n gweithio gyda hi yn cymryd rhan lawn yn y broses o wneud penderfyniadau?
Mae’r wobr hon yn canolbwyntio ar gryfder y bartneriaeth. Efallai yr hoffech ganolbwyntio ar un o’r pwyntiau isod, neu ar agwedd arall sy’n dangos cryfder ac ecwiti eich perthynas yn eich barn chi:
- Pa ymagwedd ydych chi’n ei mabwysiadu wrth sicrhau bod gweithgareddau a phrosiectau’n cael eu dyfeisio a’u darparu ar y cyd?
- Sut ydych chi’n ymdrin ag atebolrwydd eich gwaith ar y cyd? Sut ydych chi’n casglu ac yn gwneud penderfyniadau ar sail Adborth Cymunedol?
- Sut mae arbenigedd, sgiliau a gwybodaeth o fewn Affrica Is-Sahara yn cael eu cydnabod, eu defnyddio a’u digolledu?
- Ydych chi’n falch o allu adnabod a mynd i’r afael â gwrthdaro posibl neu wirioneddol gyda’ch gilydd, a gweithio drwyddynt?
- Sut ydych chi’n rhannu dysgu ac yn myfyrio gyda’ch gilydd?
- Ydych chi’n meddwl bod eich sefydliad partner yn enghraifft gref o sefydliad sy’n dilyn arfer gorau ac y gall eraill yn y sector ddysgu oddi wrtho?
Mae’r wobr hon yn ymddiddori mewn sut mae partneriaethau’n cofleidio ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym yn chwilio am brosiectau sy’n cyflawni amcanion ar draws meysydd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Rydym hefyd yn chwilio am waith sydd wedi’i gynllunio i sicrhau effaith hirdymor heb gefnogaeth barhaus gan y sefydliad partner Cymreig.
Mae rhai enghreifftiau o weithgareddau a fyddai’n gymwys yn cynnwys:
- A yw eich partneriaeth yn gweithio ar draws themâu fel addysg, iechyd, yr amgylchedd a bywoliaethau mewn ffordd sy’n sicrhau bod gwahanol feysydd yn cefnogi ei gilydd? Er enghraifft, prosiect sy’n dod â phŵer solar i ysgol sy’n caniatáu i’r gymuned ehangach gael mynediad i’r rhyngrwyd ar benwythnosau.
- A yw eich partneriaeth wedi gweithio i leihau ei heffaith amgylcheddol wrth gyflawni gwaith prosiect. Er enghraifft, a ydych wedi lleihau faint o deithio a wneir fel rhan o’ch gwaith?
- A ydych yn mabwysiadu agwedd cyfiawnder cymdeithasol at eich gwaith? A yw eich gwaith yn canolbwyntio ar hawliau dynol, mynediad, cyfranogiad neu degwch? Ydych chi’n cefnogi gwaith sy’n herio achos problemau yn ogystal â cheisio mynd i’r afael â’r symptomau?
- A oes gan eich prosiectau gynllun ymadael sydd wedi’i gynllunio gan y gymuned yr ydych yn gweithio gyda hi?
- A ydych chi’n gweithio’n llwyddiannus yng Nghymru i hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang?
- A yw eich gwaith o fudd arbennig i Gymru, efallai drwy addysg, cyfleoedd economaidd, datblygu sgiliau neu welliannau mewn gofal iechyd?
Pwrpas y wobr hon yw cydnabod gwaith gwirfoddolwr unigol, gan gynnwys ymddiriedolwr. Hoffem glywed sut mae’r unigolyn hwn yn pwyso am ecwiti ac yn cefnogi eraill i gyrraedd eu huchelgeisiau. Rydym eisiau cydnabod unigolyn a allai fod wedi gweithio i:
- Gefnogi a hyrwyddo arbenigedd mewn sefydliad Affrica Is-Sahara / cefnogi a hyrwyddo
- Gynyddu atebolrwydd y sefydliad(au) a’r bartneriaeth a chefnogi newid cadarnhaol
- Gynyddu dysgu a myfyrio dwy ffordd o fewn y bartneriaeth a chyda’r gymuned/rhanddeiliaid ehangach
- Weithio yn erbyn niwed personol neu gymdeithasol i gael effaith gadarnhaol o fewn eu cymuned, naill ai gartref yng Nghymru neu yn Affrica
- Ymhelaethu ar neges masnach deg drwy annog partneriaethau masnach deg lleol
Bydd straeon eraill am waith rhagorol unigolion, felly peidiwch â theimlo’n gyfyngedig i’r enghreifftiau wrth enwebu rhywun.
