Mae’n bleser gennym gyflwyno Dr Matthew Harris i draddodi Darlith Flynyddol Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica eleni, dan lywyddiaeth Dr Tony Jewell:
“Dad-drefedigaethu atebion gofal iechyd: Arloesi cost isel o wledydd incwm isel”
Yn y ddarlith hon, bydd Dr Harris yn cynnig llwybr i’r GIG fabwysiadu arloesiadau cost isel ond effeithiol o rannau o’r byd a ystyrir yn draddodiadol yn fuddiolwyr, yn hytrach na darparwyr cymorth a chefnogaeth.
Mewn cyfnod lle mae galw cynyddol ac adnoddau prin, a lle mae’r pandemig Covid-19 wedi dangos cyfyngiadau strwythurol y system bresennol, mae’n darparu enghreifftiau o ddewisiadau amgen, syml, cynnil ond o ansawdd uchel i arferion cyfredol, ac yn archwilio’r rhwystrau i’w mabwysiadu.
Mae Matthew Harris yn Uwch Ddarlithydd Clinigol ac yn Ymgynghorydd Anrhydeddus y GIG mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yng Ngholeg Imperial Llundain, ac yn Gyfarwyddwr Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Iechyd y Cyhoedd.
Mae wedi cyhoeddi dros 150 o erthyglau ar iechyd byd-eang, arloesi cynnil a gwrthdroi, ymchwil dad-drefedigaethu a gwasanaethau iechyd. Cyn hynny, roedd yn Gymrawd Harkness Cronfa’r Gymanwlad yn yr Unol Daleithiau (2014-15), yn Ymgynghorydd Iechyd Byd-eang Llywodraeth y DU (2012-14), yn Ymgynghorydd Technegol HIV ym Mozambique (2005), yn Ymgynghorydd Imiwneiddio Sefydliad Iechyd y Byd yn Ethiopia (2004) ac yn Feddyg Teulu yn system gofal sylfaenol Brasil (1999-2003).