Yn y sesiwn hon, byddwn yn clywed cyngor arbenigol ar y camgymeriadau cyffredin sydd yn cael eu gwneud mewn ceisiadau am gyllid a sut i’w hosgoi, gan yr ymgynghorydd codi arian arbenigol Linnea Renton.
Mae gan Linnea dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector undod byd-eang, gan gynnwys 6 blynedd fel Cyfarwyddwr Gweithredol ymddiriedolaeth Egmont, sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o geisiadau llwyddiannus am gyllid, ac wedi cynghori Sefydliad Waterloo ac United Purpose ar eu prosesau rhoi grantiau.
Yn ei barn hi, mae datblygu cynigion ariannu cryf yn rhan annatod o adeiladu undod rhyngwladol a phartneriaethau moesegol.
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu o’i harbenigedd.
O’r 16eg i’r 20fed o Fai 2021, rydym yn falch iawn o groesawu llu o gyllidwyr, a fydd yn rhannu’r cyfrinachau ar gyfer sut i ysgrifennu grantiau da yn uniongyrchol gyda chi. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael cyfle i ymuno â chyfres o weminarau, i glywed awgrymiadau gan godwyr arian arbenigol.
Nod y digwyddiad wythnos o hyd hwn yw rhoi cipolwg i chi a’ch sefydliad ar safbwyntiau codwyr arian proffesiynol a disgwyliadau rhoddwyr grantiau. Bydd hyn yn eich helpu i gryfhau eich dull gweithredu – o gynllunio a datblygu prosiectau i gyfathrebu am eich gwaith mewn cais am grant neu lythyr apêl.