Microgyllido, cynlluniau cynilo a benthyciadau pentrefi, a menter gymdeithasol fel llwybrau i gynaladwyedd – h.y. economi o’r gwaelod i fyny.
Yn y Digwyddiad Rhannu Dysgu hwn, byddwn yn clywed yn uniongyrchol gan sefydliadau am y profiad o redeg cynlluniau microgyllido yn Affrica.
Mae microgyllido yn cyfeirio at wasanaethau ariannol (e.e. benthyciadau, cynilion, yswiriant, cynlluniau menter gymdeithasol) a ddarperir i unigolion neu grwpiau sydd fel rheol wedi’u hallgau rhan bancio ffurfiol neu draddodiadol. Defnyddir y cynlluniau hyn yn helaeth mewn gwahanol gyd-destunau gyda’r nod o wella bywoliaethau a gwytnwch yn wyneb argyfwng.
- Beth yw rhai o’r gwahanol fframweithiau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer cynlluniau cynilo a benthyciadau pentref?
- Beth yw’r ystyriaethau wrth sefydlu’r cynlluniau hyn, a beth yw’r heriau, y llwyddiannau, yr effaith a’r pethau allweddol a ddysgwyd gan y rhai sydd wedi’u defnyddio?
- Pa addasiadau sydd wedi cael eu gwneud yn ystod pandemig Covid-19, a sut mae hyn wedi effeithio ar allu’r grwpiau i barhau?
- Sut maen nhw wedi’u cysylltu â chynlluniau menter gymdeithasol i gynyddu’r effaith?
- Sut y gall hyn leihau dibyniaeth ar gymorth allanol?
Bydd cyflwyniadau byr, trafodaeth banel, sesiwn holi-ac-ateb, a bydd adnoddau allweddol yn cael eu rhannu.
Cyflwynwch unrhyw gwestiynau ar gyfer y panel i advice@hubcymruafrica.org.uk.