Events

Loading Events

“Nid ein storïau ni ydyn nhw i’w hadrodd”

Mae gan bob un ohonom yr hawl i urddas a pharch. Weithiau, nid yw lluniau a storïau sydd yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith elusennau yn adrodd stori mae ein partneriaid yn ei chydnabod fel eu profiad eu hunain.

Ymunwch â ni wrth i ni barhau â’n taith gwrth-hiliaeth trwy gyfrwng y prosiect ‘Ail-fframio’r Naratif’ yn y digwyddiad ar-lein hwn, sy’n rhad ac am ddim.

Mae’r digwyddiad ar agor i wirfoddolwyr, ymddiriedolwyr neu staff sefydliadau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru sy’n gweithio mewn undod byd-eang, a’u partneriaid rhyngwladol.

Drwy’r digwyddiad dysgu ar y cyd hwn; byddwn yn edrych ar dair astudiaeth achos i ystyried sut y gallwn weithio’n well i gefnogi partneriaid i adrodd eu storïau yn eu geiriau eu hunain. Bydd hon yn sesiwn agored, lle bydd y rheiny sydd yn cymryd rhan yn cael cyfle i rannu eu meddyliau, a dysgu gydag eraill.

Astudiaethau Achos

  • Purple Field: Paratoi pobl i adrodd eu storïau eu hunain
  • Teams4U: Gwneud pethau’n wahanol
  • Justice Kalebe: Taelnt lleol a chreu gofod gyda chymunedau

Byddwn yn gofyn i ni’n hunain:

“Pa newidiadau ydyn ni eisiau eu gweld ar draws y sector i’r ffordd y mae storïau yn cael eu hadrodd?” A “Beth allwn ni ei wneud yn wahanol yn ein sefydliadau ein hunain?”

Go to Top