“Cydgynhyrchu! Cydweithredu! Cyd-greu! Yn gyfartal!” Dyma rai o’r geiriau rydych chi’n eu clywed wrth sôn am bartneriaeth. Ond beth maen nhw’n golygu mewn gwirionedd? Sut y gallwn gynnal perthynas gryf ac effeithiol gyda’n partneriaid? Beth sy’n digwydd pan fydd pethau’n mynd o’i le? Sut mae datrys gwrthdaro?
Rydym yn byw mewn cymdeithasau cymhleth, lle mae gweithredu prosiectau a fframweithiau polisi sydd yn eu lle yn aml ddim yn darparu atebion boddhaol i nifer cynyddol o broblemau. Wrth chwilio am fodelau sefydliadol a allai gyflawni mwy o ganlyniadau datblygu, a rhai gwell, gellid dadlau bod partneriaeth ymhlith yr atebion mwyaf poblogaidd a gynigir. Ond mae’r dystiolaeth o gyfraniadau partneriaethau i berfformiad gwirioneddol wedi bod ar y cyfan, yn anecdotaidd.
Mae etifeddiaeth hanesyddol a hanes y sector yn golygu bod gan wledydd incwm uwch fwy o bŵer na gwledydd incwm isel/canolig. Mae sefydliadau o wledydd incwm uchel gyda mwy o ddylanwad ar y bartneriaeth na’r rhai o wledydd incwm isel/canolig. Yn rhannol am eu bod yn rheoli’r “llinynnau pwrs” ac felly, yn dal y pŵer ond hefyd, oherwydd ffurfiad hanesyddol y sector. Wrth i ni ddadgoloneiddio ein sector ac amharu ar yr anghydbwysedd traddodiadol o ran pŵer, beth ddylai partneriaid ar ddau ben y ddeinamig ei wneud i sicrhau bod eu perthynas yn deg ac o fudd i bawb sydd ynghlwm?
Mae’r digwyddiad dysgu ar y cyd hwn ar gyfer ymarferwyr datblygu, myfyrwyr, ymchwilwyr a’r rheini sydd â diddordeb mewn dadgoloniedido’r sector datblygu ac undod. Ei nod yw darparu lle i drafod y pethau sy’n gweithio ac sydd ddim yn gweithio mewn partneriaethau, a darparu offer i sefydliadau datblygu eu defnyddio wrth weithio gyda phartneriaid.