Events

Loading Events

Y Mis Pride hwn, ymunwch â Hub Cymru Affrica a SSAP am sgwrs, fel rhan o’n cyfres “Back to Basics”.

Rydym yn eich gwahodd i archwilio rhyw gyda ni, wrth i ni wrando ar safbwyntiau gan ddau unigolyn o Affrica – Zee Monteiro a Linda Devo.

Bydd y sgwrs hon yn rhoi cyflwyniad byr i’r rhai sy’n bresennol i ddeall rhyw y tu allan i ddealltwriaethau cisryweddol gwyn-sentrig prif ffrwd.

Rydym yn gwahodd:

  • Y rhai sydd newydd ddechrau gweithio yng nghymuned Cymru Affrica neu sy’n ystyried ymuno,  ac a hoffai ddysgu mwy am gynwysoldeb
  • Unrhyw un sydd eisiau gweithredu’n fwy cynhwysol o ran pob rhyw
  • Y rhai sy’n ansicr ynghylch sut i ymgysylltu â phobl o rywiau amrywiol, ac sydd eisiau deall sut i gyfathrebu mewn modd mwy cynhwysol.

COFRESTRU

Ar hyn o bryd, mae mis Pride yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ym mis Mehefin, i anrhydeddu Gwrthryfel Stonewall 1969 yn Unol Daleithiau America.

Mae’n ymwneud â phobl yn dod at ei gilydd mewn cariad a chyfeillgarwch, i ddangos pa mor bell mae hawliau lhcdt+ wedi dod, hyd yn oed os oes rhywfaint o waith i’w wneud o hyd mewn rhai mannau.

Mae mis Pride yn ymwneud ag addysgu cynhwysiant, goddefgarwch ac addysg mewn hanes pride, a pharhau i symud ymlaen o ran cydraddoldeb.

Mae’n galw ar bobl i gofio pa mor niweidiol oedd homoffobia, a pha mor niweidiol mae’n dal i fod.

Mae’n ymwneud â bod yn falch o bwy ydych chi, dim ots pwy rydych chi’n ei garu.

Go to Top