Events

Loading Events

Mesur eich Effaith gyda Gwerth Cymdeithasol Cymru

Sut fyddai’r bobl sy’n ganolbwynt i’ch gwaith yn esbonio canlyniadau eich gweithgareddau?

Ai eich perfformiad ariannol chi fyddai hynny? Neu a yw’n fwy tebygol y byddent yn disgrifio pethau fel cael mwy o hyder/gwell iechyd?

Os yw newidiadau i fywydau pobl fel y rhain yn ganlyniadau eich gwaith, rydych chi’n creu gwerth cymdeithasol. Ond, allwch chi egluro pa mor bwysig ydy’r newidiadau hyn i bobl?

Ymunwch â Chymuned Ymarfer MEAL Hub Cymru Africa wrth iddyn groesawu Mathew Lewis, swyddog Mesur Gwerth Cymdeithasol yn Mantell Gwynedd, rhan o Gwerth Cymdeithasol Cymru, wrth iddo gyflwyno gwerth cymdeithasol a rhannu cyngor ar sut i’w fesur yn ein gwaith. Mae Gwerth Cymdeithasol Cymru yn darparu gwasanaethau cymorth, cyngor ac ymgynghori ar werth cymdeithasol i sefydliadau’r trydydd sector ar draws Gwynedd a thu hwnt.

COFRESTRU

Go to Top