Events

Loading Events

Bob blwyddyn, ar 3 Rhagfyr, mae pobl fyddar ac anabl ar draws y byd yn dathlu’r Diwrnod Ryngwladol Pobl Anabl (IDDP) (sydd yn cael ei alw weithiau’n IDPD), gan hyrwyddo eu bywydau a’u dyheadau. Eleni, mae Anabledd yng Nghymru ac Affrica (DWA) a Hub Cymru Affrica (HCA) yn rhedeg gweminar sy’n amlygu “pwysigrwydd cynhwysiant”. Drwy glywed yn uniongyrchol gan bobl fyddar ac anabl o Kenya, Uganda ac o Gymru, mae’r digwyddiad yn bwriadu archwilio:

  1. Pam bod cynhwysiant mor bwysig?
  2. Beth sy’n digwydd pan nad yw cynhwysiant yn digwydd?
  3. Sut y gellir gweithredu cynhwysiant?

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cofrestriad, gwiriwch eich mewnflwch a’ch sbwriel am yr e-bost cadarnhau. Mae gan hwn ddolen sy’n unigryw i chi y bydd ei hangen arnoch er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad. Bydd angen i chi ddefnyddio’ch mewngofnod i’r cyfrif Zoom rydych wedi cofrestru gydag i ddefnyddio’r ddolen.


Cofrestru

Go to Top