Ydych chi’n poeni nad yw eich ceisiadau am gyllid yn sefyll allan?
Ydych chi’n bachu sylw rhoddwyr grantiau?
Ydych chi eisiau gloywi sut rydych chi’n siarad am eich PGU (Pwynt Gwerthu Unigryw)?
Ymunwch â Rachal Minchinton, wrth iddi eich helpu i adnabod a siarad am eich sefydliad mewn ffordd sy’n bachu sylw cyllidwyr ac sy’n cadw eu diddordeb.
Mae Rachal wedi bod yn godwr arian llwyddiannus ers dros 17 mlynedd, ac wedi ymrwymo i achosion sy’n cynnwys cyfiawnder cymdeithasol, iechyd a phobl ifanc. Mae ganddi brofiad sylweddol yn codi arian gydag ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol, ac mae ganddi hanes o godi incwm gwirfoddol i wireddu gwydnwch a thwf sefydliadau.
Ymunodd â Richard Newton Consulting ym mis Mai 2021 fel Dirprwy Gyfarwyddwr, gan ddod yn rhan o dîm o ymgynghorwyr sy’n cefnogi sefydliadau dielw gyda materion codi arian, cynllunio busnes, astudiaethau dichonoldeb, gwerthuso a mesur effaith.
Mae Richard Newton Consulting wedi bod yn cefnogi sefydliadau dielw ar draws Cymru a’r DU ers 20 mlynedd, gan gynnig cyngor a chymorth ymarferol, realistig sy’n cydnabod pwysigrwydd codi arian i gynaliadwyedd hirdymor pob sefydliad.
O’r 16eg i’r 20fed o Fai 2021, rydym yn falch iawn o groesawu llu o gyllidwyr, a fydd yn rhannu’r cyfrinachau ar gyfer sut i ysgrifennu grantiau da yn uniongyrchol gyda chi. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael cyfle i ymuno â chyfres o weminarau, i glywed awgrymiadau gan godwyr arian arbenigol.
Nod y digwyddiad wythnos o hyd hwn yw rhoi cipolwg i chi a’ch sefydliad ar safbwyntiau codwyr arian proffesiynol a disgwyliadau rhoddwyr grantiau. Bydd hyn yn eich helpu i gryfhau eich dull gweithredu – o gynllunio a datblygu prosiectau i gyfathrebu am eich gwaith mewn cais am grant neu lythyr apêl.