Sut i Wneud Cais
-
Ceisiadau ar agor: 21ain Mawrth 2023
-
Ceisiadau yn cau: 25ain Ebrill 2023
-
Cyhoeddi’r enillwyr: 19eg Mai 2023
Mae’n rhaid i geisiadau gael eu gwneud ar y cyd gan y ddau bartner o fewn y bartneriaeth.
Dylai pob partneriaeth gyflwyno naill ai’r ffurflen gais isod neu fideo byr.
Dyddiad cau: 25ain Ebrill 2022
Cais fideo
Ni ddylai eich fideo(s) fod yn fwy na phum munud, a dylent gynnwys unigolyn o bob partneriaeth, sy’n siarad yn uniongyrchol â’r camera, a bodloni’r meini prawf canlynol:
- Dylech gyflwyno eich hun a’r categori rydych chi’n gwneud cais amdano (Gwobr Partneriaeth, Gwobr Cynaliadwyedd, neu’r Wobr Gwirfoddolwr Unigol)
- Pam bod eich partneriaeth a’ch cydweithio yn ecwitïol? Rhowch enghraifft o sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud.
- Siaradwch am y categori rydych chi wedi’i ddewis. Pam bod eich gwaith yn enghraifft dda o’r categori hwnnw?
Ni fydd fideos hyrwyddol yn cael eu hystyried.
I wneud cais, anfonwch e-bost i enquiries@hubcymruafrica.org.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Cais (naill ai ffurflen neu fideo)
- O fewn corff yr e-bost, dylech gynnwys:
- Eich enw, eich rhif ffôn, sefydliad, eich rôl o fewn y sefydliad
- Enw eich sefydliad partner, y person dynodedig, ei rôl o fewn y sefydliad, a gwybodaeth gyswllt.
Meini Prawf Cyffredinol
- Mae’n rhaid i’ch partneriaeth fod rhwng sefydliad yng Nghymru a sefydliad yn Affrica.
- Mae’n rhaid bod eich partneriaeth wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd am fwy na 12 mis ac mae’n rhaid cyflwyno’r ffurflen gais fel cais ar y cyd
- Mae sefydliadau partner cymwys sydd wedi’u lleoli yn y ddwy ardal yn gallu bod yn un o’r isod:
- Elusen gofrestredig
- Sefydliad anllywodraethol
- Grŵp cyfansoddedig
- Sefydliad Cymunedol
- Ysgol/prifysgol
- Sefydliad crefyddol
- Menter gymdeithasol
- Cwmni buddiant cymunedol
- Grŵp masnach deg
- Nid ydym yn cydnabod unigolion sy’n gweithio ar eu pen eu hunain o dan y categori hwn.
Gwobrau
Rhoddir gwobrau am y cais buddugol ym mhob categori. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cymeradwyaeth i’ch gwaith gan Hub Cymru Affrica
- Bathodyn gwobr digidol y gallwch ei ychwanegu at eich gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol
- Hamper Masnach Deg
- Lle ar y panel yn yr Uwchgynhadledd Cydsafiad Byd-eang ar 23ain Mai i godi proffil eich partneriaeth
Os ydych yn ansicr a yw eich partneriaeth neu’r naill sefydliad neu’r llall yn gymwys, cysylltwch â advice@hubcymruafrica.org.uk
Astudiaeth achos gwobrau
Os byddwch chi a’ch partner yn llwyddiannus, hoffem greu astudiaeth achos i rannu eich gwaith. Drwy gyflwyno ffurflen gais, rydych yn cytuno i gymryd rhan mewn astudiaeth achos o dan thema’r wobr/gwobrau
Os nad ydych chi’n siŵr p’un a yw eich partneriaeth neu’r naill sefydliad neu’r llall yn gymwys, cysylltwch â advice@hubcymruafrica.org.uk.
Os oes gennych gwestiynau ynghylch sut y byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu astudiaeth achos, cysylltwch â communications@hubcymruafrica.org.uk.