Dewch i gwrdd ag aelodau o’r gymuned Undod Byd-eang yng Nghymru sydd wedi bod yn llwyddiannus yn eu hymdrechion codi arian.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn clywed awgrymiadau a chyngor ymarferol gan y sector am sut i godi arian yn llwyddiannus.
O’r 16eg i’r 20fed o Fai 2021, rydym yn falch iawn o groesawu llu o gyllidwyr, a fydd yn rhannu’r cyfrinachau ar gyfer sut i ysgrifennu grantiau da yn uniongyrchol gyda chi. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael cyfle i ymuno â chyfres o weminarau, i glywed awgrymiadau gan godwyr arian arbenigol.
Nod y digwyddiad wythnos o hyd hwn yw rhoi cipolwg i chi a’ch sefydliad ar safbwyntiau codwyr arian proffesiynol a disgwyliadau rhoddwyr grantiau. Bydd hyn yn eich helpu i gryfhau eich dull gweithredu – o gynllunio a datblygu prosiectau i gyfathrebu am eich gwaith mewn cais am grant neu lythyr apêl.