Events

Loading Events

Hyfforddiant Diogelu i Swyddogion Diogelu ac Ymddiriedolwyr 

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn?

 

  • Mae hwn yn hyfforddiant gorfodol ar gyfer swyddogion diogelu sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, sy’n cynnwys swyddogion diogelu partneriaid yn Affrica, os yw hyn yn bosibl
  • Mae Hanfodion Diogelu yn rhagofyniad ar gyfer yr hyfforddiant hwn, oni bai eich bod chi wedi cwblhau hyfforddiant cyfatebol o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

 

Bydd yr hyfforddiant hwn yn adeiladu ar yr hyfforddiant Hanfodion, ac yn canolbwyntio ar:

 

  • Rolau a chyfrifoldebau’r Swyddog Diogelu
  • Rolau a chyfrifoldebau’r Ymddiriedolwyr mewn perthynas â Diogelu, gan gynnwys cyfrifoldebau penodol yr Ymddiriedolwr Diogelu
  • Arweinyddiaeth, ac ar hwyluso diwylliant sefydliadol diogel
  • Ymateb i ddigwyddiad, gan gynnwys rheoli ymchwiliadau
  • Adrodd, gan gynnwys adrodd i’r Comisiwn Elusennau
  • Ofynion rhoddwyr mewn perthynas â Diogelu
  • Rannu templedi ar gyfer dogfennau pwysig y bydd angen i chi eu cynhyrchu i gefnogi’r arferion gorau o ran atal, ymateb ac adrodd.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn digwydd ar-lein drwy Zoom, ac mae’n hyfforddiant cyfranogol.

Cofrestru

Go to Top