Events

Loading Events

Bydd y gweithdy ar-lein rhad ac am ddim hwn yn archwilio natur storïau ac adrodd storïau ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn undod byd-eang.

Yn ymuno â ni bydd Kieran O’Brien, cyfarwyddwr yr asiantaeth adrodd storïau Ministory (Ministory.co.uk) a chrëwr y fethodoleg ‘Adrodd storïau am achos’.

Mae gan Kieran dros 15 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector elusennol ar ystod eang o brosiectau ac ymgyrchoedd creadigol. Ei gred ganolog yw mai’r hyn sy’n ein dal yn ôl, o ran ymgysylltu â chynulleidfa, yw mabwysiadu’r rhesymeg farchnata ar raddfa eang o fewn sefydliadau sy’n cael eu gyrru gan achosion. Yn hytrach, mae’n dadlau, mae angen i ni fod yn adroddwyr storïau. Nid yn unig adrodd storïau i ddeffro emosiynau, ond storïau sy’n ddilys ac sy’n creu’r sylfeini lle gall newid ystyrlon ddigwydd.

Go to Top