Events

Loading Events

“Dim byd amdanom, hebddon ni” – Michael Masutha & William Rowland

Bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn trafod cael gwared ar rwystrau i bobl ag anabledd, datgymalu canfyddiadau cymdeithasol amdanynt, a hyrwyddo dealltwriaeth gadarnhaol ac iachach. Mae cynhwysiant a dathlu wrth wraidd y digwyddiad ar-lein hwn.

Bydd y digwyddiad hwn yn croesawu siaradwyr o’r gymuned o bobl sydd ag anableddau, a fydd yn rhannu eu barn arbenigol a’u profiadau byw wrth i ni archwilio’r pwnc yng nghyd-destunau Cymru ac Affrica.

Bydd y sesiwn 90 munud hon yn gyfle i:

• glywed am bwysigrwydd dathlu pobl ag anableddau
• dderbyn awgrymiadau ymarferol ar gyfer sefydliadau ac elusennau sy’n gweithio mewn undod byd-eang a datblygu rhyngwladol i hyrwyddo cynhwysiant
• glywed am bwysigrwydd agweddau a ffyrdd o chwalu gwaharddiad
• rannu gwybodaeth ac i,
• ddysgu a chryfhau ymwybyddiaeth ynghylch anabledd.

Yn ystod y sesiwn, byddwn yn clywed gan dri siaradwr anhygoel sy’n cynrychioli’r gymuned:

• Collins Losu o Ghana
• Paul Lindoewood o Gymru a,
• Sam Mwiti o Kenya.

Go to Top